Wrth imi fyfyrio ar fy siwrnai fel addysgwr, mae wedi dod yn amlwg imi mai dim ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf rwyf wedi dechrau deall a gwerthfawrogi’n llawn fy ngwerth fel dyn du sy’n addysgu yma yng Nghymru.
A dweud y gwir, doedd e ddim yn rhywbeth y gwnes i ei ystyried yn ystod fy mlynyddoedd cynnar fel athro, a pham y bydden i? Mae cymaint i ganolbwyntio arno o’r foment rydych yn dechrau hyfforddi. Yna, rydych yn symud i’ch swydd addysgu gyntaf ac yn treulio blynyddoedd yn perffeithio eich crefft. Os ychwanegir prinder cymheiriaid a modelau rôl y gellir uniaethu â nhw at hynny hefyd, gallwch ddechrau maddau’r naïfrwydd.
Yn tyfu i fyny yng Nghaerdydd gyda thad o Ghana a mam o Gymru, nid oedd fy mhrofiadau yn wahanol i lawer o blant eraill o gefndiroedd tebyg. Fe es i i ysgol lle roedd mwyafrif y disgyblion yn wyn. Nid oedd unrhyw athrawon o liw, roedd y rhan fwyaf o’m ffrindiau yn wyn ac, i fod yn onest, roeddwn i wastad yn falch o fod yn y lleiafrif. Fe ges i athrawon ardderchog a wnaeth fy ysbrydoli ac a gymerodd yr amser, nid yn unig i’m haddysgu, ond i gymryd diddordeb gwirioneddol ynof fi fel person. Ar y cyfan, fe wnes i fwynhau fy amser yn yr ysgol. Mae’r cydberthnasau cadarnhaol yr oedd gen i â’m hathro Cymraeg a’m hathrawon addysg gorfforol yn effeithio ar fy arddull a’m hathroniaeth addysgu fy hun hyd heddiw. Byddem wedi bod wrth fy modd yn cael fy addysgu gan athro o liw, ond doeddwn i ddim yn gwybod yn wahanol a byddaf wastad yn ddiolchgar i’r athrawon ysbrydoledig hyn am wneud imi deimlo’n bwysig. Cwestiwn pwysig i’w ystyried yma yw “a allai fy mhrofiad yn yr ysgol fod wedi bod hyd yn oed yn fwy cadarnhaol pe bai athrawon o liw y gellid dysgu wrthynt?”
Yn anffodus, profais achosion o hiliaeth uniongyrchol wrth dyfu i fyny, ac er bod y profiadau hyn yn niweidiol, doeddwn i byth yn synnu wrthynt oherwydd cefais fy addysgu gan fy nhad o oedran cynnar am bwysigrwydd deall fy nhreftadaeth a bod yn falch ohoni. Sicrhaodd fy nhad hefyd fy mod yn ymwybodol y gallen i gael fy nhrin yn annheg weithiau oherwydd lliw fy nghroen. Mae llawer o blant ifanc nad oes ganddynt yr un rhwydwaith cymorth a hyder ag yr oedd gen i. Faint o blant yng Nghymru sy’n profi hiliaeth ond nad oes ganddynt syniad pam ei bod yn digwydd na sut i ddelio’r sefyllfa? O’m mhrofiadau i a nawr fel addysgwr, rwy’n teimlo fy mod mewn sefyllfa eithaf da, nid yn unig i fod yn rhan o’r rhwydwaith cymorth hwnnw, ond hefyd i helpu addysgwyr eraill i deimlo’n hyderus eu bod mewn sefyllfa i helpu.
Mae llawer o’r hyder sydd gennyf yn deillio o gymryd rhan mewn amrywiaeth o chwaraeon. Wrth dyfu i fyny, roeddwn i’n chwarae pob math o chwaraeon ac, yn y pen draw, pêl-fasged aeth â’m bryd. Drwy bêl-fasged, fe ddes i o hyd i gymheiriaid a hyfforddwyr y gallen i uniaethu â nhw. Gwnaeth fy llwyddiannau ar y cwrt pêl-fasged roi rhai o’m teimladau mwyaf a chyntaf o gael fy mharchu a’m derbyn. Fy modelau rôl oedd pobl fel Michael Jordan, Kobe Bryant a’m hyfforddwr pêl-fasged cyntaf erioed, Lavern Rich. Gwnaeth y dynion du talentog hyn wneud imi gredu bod unrhyw beth yn bosibl ac er nad oeddwn i’n gwybod hynny ar y pryd, cafodd yr unigolion hyn effaith gadarnhaol iawn ar ddyn du ifanc a oedd yn tyfu i fyny fel lleiafrif yng Nghymru. Yn y pen draw, gwnaeth fy nghydberthnasau â’m hathrawon addysg gorfforol, fy nghariad at chwaraeon a’r cyfleoedd sy’n deillio ohonynt fy arwain at ddod yn athro addysg gorfforol.
Roedd yr hyfforddiant a gefais i ddod yn athro yn debyg iawn i’m haddysg yn yr ysgol. Unwaith eto, roeddwn i yn y lleiafrif, yn cael fy hyfforddi gan fentoriaid gwyn a’m hamgylchynu gan gymheiriaid gwyn yn bennaf. Gallaf ddychmygu nad yw hyn yn wahanol i brofiadau llawer o athrawon dan hyfforddiant du a lleiafrifol sy’n dysgu eu crefft yma yng Nghymru. Yn yr un modd â’m haddysg, fe wnes i fwynhau fy mhrofiad o AGA yn fawr ond, wrth edrych yn ôl, a wnaeth e fy mharatoi ar gyfer pob agwedd ar fod yn ymarferydd addysg? Na, fwy na thebyg. Nid wyf yn cofio unrhyw un yn sôn am amrywiaeth na chynhwysiant na chael unrhyw hyfforddiant ar bynciau o’r fath yn ystod fy AGA. Rwy’n teimlo, yn sgîl cyflwyno’r y Cwricwlwm newydd i Gymru a’r adroddiad diweddar gan yr Athro Charlotte Williams OBE, fod yn rhaid i bynciau o’r fath gael eu cynnwys wrth hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o athrawon.
Rhaid imi gyfaddef, doedd gen i ddim dyhead i fod yn athro ac, mewn gwirionedd, doeddwn i ddim yn gwybod beth roeddwn i am ei wneud ar ôl gorffen yn y brifysgol. Treuliais flwyddyn yn hyfforddi ac yn gweithio fel concierge yng Ngwesty’r Hilton yng Nghaerdydd. Drwy’r rolau hyn, fe ddarganfyddais fy mod i’n hoff iawn o gyfarfod â phobl newydd ac, yn fwy na hynny, fy mod yn cael ymdeimlad mawr o foddhad wrth helpu eraill. Awgrymodd un o’m mentoriaid hyfforddi pêl-fasged ym Mhrifysgol Met Caerdydd y byddwn i’n gwneud athro da ac, fel maen nhw’n dweud, mae’r gweddill yn hen hanes.
Symudais i Chelmsford yn Essex i ymgymryd â’m rôl addysgu gyntaf fel athro addysg gorfforol a chydlynydd chwaraeon yr ysgol. Roeddwn i’n teimlo ei bod hi’n bwysig imi adael Caerdydd a phrofi fy nghymeriad mewn amgylchedd hollol wahanol. Gallaf ddweud yn onest, cafodd y ffaith imi gymryd fy hun allan o’m man cysurus gymaint o effaith gadarnhaol ar fy hyder a’m twf nid yn unig fel athro ond fel dyn ifanc du. Unwaith eto, roeddwn mewn ysgol o bobl wyn yn bennaf a fi oedd yr unig athro o liw. Ar ôl bwriadu aros yn wreiddiol i orffen fy mlwyddyn ANG, treuliais saith mlynedd yn Chelmsford yn y pen draw cyn symud yn ôl i Gymru.
O ran fy ngallu i ddringo’r ysgol, rwy’n cofio fy nhad yn dweud wrthyf y byddai’n rhaid imi weithio’n galetach na’m cymheiriaid er mwyn cael fy nghydnabod. Yn ystod y saith mlynedd, fe wnes i gais am sawl rôl yn yr ysgol, ond doeddwn i byth yn llwyddiannus am ba reswm bynnag. Fodd bynnag, yr hyn y gwnes i ei sylweddoli oedd fy mod i’n athro a oedd â’r gallu i gael effaith ym mhob rhan o’r ysgol. Er gwaethaf fy nghefndir lleiafrifol a’r ffaith nad oeddwn i wedi dringo i fyny’r ysgol, roeddwn i’n sicr yn gallu gwneud gwahaniaeth mewn ffyrdd nad oedd eraill yn gallu ei wneud. Sylweddolais fy mod i’n cael llawer iawn o bleser o rwydweithio â phawb yn yr ysgol ac yn y gymuned ehangach. Roedd fy swydd a’m ffordd o fyw yn rhoi boddhad llwyr i mi. Ar yr adeg hon y gwnes i ddechrau sylweddoli efallai nad dringo’r ysgol addysg oedd y peth pwysicaf i fi ac na ddylai fod y peth pwysicaf i unrhyw athro. Dechreuais ddefnyddio’r sgiliau roeddwn wedi’u meithrin wrth addysgu i roi cynnig ar entrepreneuriaeth. Sefydlais fy musnes cyntaf, Hoop Tropps, sef busnes pêl-fasged a oedd yn darparu gwersylloedd pêl-fasged i blant yn ystod y gwyliau. Rhoddodd y rôl hon, a oedd yn ychwanegol at fy rôl fel addysgwr, y boddhad creadigol ac arweinyddiaeth roeddwn i ei eisiau ond nad oedd modd imi ei gyflawni’n uniongyrchol yn fy rôl fel athro. Mae gwers i’w dysgu fan hyn – gwnaeth fy niffygion fel athro du ifanc wneud i mi ddechrau dilyn fy llwybr fy hun a deall nad oedd angen i mi gael fy nghydnabod gan uwch-arweinwyr er mwyn bod yn llwyddiannus.
Erbyn imi benderfynu ei bod hi’n amser gadael Chelmsford a dychwelyd i Gymru, roedd y profiad a gefais wedi gwneud i mi sylweddoli y gallen i fod yn fodel rôl cadarnhaol yn yr ysgol ac yn y gymuned. Mae hyn yn rhywbeth sy’n gwneud imi deimlo’n falch iawn fel dyn du. Rwy’n gwybod bod gen i’r doniau, y sgiliau, y cymhelliant a’r gallu i ddylanwadu ar eraill o’m hamgylch waeth beth fo’u cefndir a statws. Pan ddychwelais i Gymru, penderfynais fynd â’r profiad newydd hwn i’r lefel nesaf.
Erbyn hyn, rwyf wedi bod yn gweithio yn Ysgol Uwchradd Treorci ers wyth mlynedd. Yn wreiddiol, cefais fy nghyflogi fel athro addysg gorfforol gyda chyfrifoldeb ychwanegol am hyrwyddo addysg gorfforol mewn ysgolion cynradd. Fel y gwyddoch, rwyf wastad wedi bod yn y lleiafrif ac, yn fy awdurdod lleol presennol, mae hynny’n lleiafrif bach iawn. Mae’r sefyllfa hon yn rhoi hyd yn oed mwy o gymhelliant i fi gael effaith fel dyn du sy’n addysgu.
Yn sicr, mae fy siwrnai fel athro yn Nhreorci wedi rhoi boddhad imi. Fe benderfynais i’n gyflym y bydden i’n dod i adnabod pob aelod o’r gweithlu yn yr ysgol. Alla i ddim pwysleisio digon pa mor bwysig yw rhwydweithio. Unwaith eto, drwy uchelgais a chreadigrwydd, roeddwn i’n gallu dechrau cael effaith ar lefel ysgol gyfan. Dechreuais deimlo y dylen i, efallai, roi cynnig arall ar ddringo i fyny’r ysgol addysg. Roeddwn i wedi cael gwahanol gyfweliadau mewnol ond ni wnes i erioed lwyddo i gael y dyrchafiad roeddwn i ei eisiau cymaint. Wrth gwrs, roedd hyn yn aml yn peri loes ac fe gyrhaeddes i’r pwynt lle roeddwn i’n ystyried rhoi’r gorau i addysgu yn gyfan gwbl. Er bod parch gennyf tuag at yr uwch-arweinwyr rwyf wedi gweithio gyda nhw, rwyf wastad wedi teimlo nad wyf i’n ffitio i mewn. Dydw i byth wedi gweithio gydag unrhyw uwch-arweinwyr sy’n dod o’r un cefndir â fi neu sydd â’r un profiadau fel dyn du sy’n addysgu. Er nad oes neb ar fai, gall arwain at deimlad o ddieithrwch ac weithiau unigrwydd. Roeddwn i wedi cyrraedd argyfwng yn fy ngyrfa a dyma oedd fy nghyfle olaf. Penderfynais fynd ati i werthuso fy swydd fel athro a sylweddolais fy mod wedi cael fy ngeni i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf, bod gen i dueddiadau entrepreneuraidd ac fy mod i’n barod i gysylltu â’r gymuned. Rwy’n frwd dros dechnoleg ac rwyf hefyd yn hapusach pan rwy’n gallu arwain. Felly y cwestiwn oedd sut y gallwn i ailgynnau fy nghariad tuag at fy rôl fel addysgwr. Mae’n rhyfedd meddwl mai’r rhwystrau a wynebais oedd yr hyn a’m hysbrydolodd i roi fy hun yn y sefyllfa rwyf ynddi heddiw.
Mewn ysgol fawr, gall fod yn anodd sefyll allan. Mae angen i chi ystyried o ddifrif beth sy’n eich gwneud chi’n wahanol i bawb arall. Mae angen i chi ganfod eich niche er mwyn datblygu, neu yn bwysicach na hynny, fod yn fodlon ac yn hapus yn eich rôl. Fy niche i oedd technoleg a’r gallu i ysbrydoli dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig, dysgwyr ag ymddygiad gwael a dysgwyr â gallu academaidd isel. Dangosais sut y gallen i gyfuno fy sgiliau er mwyn sicrhau bod fy nisgyblion yn llwyddo ac er mwyn bod yn ymarferydd arweiniol yn yr ysgol. Ar hyn o bryd, rwy’n bennaeth addysg alwedigaethol ac rwyf hefyd yn gyfrifol am arwain y defnydd o dechnolegau Microsoft yn yr ystafell ddosbarth fel rhan o raglen Microsoft Innovative Educator Expert. O ran fy rôl fel addysgwr, rwy’n hapusach nag erioed ac er mwyn cyrraedd y fan hon, rwyf wedi gorfod derbyn methiannau a rhwystrau ond, yn bwysicach, rwyf wedi defnyddio’r profiadau hynny i edrych yn ddwfn ynof fi fy hun i ddeall yr hyn rwyf wir ei eisiau. Weithiau, mae pethau’n rhwydd ac mae hynny’n wych, ond mae’r caledi rydym yn mynd drwyddo yn rhoi mwy o werthfawrogiad o’r hyn y gallwch, yr hyn y byddwch a’r hyn rydych wedi’i gyflawni.
Fel y soniais yn gynharach, fel athro byddwch yn meithrin cymaint o sgiliau defnyddiol ac, os ydych chi fel fi ac yn dyheu am gael mynd ymhellach, bod yn llwyddiannus, cael eich cydnabod, yr holl bethau uchelgeisiol hynny, gallwch ddefnyddio’r sgiliau rydych chi’n eu meithrin ar hyd y ffordd yn eich rôl ac mewn mannau eraill. I fi’n bersonol, rwyf wedi defnyddio fy sgiliau i ddatblygu mewn busnesau y tu allan i’m rôl addysgu, ond mae cysylltiad agos rhwng pob un o’r sgiliau hynny a’r gwaith addysgu rwy’n ei wneud o ddydd i ddydd. Pan ddaeth hi’n amlwg na fydden i’n dod yn uwch-arweinydd yn fuan iawn, es ati i ddatblygu fy mentrau busnes er mwyn cyflawni fy uchelgeisiau creadigol. Nawr, rwy’n cael y gorau o ddau fyd. Yn y dydd, rwy’n cyflawni fy swydd fel athro ac, fel arall, rwy’n rhedeg busnes pêl-fasged yng Nghaerdydd o’r enw Tribal Basketball. Rwyf hefyd yn berchen ar sefydliad cymunedol sy’n rhoi cyfleoedd iechyd a llesiant i blant o’r enw Team Active, a busnes technoleg a chyfryngau o’r enw THE Biz IT. Mae pob un o’m mentrau busnes yn deillio o’r rhwydweithio hollbwysig hwnnw a’r sgiliau rwyf wedi’u datblygu dros y blynyddoedd, gan gyfuno i sicrhau bod fy holl uchelgeisiau a’r pethau rwy’n angerddol amdanynt yn cael eu cyflawni. Mae hyn, yn ei dro, yn arwain at ymdeimlad o hapusrwydd a bodlonrwydd llwyr
Drwy addysg a busnes, fy nod yw bod yn fodel rôl ac yn ffynhonnell o ysbrydoliaeth i ddarpar athrawon o liw a phlant o gefndiroedd amrywiol. Mae fy ngwaith yn y gymuned yn rhoi cyfle i fi gysylltu â lleiafrifoedd a dod â phobl o bob cymuned at ei gilydd. Rwy’n falch fy mod i’n gallu cynnig profiadau nad oeddent ar gael i fi pan roeddwn i’n tyfu i fyny. Rwy’n falch iawn o fod yn addysgu yng nghanol y Cymoedd lle y gallaf gael effaith fel dyn du sy’n addysgu. Rwy’n edrych ymlaen at y diwrnod pan fydd llawer o athrawon o liw yn gweithio yn yr awdurdod lleol.
Rwy’n dal i gyfeirio at bwysigrwydd rhwydweithio ac, yn ystod y pandemig diweddar y gwnes i wir ganfod sut y gallaf gael cymorth gan fy nghymheiriaid sydd â chefndiroedd tebyg i fi. Gwnaeth y cynnydd sydyn mewn grwpiau sgwrsio a chyfarfodydd addysg ar-lein agor fy llygaid i fyd newydd sbon yn y sector addysg. Roeddwn i’n gallu cyfarfod â gweithwyr addysg proffesiynol gwahanol a oedd wedi cael yr un profiadau â fi a thrafod yr uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau yn agored. Rwyf wedi manteisio ar fentora gan grwpiau fel BAMEed Cymru a’r Microsoft Educator Community. Y cyfle i sicrhau bod fy llais yn cael ei glywed ac i ddeall nad wyf ar fy mhen fy hun fel addysgwr lleiafrifol yw’r union beth rwyf wedi bod yn ei golli drwy gydol fy ngyrfa. Byddwn i’n cynghori unrhyw addysgwyr ifanc i fanteisio’n llawn ar y cyfle i rwydweithio yn y grwpiau hyn, mae cymaint o gymorth a gwybodaeth na allwch fforddio colli allan arnynt. Rwyf wedi cyfarfod â rhai o’r addysgwyr mwyaf ysbrydoledig a rhyfeddol drwy’r grwpiau ar-lein hyn ac rwyf hefyd wedi cael y cyfle i gymryd rhan mewn gwaith na fyddwn byth wedi dychmygu y byddai’n bosibl. Ces i fy enwebu fel Cymrawd Pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol ar gyfer Microsoft Education UK. Nod y rôl honno yw dod ag addysgwyr sy’n bobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol o bob cwr o’r DU at ei gilydd er mwyn helpu i sylweddoli pwysigrwydd technoleg wrth godi ymwybyddiaeth o amrywiaeth a chynhwysiant yn y sector addysg. Mae hwn yn gyfle arbennig i fod yn gysylltiedig ag ef.
Yn yr holl flynyddoedd rwyf wedi bod yn addysgu, rwy’n teimlo ein bod ar ddechrau cyfnod newydd wrth i ni sylweddoli pŵer technoleg yn sgîl y pandemig a chyflwyniad hollbwysig y Cwricwlwm newydd i Gymru a’i oblygiadau o ran tynnu sylw at bwysigrwydd amrywiaeth, cynhwysiant a chynefin. Rwy’n falch o fod yn gysylltiedig â’r mewnbwn a roddwyd i’r adroddiad diweddar gan yr Athro Charlotte Williams ac rwy’n edrych ymlaen at beth bynnag ddaw nesaf o ran y camau i gyflawni cwricwlwm mwy amrywiol, cynyddu ymwybyddiaeth o amrywiaeth drwy AGA, meithrin hyder addysgwyr i fynd i’r afael â materion fel hiliaeth a rhagfarn ac, yn y pen draw, meithrin ymdeimlad gwirioneddol o berthyn i bawb yma yng Nghymru. Yn sicr, mae addysg yng Nghymru yn wynebu cyfnod cyffrous ac mae angen inni sicrhau bod gennym weithlu mwyfwy amrywiol i gyfrannu at yr hyn a allai fod yn ddarpariaeth ardderchog i bobl ifanc ein cenedl.
Mae addysgu yn broffesiwn anhygoel oherwydd y bywydau rydym yn effeithio arnynt, y bobl rydym yn cyfarfod â nhw a’r gallu i fynd ati i gyflawni ein holl uchelgeisiau. Mae fy siwrnai fel addysgwr hyd yma wedi fy nysgu i fod yn falch o bwy ydwyf a’r hyn y gallaf ei gyfrannu, a’i fod yn bwysig parhau i fod yn chi eich hun ac i beidio â newid eich gwerthoedd er mwyn ffitio i mewn – bydd hynny ond yn arwain at anhapusrwydd. Byddwn yn uchelgeisiol, byddwch yn wahanol, defnyddiwch yr hyn sy’n eich gwneud yn unigryw, newidiwch y sgript, manteisiwch ar eich cryfderau a pharhewch i weithio ar eich gwendidau. Cymerwch yr amser i fyfyrio, dewch o hyd i’ch niche a chofiwch eich bod yn gallu cael effaith y tu mewn a’r tu allan i’r lleoliad addysg. Peidiwch byth â thanamcangyfrif eich gallu i ysbrydoli na’r cyfleoedd anhygoel i gael eich ysbrydoli drwy rwydweithio, mae cymorth allan yno, nid ydych ar eich pen eich hun, estynnwch allan i bobl a byddwch wastad yn dod o hyd i bobl sy’n fodlon rhoi cyngor i chi.
Eich siwrnai chi ydyw, gallwch sicrhau ei bod yn un anhygoel.