Ar 23 Medi 2025, croesawodd Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth Cymru (DARPL), Chantelle Haughton, bumed garfan rhaglen hyfforddi arweinyddiaeth flaenllaw DARPL, ‘Cyfres Arweinyddiaeth Uwch (ELS)’, sef dros 50 o arweinwyr o’r De, a gynhaliwyd yn y cnawd yn Ystafell Gynadledda 2 a 3, Campws Cyncoed, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, CF23 6XD.
Ein partneriaid allweddol, Rachel Clarke (Apex Educate), ynghyd â Dean Pymble a Kate Powell (Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth), fu’n hwyluso sesiynau Diwrnod 1. Rhoddodd ein cydweithiwr, yr Athro Allgymorth Cenedlaethol Leon Andrews, drosolwg o’r arolwg cyn y cwrs a’r trefniadau cadw tŷ, a bu ein Cydlynydd ELS newydd Fardous Chowdhury, MSc, B.Sc, PRINCE 2, CSM, CSCS MAP yn cefnogi’r sesiwn undydd a’r mynychwyr drwy gydol y dydd.
Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio ar:
1. Datblygu arweinyddiaeth wrth-hiliol
2. Dyfnhau hunan-fyfyrio
3. Creu mannau dewr
4. Dileu rhwystrau i newid
Mae ELS yn cael ei chyflwyno drwy gymysgedd o sesiynau ar-lein ac yn y cnawd ledled Cymru:
♦Carfanau’r De – cyflwynir yn Abertawe a Chaerdydd
♦Carfanau’r Gogledd – cyflwynir ym Mangor
(Mae rhai lleoedd ar ôl ar gyfer Carfan 5 yn dechrau ar 12 Tachwedd 2025, anfonwch e-bost atom yn darpl@cardiffmet.ac.uk i gofrestru).
Rydyn ni’n falch o rannu bod ELS yn cael ei hail-gymeradwyo’n swyddogol gan y yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol (NAEL) Cymru.
📢 Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â’n carfan nesaf?
Mae’r cyfle Dysgu Proffesiynol hwn yn rhad ac am ddim i addysgwyr yng Nghymru, ond mae angen i chi fuddsoddi amser ac ymdrech.
I fynegi eich diddordeb yng Ngharfan 6 ELS (Gogledd a De) yn dechrau yn ystod gwanwyn 2026, dilynwch y ddolen neu sganiwch y cod QR isod: https://lnkd.in/eg9c64iT
Stori Newyddion SRtRCSpotlight: