Rhwydwaith Eiriolaeth DARPL (DAN)

Amdanom Ni

Mae Rhwydwaith Eiriolaeth DARPL (DAN) yn Gymuned Ymarfer genedlaethol ar gyfer sefydliadau dysgu sydd wedi ymrwymo i arweinyddiaeth wrth-hiliaeth flaengar trwy ddull sefydliad dysgu cyfan sydd wedi’i wreiddio.

Mae DAN yn cefnogi ac yn hwyluso datblygu a rhannu arfer gwrth-hiliaeth ardderchog. Mae tri cham y gall eich sefydliad adeiladu arnynt a gweithio tuag atynt.

Fel aelod o DAN bydd eich sefydliad dysgu yn elwa o gymorth ac arweiniad gan rwydwaith DARPL. Mae hyn yn cynnwys cyfleoedd dysgu proffesiynol, cymorth gyda datblygu polisi ar gyfer Cynlluniau Gwella / Datblygu Ysgol (CDY / CHW) yn ogystal ag arweiniad wrth ymateb i ddigwyddiadau hiliol a datblygu cwricwlwm gwrth-hiliol.

Amlinellir gofynion ac ymrwymiadau eich sefydliadau dysgu yn Llyfryn Gwybodaeth DAN.

Edrychwn ymlaen at DARPLio gyda chi cyn hir!