Baich anghymesur
Rydym yn cydnabod nad yw hygyrchedd ein gwefan yn berffaith, ac rydym yn gweithio’n galed i gywiro’r materion a nodwyd y gallwn eu cywiro ar ein platfform presennol. Rydym wrthi’n caffael gwefan newydd a bydd hyn yn mynd i’r afael â’r meysydd hynny na ellir eu newid ar ein platfform presennol. Er nad ydym yn honni y byddai’n faich anghymesur i ddatrys y materion hyn, rydym yn ymwybodol bod y broses o sefydlu gwefan newydd yn cymryd amser. Ein dyddiad disgwyliedig ar gyfer gweithredu’r safle newydd yw mis Medi 2024.
Mae prosiect newydd y wefan yn cael ei flaenoriaethu gan y bydd yn darparu amgylchedd digidol cynhwysol a hygyrch i bob defnyddiwr drwy ei ddyluniad. O’r herwydd, mae’n bosibl y bydd rhai meysydd nad ydynt yn hygyrch ar y wefan bresennol na fyddwn yn gallu rhoi sylw iddynt neu roi blaenoriaeth iddynt ar hyn o bryd gan y byddai gwneud hynny’n tynnu adnoddau staff oddi ar brosiect y wefan newydd. Yn y pen draw, bydd hyn yn cynnig yr ateb gorau i bob defnyddiwr sy’n wynebu anawsterau hygyrchedd.
Os cewch unrhyw anhawster wrth gael mynediad at rannau o’n gwefan, cysylltwch â ni a byddwn yn eich cefnogi i ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch ac ystyried atebion dros dro fesul achos.
Mesurau i gefnogi hygyrchedd
Mae DARPL yn cymryd y camau a ganlyn i sicrhau hygyrchedd Gwefan DARPL:
Cynnwys hygyrchedd fel rhan o’n datganiad o genhadaeth.
Cynnwys hygyrchedd drwy gydol ein polisïau mewnol.
Integreiddio hygyrchedd i’n harferion caffael.
Penodi swyddog hygyrchedd a/neu ombwdsmon.
Darparu hyfforddiant hygyrchedd parhaus i’n staff.
Pennu nodau a chyfrifoldebau hygyrchedd clir.
Defnyddio dulliau sicrhau ansawdd hygyrchedd ffurfiol.
Statws cydymffurfio
Mae Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) yn diffinio gofynion ar gyfer dylunwyr a datblygwyr i wella hygyrchedd ar gyfer pobl ag anableddau. Mae’n diffinio tair lefel o gydymffurfio: Lefel A, Lefel AA, a Lefel AAA. Mae Gwefan DARPL yn cydymffurfio’n rhannol â lefel AA WCAG 2.1. Mae cydymffurfio’n rhannol yn golygu nad yw rhai rhannau o’r cynnwys yn cydymffurfio’n llwyr â’r safon hygyrchedd.
Ystyriaethau hygyrchedd ychwanegol
Er mai ein nod yw cydymffurfio â Lefel AA WCAG 2.1, rydym hefyd wedi defnyddio rhai Meini Prawf Llwyddiant Lefel AAA: Dim ond at ddibenion addurno y defnyddir delweddau o destun. Nid yw ail-ddilysu ar ôl i sesiwn ddod i ben yn arwain at golli data.
Adborth
Rydym yn croesawu eich adborth ar hygyrchedd Gwefan DARPL. Rhowch wybod i ni os dewch chi o hyd i rwystrau hygyrchedd ar wefan DARPL:
E-bost: DARPL@cardiffmet.ac.uk
Manylebau technegol
Mae hygyrchedd Gwefan DARPL yn dibynnu ar y technolegau a ganlyn i weithio gyda’r cyfuniad penodol o borwyr gwe ac unrhyw dechnoleg neu ategion cynorthwyol sydd wedi eu gosod ar eich cyfrifiadur:
HTML
WAI-ARIA
CSS
JavaScript
Dibynnir ar y technolegau hyn er mwyn cydymffurfio â’r safonau hygyrchedd a ddefnyddir.
Dull asesu
Asesodd DARPL hygyrchedd Gwefan DARPL drwy’r dulliau a ganlyn:
Hunanwerthusiad
Dyddiad
Crëwyd y datganiad hwn ar 25 Ebrill 2024 a'i ddiweddaru ar 2 Mawrth 2026.