Mae DARPL yn dwyn ynghyd dîm amrywiol o ddarparwyr sydd â phrofiad byw a phroffesiynol drwy hwb dysgu ac adnoddau proffesiynol sydd â safbwynt Cymreig o ran codi ymwybyddiaeth amlddisgyblaethol o hiliaeth, wrth i ni weithio gyda'n gilydd yn y Cwricwlwm Newydd i Gymru.
Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y Cwricwlwm Newydd.
Mae gwaith DARPL yn canolbwyntio ar ddysgu proffesiynol i'r rheini sy'n gweithio mewn lleoliadau addysgol i ddatblygu dealltwriaeth cyfranogwyr o wrth-hiliaeth, a ddylai arwain at ddatblygu ymarfer gwrth-hiliol. Mae'r dysgu proffesiynol wedi cael ei ddatblygu i ystyried rolau gwahanol y rheini sy'n gweithio mewn lleoliadau addysgol ac mae wedi'i deilwra i gefnogi hynny.
Ein gweledigaeth yw sicrhau bod y rheini sy'n gweithio ym maes addysg yn barod i ymgymryd ag ymarfer gwrth-hiliol sy'n cefnogi'r nod o fod yn Gymru wrth-hiliol erbyn 2030.
Mae DARPL yn cynnwys ymchwil, enghreifftiau cyfredol, clipiau fideo a phrofiadau byw er mwyn sicrhau bod y cysyniadau a ystyrir yn cael eu deall a bod ymarfer gwrth-hiliol yn cael ei roi ar waith ar bob lefel, ym mhob lleoliad.
Mae DARPL (Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliol) yn dwyn ynghyd dîm amrywiol o ddarparwyr a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n cydweithio ar y platfform hwn.
Recriwtio a Chadw Athrawon Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru – Astudiaeth Ymchwil Ansoddol.
Nod DARPL yw helpu ymarferwyr i ddechrau ar eu siwrnai Dysgu Proffesiynol Gwrth-hiliol, Cymhwysedd Diwylliannol a Chysylltiadau Hiliol ym maes addysg yng Nghymru. Mae angen i arweinwyr, athrawon, staff ehangach ysgolion a dysgwyr gael cymorth i sefydlu eu dulliau ysgol gyfan er mwyn iddynt barhau i weithio mewn ffyrdd newydd a fydd yn sicrhau bod cyfraniadau a phresenoldeb Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cael eu hymgorffori yn ein Cwricwlwm Newydd i Gymru o fis Medi 2022 ac yn parhau i fod yn rhan ohono.
Mae DARPL (Dysgu Proffesiynol ar Wrth-hiliaeth ac Amrywiaeth) yn dwyn ynghyd dîm amrywiol o ddarparwyr a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac sy’n cydweithio ar y platfform hwn. Mae’n cynnwys adnoddau, addysgu a dysgu proffesiynol ar gyfer codi ymwybyddiaeth o hiliaeth, o safbwynt Cymru ac ar draws y disgyblaethau, wrth i bawb gydweithio mewn perthynas â’r Cwricwlwm Newydd i Gymru.
Mae’r prosiect hwn yn dilyn y gwaith arloesol diweddar a wnaed gan Lywodraeth Cymru, dan arweiniad yr Athro Charlotte Williams a’r Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Cwricwlwm Newydd (Llywodraeth Cymru, 2021). Fe wnaeth Llywodraeth Cymru hefyd gyhoeddi Cynllun Gweithredu ym mis Hydref 2021 ar gyfer y proffesiwn addysgu yng Nghymru a Phrifysgolion Cymru, er mwyn croesawu’r agenda hon am newid a dechrau sicrhau tegwch i arweinwyr, athrawon ysgol a myfyrwyr Addysg Gychwynnol i Athrawon o Leiafrifoedd Ethnig.
Mae DARPL a phartneriaid yn rheoli ein digwyddiadau dysgu proffesiynol drwy Eventbrite.
Pan fyddwch yn cofrestru, bydd Eventbrite yn casglu eich enw a’ch cyfeiriad e-bost fel rhan o’r broses honno.
Drwy gadw lle yn y digwyddiad drwy Eventbrite rydych yn cytuno i’w Polisi Preifatrwydd a’u Telerau a’u Hamodau..
CYSYLLTU
Mae Tîm DARPL yn glymblaid ddynamig o ddarparwyr annibynnol sydd ag ystod eang o arbenigedd a phrofiad byw a phroffesiynol. Mae Tîm DARPL yn edrych ymlaen at y cyfle i weithio gyda chi, eich ysgolion, colegau a sefydliadau. Gyda'n gilydd yng Nghymru, gallwn lwyddo i wneud gwahaniaeth yn y newid sylweddol hwn wrth i ni gyd symud tuag at REAP (2030) a Chymru ‘wrth-hiliol’.
Rydym yn croesawu cwestiynau, syniadau a cheisiadau i gymryd rhan yn y bartneriaeth.