Tîm Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliol (DARPL) yn cynnal Diwrnod Adfer, Myfyrio ac Adnewyddu

Daeth tîm DARPL Cymru at ei gilydd ddydd Mawrth, 2 Rhagfyr, ar gyfer rhaglen diwrnod llawn a oedd yn canolbwyntio ar les, cysylltiad a rhannu pwrpas. Trefnwyd y Diwrnod Adfer, Myfyrio ac Adnewyddu mewn ymateb i gyfnod heriol o gyflawni gwaith ac roedd yn gyfle i staff oedi, myfyrio ac ailgysylltu â nhw eu hunain a’i gilydd.

Agorwyd y sesiwn gyda myfyrdod dan arweiniad, ac yn ystod y sesiwn rhoddodd aelodau’r tîm ystyriaeth i le’r oedden nhw’n emosiynol, yn feddyliol ac yn gorfforol, a’r hyn yr oedden nhw’n gobeithio ei adfer neu ailgysylltu ag ef. Dewisodd pob cyfranogwr wrthrych naturiol, fel carreg, deilen, cragen neu ddarn o bren, a chafodd y gwrthrychau eu hymgorffori ym myfyrdodau agoriadol a chloi’r tîm.

Wedi’i hwyluso gan Viv Grant FRSA, roedd y sesiwn yn cynnwys gweithgareddau paru hyfforddwr-hyfforddai i ddwysau’r gwrando, empathi a chyfathrebu myfyriol. Drwy wneud ymarfer Olwyn Gydbwyso, gallodd staff asesu eu lles a’u blaenoriaethau cyn gwneud cynnydd parhaus tuag at Weledigaeth 2026.

Mynychwyd y sesiwn gan Gyfarwyddwr DARPL Chantelle Haughton, Athro Allgymorth Cenedlaethol DARPL Leon Andrews, Swyddog Cymorth Prosiect Fardous Chowdhury, a chyn Arweinydd Ymchwil DARPL Dr Susan Davies, a ailymunodd â’r tîm ar gyfer gweithgareddau’r diwrnod.

Roedd y diwrnod hefyd yn cynnwys taith gerdded a sgwrs ger Eglwys Gadeiriol Llandaf, gan gynnig lle anffurfiol i gydweithwyr ailgysylltu i ffwrdd o blatfformau digidol a chyfarfodydd strwythuredig.

Rhannodd Fardous Chowdhury, aelod o dîm DARPL, fyfyrdodau creadigol, gan gynnwys ei gerdd newydd “A New Normal,” sy’n myfyrio ar themâu newid, hunaniaeth a phwrpas.

Disgrifiodd Cyfarwyddwr DARPL Chantelle Haughton y diwrnod fel “cyfle hanfodol i feithrin ein lles ar y cyd,” gan nodi:

“Rydyn ni’n gweithio bob dydd i sicrhau parhad gwrth-hiliaeth, ac mae hynny’n waith caled. Daeth heddiw ag egni gwahanol, a theimlad o adferiad, diolchgarwch a phwrpas.”

Daeth y sesiwn i ben gyda ffocws o’r newydd ar les, cydberthnasoedd cryfach yn y tîm ac ymdeimlad o eglurder wrth i’r sefydliad symud ymlaen â’i waith strategol ar gyfer 2026.

Rhannu cynnwys