Dysgu Proffesiynol

Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon

Mae Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon DARPL yn blatfform arbennig i gefnogi gweithwyr proffesiynol yn y sectorau diwylliant, treftadaeth a chwaraeon i wreiddio ymarfer gwrth-hiliol yn eu gwaith. Mae’n cynnig adnoddau wedi’u curadu a gwybodaeth sector-benodol i hyrwyddo gwrth-hiliaeth, cymhwysedd diwylliannol, a dylunio a darparu gwasanaethau cynhwysol.

Mae’r canllaw rhagarweiniol cryno hwn yn archwilio egwyddorion
ac arferion cynghreiriaeth effeithiol ac ymyrryd mewn sefyllfaoedd
niweidiol o fewn cyd-destunau chwaraeon a diwylliannol. Gwnewch
yn siŵr eich bod yn clicio ar y dolenni sydd wedi’u hymwreiddio i gael
gwybodaeth fanylach ar ffurf fideos byr a gwefannau defnyddiol.