Ein Cymuned Ymarfer

Mae Cymuned Ymarfer DARPL – sy’n trefnu ac yn rheoli ei gweithgareddau ei hun – yn gasgliad o athrawon, arweinwyr, ymchwilwyr, ymgyrchwyr dros gydraddoldeb, a gweithwyr proffesiynol o bob haen o addysg a gofal plant sy’n frwd dros sicrhau gwrth-hiliaeth yng Nghymru. Mae mannau ein Cymuned Ymarfer DARPL yn cynnig cyfleoedd rheolaidd i rannu a datblygu gwybodaeth, profiadau, hyder a sgiliau – gyda’r nod o ddatblygu dealltwriaeth newydd ar gyfer gwella, drwy gymorth gan gymheiriaid, herio a chydweithio.

Beth rydyn ni’n ei wneud?

Sgyrsiau Dewr Rydym yn cynnal lleoedd Sgyrsiau Dewr, Cydgynllunio a Gweithredu bob tymor i fyfyrio, rhannu ac adeiladu gyda’n gilydd ar gyfer arweinwyr Ysgolion a Gofal Plant, Blynyddoedd Cynnar a Chwarae. Drwy gydweithredu a rhyngweithio, rydym yn ymdrechu i ddatblygu llwybrau at ddysgu a chynhyrchu a lledaenu deunydd myfyrio a chanlyniadau ymchwil sy’n adrodd ar rannu gwybodaeth ac yn ysbrydoli sgyrsiau diogel a gonest. Drwy’r prosesau hyn, rydym yn dod yn gymuned o bobl gwrth-hiliol mwy gwybodus. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â darpl@cardiffmet.ac.uk

O fewn ein cymunedau ymarfer, gallwn ail-sbarduno strategaeth, a dulliau newydd o addysgu a dysgu a chyd-lunio ein dysgu proffesiynol.

Cadw mewn cysylltiad
ar y cyfryngau