Ymchwil

Mae cangen ymchwil DARPL (Amrywiaeth a Dysgu Proffesiynol Gwrth-hiliol) yn rhan o’r uchelgais a rennir yng Nghymru o sicrhau Cymru wrth-hiliol erbyn 2030, ac mae wedi ymrwymo i gynnal ymchwil effeithiol sy’n canolbwyntio ar degwch hiliol o’r blynyddoedd cynnar i’r ysgol. Rydym yn pwysleisio’r angen i gwestiynu a herio anghydraddoldebau hiliol mewn addysg yng Nghymru a’r tu hwnt, yn ogystal â’r strwythurau a’r diwylliannau sy’n cefnogi hyn. Mae ein gweithgareddau ymchwil parhaus yn adlewyrchu hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd. Yn bennaf, mae’r gwaith ymchwil y mae DARPL yn ei wneud yn seiliedig ar Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru (ARWAP, 2022) ac ar anghenion datblygol y blynyddoedd cynnar, ysgolion, arweinwyr ysgolion ac athrawon, er mwyn bodloni gofynion agenda’r polisi newydd hwn. Mae ein gwaith yn cael effaith uniongyrchol ar ddiwygio polisi. 

Mae ffrydiau gwaith presennol DARPL yn seiliedig ar ddau brif ffocws: (1) Cychwyn meysydd ymchwil newydd sy’n manylu ar effaith ein darpariaeth dysgu proffesiynol. (2) Cynhyrchu a dosbarthu deunydd ysgolheigaidd o ansawdd uchel sy’n dogfennu ac yn rhannu’r agwedd ar DARPL sy’n ymwneud â datblygu gwaddol.

Powered By EmbedPress

Cyhoeddiadau DARPL

Mae ein tîm profiadol o ymchwilwyr yn lledaenu amrywiaeth o allbynnau ymchwil ar ffurf ymgynghoriaeth, papurau academaidd, blogiau, penodau mewn llyfrau, briffiau polisi a phapurau cynhadledd. Mae’r allbynnau hyn i gyd wedi’u hanelu at sefydlu corff yng Nghymru ar gyfer cyfnewid ymchwil a gwybodaeth sy’n adrodd stori hanesyddol, gyfoes ac unigryw ymarfer a dysgu gwrth-hiliol yng nghyd-destun Cymru. Mae ein cyhoeddiadau’n cynnig enghreifftiau o ddysgu proffesiynol, modelau o arferion gwrth-hiliol ac addysgeg. Mae papurau ymchwil DARPL wedi cael eu cynnwys mewn ystod eang o gyfnodolion academaidd blaenllaw.

Gweler ein cyhoeddiad diweddar

Cyfleoedd

Ategir ein hymdrechion ymchwil ehangach gan ymchwil weithredol, sy’n ymgorffori cymuned ymarfer sy’n tyfu. Mae’r gymuned hon yn cynnwys ymarferwyr sydd â phrofiad uniongyrchol a phrofiad proffesiynol, ac mae ganddynt nod cyffredin o sicrhau dysgu proffesiynol gwrth-hiliol mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar ac ysgolion ar hyd a lled y wlad. Ar hyn o bryd, mae aelodau’r gymuned ymarfer hon yn cynnwys ymarferwyr o bob cwr o Gymru ac o bob haen o ofal ac addysg. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi cynnal cyfres barhaus o sgyrsiau ymchwil gydag ystod o weithwyr proffesiynol, arweinwyr a llunwyr polisïau ym maes addysg, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o anghenion a safbwyntiau amrywiol o ran cydraddoldeb hiliol. Rydym yn cydweithio â phartneriaid ehangach fel Amgueddfa Cymru, gan gynnal ymchwil sy’n seiliedig ar gyhoeddi ein cyfres o e-lyfrau ar HMT Windrush a’r arddangosfa Windrush gysylltiedig:

Windrush Cymru: Adnoddau addysg

Rydym yn parhau i ehangu a gwreiddio ôl troed ymchwil DARPL, gan chwilio am gyfleoedd i ragor o bartneriaid ymuno a chymryd rhan mewn prosiectau ymchwil cydweithredol.

Lledaenu’n Genedlaethol

Er mwyn sicrhau bod ein gwaith yn parhau i lywio ac effeithio ar bolisi ac ymarfer cenedlaethol, rydym yn gweithio tuag at gael cydnabyddiaeth drwy Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil y DU 2029. Mae enghreifftiau o’r daith hon yn cynnwys arwain ar Gam II ymchwil Cymru gyfan Llywodraeth Cymru, sy’n canolbwyntio ar Recriwtio a Chadw Athrawon dan Hyfforddiant o Leiafrifoedd Ethnig ym maes Addysg Gychwynnol Athrawon. Mae gwaith DARPL hefyd yn cael ei rannu mewn amrywiaeth o gynadleddau cenedlaethol fel BERA, EECERA a Chynhadledd BERA i Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar, yn ogystal â chynhadledd genedlaethol DARPL a chynadleddau eraill Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Lledaenu’n Rhyngwladol

Er bod DARPL yn canolbwyntio ar y cyd-destun Cymreig ar hyn o bryd, mae ein hymdrechion i ledaenu yn mynd y tu hwnt i’r lefel genedlaethol, drwy gynrychioli gwaith DARPL mewn cynadleddau rhyngwladol fel WERA (Cymdeithas Ymchwil Addysg y Byd) ac yn rhai o’r cyfnodolion academaidd mwyaf blaenllaw yn ein maes yn rhyngwladol.

Cynhaliwyd ymweliadau cyfnewid ymchwil a gwybodaeth mewn gwledydd fel Jamaica, Seland Newydd a Chanada. Mae ein cyrhaeddiad rhyngwladol yn parhau i ymestyn.

Cadw mewn cysylltiad
ar y cyfryngau cymdeithasol