Cynhaliodd DARPL Cymru ddigwyddiad pwysig yng Nghyfres Seminarau Llywyddol y Pedair Gwlad BERA yn y Senedd, Adeilad y Pierhead, Caerdydd ar 1 Mai, 2025

Cafodd y trydydd digwyddiad yng Nghyfres Seminarau Llywyddol y Pedair Gwlad Cymdeithas Ymchwil Addysg Prydain (BERA) ei chynnal ar y cyd gan BERA a DARPL, a’i noddi gan Ysgrifennydd y Cabinet, Lynne Neagle AS, yn Adeilad Pierhead y Senedd yng Nghaerdydd. Yno daeth cynulleidfa fawr o 88 o gynrychiolwyr ynghyd, gan gynnwys uwch arweinwyr, llunwyr polisïau, ac academyddion o bob cwr o Gymru, y DU a’r tu hwnt.

Cydlynwyd y digwyddiad gan Chantelle Haughton, Sylfaenydd-Gyfarwyddwr DARPL a Chynrychiolydd Cymru ar gyfer BERA, ochr yn ochr â Marlon Moncrieffe, Llywydd BERA, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Roedd y lleoliad yn addas iawn o ystyried bod gwreiddiau DARPL yn Tiger Bay. Cafodd pawb groeso Cymreig gan gorau o ysgolion lleol a ddaeth draw i ganu, ac i goroni’r cyfan fe wnaethant roi perfformiad teimladwy o hoff gân Betty Campbell i ni – pa ffordd well o ddechrau’r digwyddiad a gosod y cywair ar gyfer diwrnod o drafod gwrth-hiliaeth, tegwch a chynhwysiant ym myd addysg, gofal plant, ymchwil chwarae, polisi, ymarfer a dysgu proffesiynol?

Roedd y rhaglen fywiog ac effeithiol yn cynnwys16 o sgyrsiau byr, trafodaethau panel am arweinyddiaeth a oedd yn procio’r meddwl, a siaradwyr gwadd hollbwysig, ac yn dangos ymrwymiad Cymru i arwain y ffordd at drawsnewid byd addysg ac ymarfer gwrth-hiliol, gyda chefnogaeth BERA. Ymhlith y cyfranwyr roedd Lynne Neagle AS a Jane Hutt AS, Ysgrifenyddion y Cabinet; yr Athro Emmanuel Ogbonna CBE; Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru; a Dr Marlon Lee Moncrieffe, Llywydd BERA. Dywedodd Dr Marlon Lee Moncrieffe:

“Mae wedi bod yn wych bod yma yn y Senedd heddiw. Ar y daith tuag at amrywiaeth a gwrth-hiliaeth, mae arweinyddiaeth Cymru a DARPL yn hanfodol i wireddu uchelgeisiau’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a’r Cwricwlwm i Gymru.”

Cafodd y ddeialog ei chyfoethogi a chafodd perthnasedd byd-eang y gwaith ei bwysleisio gan siaradwyr o sefydliadau fel Apex Educate, Amgueddfa Cymru, Adnodd, Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, Prifysgol Toronto, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Bangor, CWLWM, y gwneuthurwr ffilmiau Gavin Porter, awdurdodau lleol yn Abertawe a Chasnewydd, Ysgol Gynradd Jubilee Park, Ysgol Hamadryad ac Ysgol Gynradd Sant Paul yr Eglwys yng Nghymru.

Cafwyd trafodaeth banel i gloi’r diwrnod, yn ogystal â pherfformiad gan enillydd cystadleuaeth farddoniaeth Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, a gafodd gryn argraff ar y rhai a oedd yno.

Wrth edrych yn ôl ar y diwrnod, dywedodd Chantelle Haughton, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr DARPL:

“Gyda’n gilydd, rydyn ni’n cael effaith drwy ddysgu proffesiynol, arweinyddiaeth ac ymchwil sy’n gweithio tuag at Gymru wrth-hiliol. Bydd hyn yn waddol i ni nawr ac i genedlaethau’r dyfodol. Wrth i ni fynd i’r afael â ‘beth nawr?’ ac wrth i ni gynllunio ar gyfer ‘beth nesaf?’, mae angen i ni barhau i ystyried materion sy’n ymwneud ag amlygu ac ymgysylltu ystyrlon; hiliaeth mewn addysg; hyder, cymhwysedd ac ymrwymiad yng nghyswllt arweinyddiaeth wrth-hiliol; egwyddor cynefin; a newid i systemau parhaus, sicr.”

Mae’r digwyddiad pwysig hwn yn sicrhau lle BERA, DARPL a Chymru fel arloeswyr cenedlaethol a byd-eang ym meysydd addysg wrth-hiliol, hyrwyddo gweithredu ar y cyd, dysgu proffesiynol, ymchwilio ac ymholi, newid diwylliannol, ac arweinyddiaeth ddewr.

 Dolen i'r Oriel Ffotograffau: https://www.flickr.com/photos/101281004@N07/albums/72177720325910805/

Rhannu cynnwys