DARPL yn cynnal Cyfarfod Llawn y Gyfres Arweinyddiaeth Uwch Drawsnewidiol ar gyfer Carfan 4 ym Met Caerdydd

Cynhaliodd DARPL Cymru Gyfarfod Llawn y Gyfres Arweinyddiaeth Uwch ar gyfer Carfan 4 ar 9 Gorffennaf ar Gampws Cyncoed Prifysgol Metropolitan Caerdydd, mewn partneriaeth â Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth Cymru. Mynychwyd y digwyddiad gan arweinwyr dewr ac ymroddedig sy’n gweithio i ymwreiddio gwerthoedd gwrth-hiliol mewn addysg yng Nghymru.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys cyfraniadau ysbrydoledig gan Sylfaenydd a Chyfarwyddwr DARPL, Chantelle Haughton, yr Athro Charlotte Williams OBE, a’r Artist Amlddisgyblaethol Connor Allen. Roedd y diwrnod yn cynnwys gweithdai, sesiynau adborth gan grwpiau, a syniadau i borthi’r meddwl. Un o’r mynychwyr oedd Kevin Palmer, Dirprwy Gyfarwyddwr Addysgeg, Arweinyddiaeth a Dysgu Proffesiynol Llywodraeth Cymru, a fynegodd ei gefnogaeth i’r gwaith sy’n cael ei wneud.

Mae’r Gyfres Arweinyddiaeth Uwch yn un o brif raglenni DARPL, ac mae wedi’i chymeradwyo gan Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru. Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i ddatblygu hunan-fyfyrdod, creu mannau dewr, dileu rhwystrau i newid, a datblygu strategaethau gwrth-hiliol sy’n creu effaith wirioneddol, barhaol mewn ysgolion a sefydliadau dysgu.

Meddai Chantelle Haughton: “Nid datblygiad proffesiynol yn unig yw hyn – mae’n arweinyddiaeth drawsnewidiol lle mae ymrwymiad i wrth-hiliaeth yn parhau i fod wrth wraidd arweinyddiaeth. Rydyn ni’n ei alw’n Waith Calon. Ni chodir tâl i fynychu’r Gyfres Arweinyddiaeth Uwch, a’r cyfan sydd ei angen yw neilltuo amser a gwneud ymrwymiad i arweinyddiaeth. Diolch i’r holl arweinwyr ysbrydoledig am ddatblygu tegwch ar sail hil.”

📢Mae modd archebu lle o hyd ar gyfer Carfan Pump o’r Gyfres Arweinyddiaeth Uwch. Mae carfan De Cymru yn dechrau ar 23 Medi, ac mae carfan Gogledd Cymru yn dechrau yn ddiweddarach yn y tymor. Gallwch gofrestru i fynychu am ddim.

 🔗Dyma’r ddolen i fynegi eich diddordeb: Ffurflen Ymholiad Cyfres Uwch Arweinyddiaeth

Os ydych chi’n ystyried ymuno â Chyfres Arweinyddiaeth Uwch DARPL a’r Gymuned Ymarfer, gallwch ddysgu mwy trwy ddilyn y ddolen hon: https://darpl.org/community-of-practice/enhanced-leadership-series/

Rhannu cynnwys