Cwestiynau Cyffredin

Ymholiadau ynghylch Cofrestru

Sut ydw i'n creu cyfrif newydd neu’n cofrestru ar wefan DARPL?
  • Ewch i wefan https://darpl.cymru/.
  • Cliciwch ar Cofrestru/ Mewngofnodi ar y ddewislen llywio.
  • Rhowch y wybodaeth angenrheidiol gyda chyfeiriad e-bost dilys.
  • Dilyswch eich cyfeiriad e-bost trwy glicio ar y ddolen a anfonwyd i’ch e-bost/ffolder sbam neu sothach.
  • Ar ôl dilysu, gallwch fewngofnodi a dechrau cofrestru ar gyrsiau.
    • Os nad ydych yn derbyn yr e-bost neu os nad ydych yn gallu cael mynediad at gyrsiau, cysylltwch â chymorth-TG DARPL – Cefnogaeth TG

(Mewn rhai achosion, efallai na fydd angen dilysu a bydd modd i chi gael mynediad uniongyrchol at gyrsiau)

  • Edrychwch yn eich ffolder sbam neu sothach am yr e-bost dilysu.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod wedi rhoi’r cyfeiriad e-bost cywir wrth gofrestru.
  • Gofynnwch am e-bost dilysu newydd trwy glicio ar y ddolen “Ail-anfon E-bost Dilysu” ar y dudalen gofrestru.
  • Os ydych chi’n dal heb dderbyn yr e-bost, cysylltwch â’r tîm cymorth – Cefnogaeth TG
  • Gwnewch yn siŵr fod yr holl feysydd gofynnol wedi cael eu llenwi’n gywir a’ch bod wedi ticio unrhyw flychau
  • Gwnewch yn siŵr fod eich cyfrinair yn bodloni’r gofynion penodol (e.e. hyd, nodau arbennig).
  • Rhowch gynnig ar adnewyddu’r dudalen neu defnyddiwch borwr gwahanol / neu ddull Anhysbys ar Google Chrome.
  • Os ydych chi’n dal i gael problemau, cysylltwch â’r tîm cymorth – Cefnogaeth TG gyda manylion a sgrinluniau o’r broblem.
  • Mewngofnodwch i’ch cyfrif ac ewch i’r dudalen gosodiadau proffil.
  • Golygwch y meysydd angenrheidiol fel enw, e-bost a gwybodaeth gyswllt.
  • Cadwch y newidiadau trwy glicio ar y botwm “Diweddaru” neu “Cadw.”
  • Gwnewch yn siŵr fod eich cyfeiriad e-bost wedi’i ddiweddaru er mwyn derbyn hysbysiadau pwysig.

Problemau Mewngofnodi

Rydw i wedi anghofio fy nghyfrinair. Sut ydw i'n ei ailosod?
  • Cliciwch ar y ddolen “Anghofio Cyfrinair” ar y dudalen fewngofnodi, neu cliciwch ar y blwch melyn uchod sy’n dweud ”Gwall: Mae’r enw defnyddiwr neu’r cyfrinair a ddefnyddiwyd yn anghywir: Wedi colli eich cyfrinair?”.
  • Rhowch eich cyfeiriad e-bost cofrestredig ac yna dylech Ailosod eich cyfrinair neu Cael cyfrinair newydd.
  • Edrychwch yn eich e-bost am ddolen ailosod cyfrinair gan WordPress a dilynwch y cyfarwyddiadau i greu cyfrinair newydd.
  • Os nad ydych yn derbyn yr e-bost, edrychwch ar eich ffolder sbam neu sothach.
  • Os ydych chi’n dal i gael problemau, cysylltwch â’r tîm cymorth gyda manylion a sgrinluniau o’r broblem – Cefnogaeth TG
  • Gwiriwch eich cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair unwaith eto rhag ofn eich bod wedi camdeipio.
  • Gwnewch yn siŵr nad yw’r botwm PRIF LYTHRENNAU ymlaen.
  • Ceisiwch ailosod eich cyfrinair gan ddefnyddio’r ddolen “Anghofio Cyfrinair.”
  • Os ydych chi’n dal i fethu â mewngofnodi, cysylltwch â’r tîm cymorth – Cefnogaeth TG gyda manylion eich cyfrif er mwyn cael cymorth pellach.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r manylion mewngofnodi cywir.
  • Cliriwch storfa a chwcis eich porwr, yna ceisiwch fewngofnodi eto.
  • Ceisiwch adnewyddu’r dudalen neu defnyddiwch borwr gwahanol/ neu ddull Anhysbys ar Google Chrome
  • Os ydych chi’n dal i gael problemau, cysylltwch â’r tîm cymorth Cefnogaeth TG gyda sgrînlun o’r neges gwall a manylion am eich ymgais i fewngofnodi.

Cael mynediad i Gyrsiau

Sut ydw i'n cofrestru ar gyfer cwrs?
  • Ewch i wefan https://darpl.cymru/.
  • Os oes gennych chi gyfrif eisoes, yna cliciwch ar y Tab E-Ddysgu Proffesiynol ar y ddewislen llywio.
  • Porwch drwy’r catalog cyrsiau trwy sgrolio i lawr a dewiswch y cwrs rydych chi am gofrestru arno.
  • Cliciwch ar y botwm “Cofrestru nawr” a chliciwch ar ‘Dechrau Dysgu’
  • Ar ôl cofrestru, bydd y cwrs yn ymddangos yn eich dangosfwrdd o dan “Fy Nghyrsiau.”
  • Gwnewch yn siŵr eich bod wedi mewngofnodi i’r cyfrif cywir.
  • Os oes gennych chi gyfrif eisoes, yna cliciwch ar y Tab E-Ddysgu Proffesiynol ar y ddewislen llywio.
  • Porwch drwy’r catalog cyrsiau trwy sgrolio i lawr a dewiswch y cwrs rydych chi am gael mynediad iddo.
  • Adnewyddwch eich tudalen dangosfwrdd neu cliriwch storfa eich porwr.
  • Os nad yw’r cwrs yn ymddangos o hyd, cysylltwch â’r tîm cymorth – Cefnogaeth TG gyda’ch manylion cofrestru.
  • Mewngofnodwch i’ch cyfrif ac ewch i “E-Ddysgu Proffesiynol”.
  • Cliciwch ar deitl y cwrs i fynd at dudalen y cwrs.
  • Cliciwch ar y botwm ‘Cofrestru nawr’ neu ‘Dechrau Dysgu’.
  • Ar ôl gorffen, ticiwch i ddangos ei fod wedi’i orffen.
  • Gwiriwch eich cysylltiad â’r rhyngrwyd a gwnewch yn siŵr ei fod yn sefydlog.
  • Adnewyddwch y dudalen neu ceisiwch gyrchu’r deunydd o borwr neu ddyfais wahanol.
  • Cliriwch storfa a chwcis eich porwr.
  • Os bydd y broblem yn parhau, cysylltwch â’r tîm cymorth – Cefnogaeth TG a rhowch fanylion y broblem.
  • Ydw i’n gallu lawrlwytho deunyddiau’r cwrs i’w defnyddio all-lein?
    Ateb:
  • Gwiriwch eich cysylltiad â’r rhyngrwyd a gwnewch yn siŵr ei fod yn sefydlog.
  • Efallai y bydd rhai deunyddiau ar gael i’w lawrlwytho yn dibynnu ar bolisi’r cwrs.
  • Chwiliwch am fotwm lawrlwytho neu ddolen wrth ymyl y deunydd rydych chi am ei gadw.
  • Gwnewch yn siŵr fod gennych chi ddigon o le i storio cynnwys ar eich dyfais.
  • Ar gyfer fideos neu gynnwys rhyngweithiol, gwiriwch a oes opsiwn i’w lawrlwytho neu ei weld all-lein.

Arall: Problemau Technegol

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n cael problemau technegol yn ystod y cwrs?
  • Tynnwch sgrinluniau o unrhyw negeseuon gwall neu broblemau.
  • Rhowch wybod i’n tîm cymorth ar unwaith am y broblem.
  • Adnewyddwch y dudalen porwr, cliriwch y storfa a’r cwcis.
  • Dilynwch unrhyw gamau datrys problemau penodol a awgrymir gan y tîm cymorth.

    Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau eraill neu os oes angen cymorth pellach arnoch, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm cymorth – Cefnogaeth TG – rydym yma i helpu!

Cadwch mewn cysylltiad
ar gyfryngau cymdeithasol