Adnoddau wedi’u creu gan y gymuned ar gyfer sefydliadau dysg

Mae Tiger Bay and the World wedi cyhoeddi cyfres o ddeunyddiau ffynhonnell gynradd o’u harchifau cymunedol i roi cipolwg pwysig ar hanes y gymuned. Bydd yr adnoddau’n ddefnyddiol i addysgwyr, ymarferwyr ac ymchwilwyr yn unol â dyheadau’r Cwricwlwm i Gymru, Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a
Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru. Mae’r adnoddau yn tynnu sylw at gysylltiadau hirsefydlog trwy fudo a dinasyddiaeth fyd-eang, sy’n cynnwys: 

  • cyfres o gyfweliadau byrion, wedi’u ffilmio, â phobl a fagwyd yn ardal Butetown.
  • straeon wedi’u hanimeiddio am arwyr byd chwaraeon ynghyd â naratif cyd-
    destunol. 
  • e-lyfrau sy’n ymdrin â phynciau crefydd, mudo a bywyd cymunedol yn Butetown
    rhwng y ddau ryfel byd. 
  • cwestiynau myfyriol i ysgogi meddwl, herio, dysgu a chydweithio.

I ddysgu mwy, dilynwch y ddolen hon i’r adnoddau: https://www.tigerbay.org.uk/learning-resources

Rhannu cynnwys