Partneriaid

Apex Educate

Mae gwrth-hiliaeth yn broses hollbwysig sy’n ymwneud ag adnabod a gwrthwynebu hiliaeth yn ei holl ffurfiau. Nod gwrth-hiliaeth yn y pen draw yw herio a dileu polisïau, ymddygiadau a chredoau hiliol sy’n parhau gwahaniaethu ac anghydraddoldeb. Trwy gymryd rhan weithredol mewn gwrth-hiliaeth, gallwn greu rhywbeth mwy cyfiawn a theg i bawb.

Mae Apex Educate yn ymgynghoriaeth flaengar sy’n ysbrydoli ac yn llwyddo mewn lleoliadau addysgol a thu hwnt. Gallwn ddarparu ystod o becynnau cymorth i ddatblygu a chryfhau ysgolion a sefydliadau anaddysgol i’w cefnogi ar eu taith wrth-hiliaeth eu hunain.

apex-educate.co.uk

Oshun

Mae Oshun Education yn gweithio i helpu ysgolion drwy’r broses ddadwladychu drwy:

Godi ymwybyddiaeth o hil a darparu hyfforddiant gwybodaeth am bwnc i athrawon.

Gweithio gydag athrawon i adolygu a diwygio’r cwricwlwm er mwyn cynnwys hanes pobl ddu ym Mhrydain ac ychwanegu persbectif byd-eang gyda’r nod o ddadwladychu.

Cynnal gwaith ymchwil hanesyddol, diwylliannol amrywiol lleol y gellir ei gydblethu â’r cwricwlwm hanes.

Darparu gwybodaeth/pynciau i’w cynnwys yn y cwricwlwm mewn ardaloedd aml-ethnig er mwyn adlewyrchu treftadaeth y plant.

 

oshuneducation.co.uk

The Black Curriculum

Nod y Cwricwlwm Du, sy’n fenter gymdeithasol, yw cyflwyno hanes pobl ddu ym Mhrydain ledled y DU. Rydym yn gweithio gydag ysgolion, awdurdodau addysg a byrddau arholi i ddatblygu cwricwlwm ehangach ac adnoddau trwyddedadwy am ddim ar gyfer ysgolion i addysgu myfyrwyr am hanes pobl ddu. Rydym hefyd yn cynnal amrywiaeth o raglenni wyneb yn wyneb ac ar-lein ar gyfer ysgolion, pobl ifanc a chorfforaethau er mwyn hyrwyddo pwysigrwydd hanes pobl ddu.

Ein nod yw paratoi myfyrwyr i ddod yn ddinasyddion cytbwys sy’n barod ar gyfer byd sy’n wynebu globaleiddio cynyddol. Mae ein cwricwlwm wedi’i seilio ar y celfyddydau er mwyn galluogi pobl ifanc i ymgysylltu â hanes mewn ffordd ddychmygol, annog boddhad myfyrwyr a datblygu sgiliau meddwl beirniadol. Drwy ein dull cyfannol, rydym yn anelu at unioni mater systemig ehangach.

 

theblackcurriculum.com

Show Racism the Red Card, Wales

Mae Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn gweithio yng Nghymru a ledled y DU. Yng Nghymru a’r Alban, mae ein hymgyrch yn chwarae rôl wrth fynd i’r afael â hiliaeth ym meysydd pêl-droed ac addysg, ar lefel broffesiynol ac ar lawr gwlad. Mae Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn gweithio mewn ysgolion a lleoliadau addysgol eraill ledled y DU i gynnig amrywiaeth eang o hyfforddiant, gweithdai, adnoddau a gweithgareddau addysgol sydd â’r nod o addysgu pobl ifanc ac oedolion am achosion a chanlyniadau hiliaeth.

theredcard.org

Cwlwm

Ry’n ni’n angerddol am roi’r Gymraeg i bob plentyn fel y caiff pob un y cyfle i chwarae, dysgu a thyfu trwy gyfrwng y Gymraeg. Credwn fod plant yn elwa o siarad sawl iaith. Ble bynnag mae ‘na blant bach yng Nghymru, dylai Cwlwm (ac felly’r Gymraeg) hefyd fod yn bresennol.

Credwn mewn rhoi’r dechrau gorau i blant a gwyddom fod ein gwaith ym maes addysg gynnar, gofal plant a chwarae yn dylanwadu’n fawr ar blentyn am weddill ei fywyd.

Rydym yn elusen gofrestredig ac yn cael ein cydnabod fel y prif ddarparwr a hwylusydd gofal ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg.

meithrin.cymru

No Boundaries

Mae No Boundaries yn credu ma ‘Addysg yw’r allwedd i ddatgloi hiliaeth’ ac mae hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn greiddiol i lwyddiant pob sefydliad. Rydym yn darparu cymorth o’r blynyddoedd cynnar mewn ysgolion hyd at brifysgolion. Rydym hefyd yn cefnogi’r sector gofal plant drwy helpu i gydnabod ac addysgu am leoliadau traws-hiliol.
Mae’r cymorth a ddarparwn yn cynnwys cyflwyno sesiynau ar hiliaeth, amrywiaeth ddiwylliannol a chynhyrchu adnoddau i gefnogi addysgu hanesion amrywiol. Rydym hefyd yn ymgysylltu â’r gymuned ac yn rhoi cyngor ar bolisi a gweithdrefnau.
Mae ein hymgynghorwyr wedi byw profiadau o hiliaeth a phrofiad sylweddol o gefnogi’r gwaith addysg sy’n ymwneud â gwrth-hiliaeth.

Urban circle

Urban Circle Casnewydd (UCN); elusen datblygu ieuenctid blaengar a sefydledig sy’n helpu i adeiladu, hyrwyddo a chynnal perthnasoedd cymunedol adeiladol ac ymgysylltiad unigol â phobl ifanc gan ddefnyddio amrywiaeth o lwyfannau creadigol. Rydyn ni’n rhoi cyfleoedd i bobl ifanc dilyn eu diddordebau, gwella ei lles, a sylweddoli eu potensial ar draws y celfyddydau creadigol, addysg, gwaith ieuenctid, a gweithgaredd datblygu cymunedol. Mae UCN yn un o’r ychydig sefydliadau sy’n cynrychioli pobl ifanc Dduon ac Asiaidd yn ardal Casnewydd ac mae’n croesawu cyfrifoldeb allweddol i hwyluso’r broses o godi llais a herio anghyfiawnder ym mha bynnag ffurf y mae’n ymddangos. Mae gwaith UCN yn y maes yma wedi galluogi ni i greu perthnasoedd cryf o fewn cymunedau lleol difreintiedig lle rydym yn defnyddio offer ymgynghori cyfranogol ac ymchwil asesu sy’n seiliedig ar anghenion i fynd at wraidd unrhyw arferion neu weithredoedd gwahaniaethol. Rydym yn dyfeisio ac yn cynhyrchu digwyddiadau aml-gelfyddydol, gigs, gwyliau, ffilmiau a digwyddiadau addysgol sy’n dathlu ein treftadaeth ddiwylliannol ac yn dod â chynulleidfaoedd mawr, amrywiol ynghyd o bob rhan o Gasnewydd â thu hwnt.

Home | Urban Circle

Partneriaethau Hanesyddol