Rydym yn falch iawn o gyhoeddi carreg filltir bwysig i DARPL: mae ein Cyfres Arweinyddiaeth Well wedi cael ei hail-ardystio’n swyddogol gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol (NAEL)! Mae’r ardystiad nodedig hwn yn cydnabod ymrwymiad y rhaglen i ddatblygu arweinwyr eithriadol yn ein sefydliad ac ar draws tirwedd addysgol Cymru.
Mae’r llwyddiant hwn yn brawf o waith caled, ymroddiad a syniadau arloesol pawb sydd wedi ymwneud â dylunio a chyflwyno’r rhaglen. Mae ardystiad NAEL yn dilysu ansawdd ac effaith ein hymdrechion, gan atgyfnerthu ein safle fel arweinydd yn meithrin rhagoriaeth mewn dysgu proffesiynol gwrth-hiliol.
Beth mae’r ardystiad hwn yn ei olygu i DARPL ac i’n cydweithwyr?
• Cydnabod Rhagoriaeth: Mae proses werthuso drylwyr NAEL yn cadarnhau bod ein rhaglen yn cyrraedd y safonau uchaf o ran datblygu arweinyddiaeth, gan gyd-fynd ag arferion gorau cenedlaethol.
• Mwy o Hygrededd: Mae’r ardystiad yn ychwanegu cryn bwys at y rhaglen, gan roi cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol i gyfranogwyr, sy’n cryfhau eu proffil proffesiynol.
• Rhagor o Gyfleoedd: Mae’r ardystiad hwn yn agor drysau i ragor o gyfleoedd i gydweithio ac i rwydweithio gyda rhaglenni ac arweinwyr eraill sydd wedi cael eu hardystio gan NAEL ledled Cymru.
• Ymrwymiad i Welliant Parhaus: Mae’r llwyddiant hwn yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i ddatblygu a mireinio ein rhaglenni arweinyddiaeth yn barhaus, gan sicrhau eu bod yn dal yn berthnasol ac yn effeithiol.
Dywedodd Kin Yu, Arweinydd y Gyfres Arweinyddiaeth Well:
‘Rydym yn hynod falch o dderbyn yr ardystiad hwn gan NAEL. Mae’n adlewyrchu ein gwaith tîm a’n hymroddiad i rymuso ein cydweithwyr i ddod yn arweinwyr effeithiol ac ysbrydoledig. Rydym wedi gweithio gyda’n gilydd i wreiddio adnoddau mesur effaith ac rydym yn edrych ymlaen at weld a rhannu’r effaith gadarnhaol a gaiff arweinwyr ar ddyfodol addysg yng Nghymru.”
Beth yw’r Gyfres Arweinyddiaeth Well?
Mae’r Gyfres Arweinyddiaeth Well yn rhaglen sydd wedi’i thargedu ar gyfer arweinwyr ym maes Addysg ledled Cymru. Gan adeiladu ar sylfeini cyfres Arweinwyr Uwch DARPL, mae ein Cyfres Arweinyddiaeth Well yn canolbwyntio ar ddatblygu arweinyddiaeth wrth-hiliol drwy gyfuniad o sesiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb.
Mae prif ddeilliannau’r rhaglen yn cynnwys dyfnhau hunanfyfyrio, diffinio a gweithredu arferion gwrth-hiliol, creu mannau diogel a dewr, datblygu adnoddau a pholisïau gwrth-hiliol, dysgu ar sail gweithredu, mynd i’r afael â rhwystrau i newid, diwygio cynlluniau tegwch strategol a gwella meddwl yn feirniadol.
Edrych i’r Dyfodol:
Rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant hwn a pharhau i ddarparu cyfleoedd datblygu arweinyddiaeth eithriadol. Rydym yn gweithio i ehangu’r cynnig gyda rhaglen benodol ar gyfer arweinwyr gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Llongyfarchiadau i bawb sy’n ymwneud â gwneud y llwyddiant hwn a’r gyfres yn bosibl! Rydym yn falch o fod yn rhan o dîm sydd wedi ymrwymo i feithrin rhagoriaeth mewn arweinyddiaeth wrth-hiliol.