Ymunwch â’r Gymuned Ymarfer Gwrth-Hiliaeth mewn Dysgu, Addysgu ac Arweinyddiaeth (Staff Cardiff Met yn Unig)

Gwahoddir cydweithwyr i’r Gymuned Ymarfer Gwrth-Hiliaeth mewn Dysgu, Addysgu ac Arweinyddiaeth nesaf ddydd Mawrth 17 Tachwedd, gyda’r hwylusydd gwadd Aisha Thomas, actifydd addysgol a gydnabyddir yn genedlaethol ac eiriolwr dros arferion gwrth-hiliol.

Dyddiad: Dydd Mawrth 17 Tachwedd 2026
Amser: 1yp i 3yp
Lleoliad: M0.02 (Ystafell PLDA), Llandaf

Dolen Archebu ar gyfer Staff Cardiff Met yn Unig: Communities of Practice: Anti-Racism in Learning, Teaching & Leadership | Gwrth-hiliol mewn Dysgu, Addysgu ac Arweinyddiaeth

Yn sylfaenydd yr ymgynghoriaeth addysgol Representation Matters, mae Aisha Thomas yn adnabyddus am ei gwaith yn mynd i’r afael â thegraddoldeb hil mewn addysg, gan gynnwys cyflwyno rhaglen ddogfen y BBC ar ddiffyg athrawon Du yn ysgolion Bryste a helpu i ddatblygu Cwricwlwm One Bristol, sy’n hyrwyddo cynrychiolaeth fwy teg o hanes, cyflawniad a diwylliant Pobl Dduon yn y ddinas a thu hwnt.

Mae’r sesiwn hon yn cynnig cyfle gwerthfawr i glywed profiadau Aisha, archwilio arferion gwrth-hiliol mewn addysg uwch, a chymryd rhan mewn trafodaeth ystyrlon gyda chydweithwyr o bob rhan o Met Caerdydd.

Mae’r CoP Gwrth-Hiliaeth mewn Dysgu, Addysgu ac Arweinyddiaeth yn dwyn ynghyd staff sydd â diddordeb mewn hyrwyddo cydraddoldeb hil ar draws y Brifysgol. Wedi’i wreiddio yng ngwaith DARPL (Amrywiaeth a Gwrth-Hiliaeth mewn Dysgu Proffesiynol) ac ymrwymiad Met Caerdydd i ddod yn sefydliad dysgu gwrth-hiliol, mae’r CoP yn darparu lle i gydweithwyr ddatblygu ymwybyddiaeth feirniadol, llythrennedd hiliol ac arweinyddiaeth foesegol.

P’un a ydych eisoes yn ymwneud â’r gwaith hwn neu’n awyddus i ddysgu mwy, mae croeso i holl staff Met Caerdydd fynychu.

Rhannu cynnwys