Pam dyle ni ffarwelio â George a Lennie a chroesawi Marguerite i mewn i’n dosbarthiadau.
Ers degawdau mae nofela gwaradwyddus Steinbeck wedi cadw’i afael tynn, hynafol ar ddosbarthiadau Saesneg Llenyddiaeth led y wlad. Er gwaethaf obsesiwn Lennie â’r cwningod, y mewnwelediad hanesyddol a ddarperir, ei dderbyniad beirniadol gwreiddiol: ni allwn barhau i amlygu ei anaddasrwydd i’n dysgwyr.
Ers Haf 2022, penderfynom ni fel Adran Saesneg Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf i beidio parhau gyda’n hastudiaeth o’r nofel ‘Of Mice and Men’. Yn bersonol, gwelais hyn fel rhyddhad; roedd darllen y nofel yn uchel o hyd yn brofiad anghyfforddus. Nid oeddwn yn darllen y geiriau sarhaus; hiliol, rhywiaethol ond roedd y geiriau ar bapur ac ym meddyliau’r dysgwyr. Byddai cwestiynau yn codi, chwerthiniad neu ddwy a rhai dysgwyr gwirioneddol wedi dychryn wrth drafod rhai themâu.
Yn amlwg, roedd ‘Of Mice and Men’ yn ddefnyddiol yn dysgu am fywyd yn yr UDA yn yr 1930’au, yn enwedig y rai a chafodd eu heffeithio fwyaf gan Y Dirwasgiad. Roedd preswylwyr y ransh yn anabl yn gorfforol a meddyliol, yn Ddu, pobl a oedd wir yn dioddef; pob un yn awchus i wireddu’r Freuddwyd Americanaidd. Fodd bynnag, beth ydyn ni wir yn dysgu am hiliaeth, rhagfarn a dioddefaint gan ddyn breintiedig, gwyn, abl, cefnog?
Camau nesaf?
Mewn gwirionedd, nid yw manyleb TGAU Saesneg Llenyddiaeth yn darparu ystod eang o lenyddiaeth i ddewis ohoni, ond rydyn ni yn gallu dewis yr ysbrydoledig Angelou. Cyhoeddwyd, ‘I Know Why The Caged Bird Sings’, yn 1969 a soniwyd am galedi a ddioddefwyd Marguerite Annie Johnson trwy gydol ei bywyd. O fynd at y deintydd, graddio, dioddef camdriniaeth rywiol gan bartner ei mam, cwestiynu ei rhywioldeb, ac wrth gwrs wynebu hiliaeth o Stamps ac ymhellach; mae croniclau personol Angelou yn anfarwol ac yn addysgu ni: cynulleidfa fodern, gwersi pwysig.
Roedd y penderfyniad wedi’i wneud a dechreuodd ein hantur i mewn i ‘Caged Bird’.
AO4 / Amcan Asesu
Gwers Cyd-destun IKWTCBS / Gwers Barddoniaeth
Mae’r llinyn ‘AO4’ o gynllun marcio Saesneg Llenyddiaeth yn hynod bwysig oherwydd mae’n gofyn i ddysgwyr gysylltu testunau i’w cyd-destunau cymdeithasol, diwylliannol a hanesyddol. Mae adlewyrchu ar gyd-destun mor bwysig oherwydd mae’n galluogi i ddysgwyr ddeall pam bod awduron yn cyflwyno themâu a chymeriadau mewn ffyrdd penodol.
Cefais y dasg o gyflwyno adran Barddoniaeth Nas Gwelwyd i ddosbarth Blwyddyn 9: gwelais hyn fel cyfle i geisio datod cymhlethdod AO4 yn gynnar! Cyn cyflwyno cyd-destun hanesyddol ‘I Know Why The Caged Bird Sings’, penderfynais ystyried ysbrydoliaeth Angelou am deitl ei nofel: Paul Laurence Dunbar. Cyfeiria Angelou at Dunbar yn ei nofel a dywed ei bod yn safio ei ‘hangerdd ifanc a theyrngar’ iddo fe er ei bod ‘mewn cariad â Shakespeare’! Mae cerdd Dunbar ‘Sympathy’ yn adrodd stori aderyn mewn caets sydd yn awyddus i ddianc ei garchar; mae ef eisiau bod ymysg yr ‘upland slopes’ ac ar y ‘bough-a-swing’ ond mae’n gaeth i’w gaets. Yn amlwg, mae Angelou yn uniaethu â’r ymdeimlad o gael ei chyfyngu a bod mewn ‘caets’ felly yn archwilio’r cysyniad yma drwy gydol ‘I Know Why The Caged Bird Sings’.
Wrth gyflwyno’r farddoniaeth yma i’r dosbarth, roedd yn angenrheidiol ein bod yn adeiladu ein dealltwriaeth a gwybodaeth gyd-destunol cyn astudio’r penillion. I ddechrau, credais ei fod yn bwysig i’r dysgwyr gadarnhau eu dealltwriaeth o’r gair ‘Sympathy’ (Cydymdeimlad) felly wedi gadael iddynt nodi unrhyw gysyniadau cysylltiedig o’r gair. Unwaith i’r cynodiadau gael eu rhannu, darparais gymorth gweledol i bwysleisio’r syniadau ymhellach.
Unwaith i ‘gydymdeimlad’ gael ei ddeall, newidiodd ein ffocws i edrych ar y bardd. Ar y sleid, roedd paragraff byr â rhai geiriau wedi’i huwch oleuo er mwyn bod sylw yn cael eu denu atynt. Trwy dynnu sylw’r dysgwyr at eiriau megis ‘caethiwo’, ‘rhyddfreiniad’ a ‘Americanwr Affricanaidd gyntaf’, roedd ein lens cyd-destunol yn cael ei fireinio felly’r gobaith oedd, bod gan y dysgwyr gwell gafael ar neges y gerdd.

Yna, ein tasg oedd mynd i’r afael â’r penillion mewn grwpiau. Tasg y grwpiau oedd trafod a cheisio dehongli ystyr y penillion gan ddefnyddio’r wybodaeth gyd-destunol a adeiladwyd. Uwch oleuais rai termau anodd o’r penillion a hefyd elfennau gweledol i gynorthwyo gyda’u dadansoddiad. Gwers syml ydoedd ond teimlais ei fod yn fynedfa rhwydd ond arwyddocaol i ddeall cyd-destun eang hunangofiant Maya Angelou.
Gwersi wedi’u dysgu?
Yn 2022, roedd Arholiad Haen Uwch Saesneg Llenyddiaeth CBAC yn gofyn i ymgeiswyr:
“I knew I knew very little, but I was certain that the things I had yet to learn wouldn ’ t be taught to me
at George Washington High School. ’’ What important lessons do you think Maya learns outside of
school as she grows up?”
Wrth gwrs, gallwn drafod sut mae Maya yn dysgu am ragfarn y cyfnod a sut llwyddodd hi i adeiladu ei gwytnwch a herfeiddiad o ganlyniad i’r caledi a ddioddefwyd tu allan i’r ystafell ddosbarth. Fodd bynnag, rydym ni hefyd yn medru dysgu o’r gwersi mae ein harwr yn dysgu. Rydym ni yn profi heriau Angelou a’i theulu o’i safbwynt hi, trwy ei llygaid hi, yn ei hesgidiau hi. Mae’r llyfr yn ein galluogi i brofi ond cipolwg o’r gorthrymder dioddefwyd hi; rydym yn dechrau dod i ddeall rhwystrau ei ‘chaets’; ei rhywioldeb, hîl, statws cymdeithasol a nodweddion personol. Heb amheuaeth, mae’n ffaith ein bod ni ac ein dysgwyr yn meithrin empathi gwirioneddol tuag at Angelou ac felly trwy astudiaeth o’r nofel, rydym yn gobeithio annog dysgwyr i weithredu yn garedig a gyda thosturi i eraill. Fel dywed Cwricwlwm i Gymru: trwy ddatblygu a modelu empathi, dylid cefnogi dysgwyr i ddod yn ddinasyddion gweithredol sy’n ymwneud â phob un o’r cyd-destunau hyn, a hynny mewn ffordd sydd er lles y gymdeithas.
Mae nofel Steinbeck yn galluogi i ni gydymdeimlo â chymeriadau penodol, ond y gwahaniaeth mwyaf rhwng y nofelau yw safbwynt. Rydym ni yn dysgu am brofedigaeth merch ifanc, Ddu sydd yn tyfu i fyny Arkansas a sut mae hi yn delio â’r heriau o’i blaen. Mae ei geiriau mor bwysig o ran deall bod ‘Caged Birds’ o’n cwmpas bob amser a rhaid i ni gyd ddysgu bod yn geidwaid adar cymdeithasol!
Gwenno Haf Evans