Yng ystod gaeaf 2021 fe dynnodd Amgueddfa Cymru bortread o Thomas Picton o oriel ‘Arwyr Cymru’ yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Gwnaed y penderfyniad fel rhan o Ail-fframio Picton, menter dan arweiniad pobl ifanc sy’n cynnwys Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru a’n partner cymunedol, Panel Cynghori Is-Sahara (SSAP).
Cafodd Picton ei ystyried yn arwr am flynyddoedd, ond mae hefyd yn adnabyddus am ei driniaeth greulon o bobl Ddu – yn gaethweision a phobl rydd – ac am ganiatáu arteithio yn ystod ei gyfnod fel Llywodraethwr Trinidad, o 1797-1803. Aeth y tîm ymlaen i ddatblygu arddangosfa dair oriel Ail-fframio Picton.
Yn yr ystafell gyntaf mae Llawn Ysbryd – gosodwaith gan Laku Neg, casgliad o artistiaid o dras Trinidadaidd o bob cwr o’r DU. Mae’r gosodwaith yn ail-gyflwyno Louisa, Thisbe a Present, merched ifanc a ddioddefodd dan awdurdod creulon Thomas Picton yn Trinidad.

Yn yr ail ystafell mae Mae’r Briw yn Borth – comisiwn newydd gan Gesiye, artist amlgyfrwng o Trinidad a Tobago. Mae’r gwaith yn gyfres o ffotograffau a ffilm sy’n gwahodd pobl Ddu Trinidad i gyfrannu at offrwm cymodi, sy’n cynnwys cyfres o tatŵs a sgyrsiau am eu cyswllt â’r tir.

Yn yr ystafell olaf mae’r arddangosfa, a guradwyd dan arweiniad pobl ifanc tîm y project o Rwydwaith Arweinwyr Ifanc y Panel Cynghori Is-Sahara (SSAP) a Chynhyrchwyr Amgueddfa Cymru. Mae’n rhoi llun llawn o waddol Picton drwy ddarparu rhagor o wybodaeth a chyd-destun am ei gyfnod fel llywodraethwr Trinidad ar droad y 19eg ganrif; gwybodaeth oedd ddim yn rhan o’r dehongliad gwreiddiol.

“Efallai bydd rhai pobl yn camgymryd bod Amgueddfa Cymru a Rhwydwaith Arweinwyr Ifanc y Panel Cynghori Is-Sahara am ail-ysgrifennu hanes. Ond all hyn ddim bod yn bellach o’r gwir. Nod Ail-fframio Picton yw ysgrifennu ein dyfodol drwy herio sut ydyn ni’n trafod hanes. Mae’r project yn gyfle i ni daflu goleuni ar agweddau tywyll o hanes Picton, a’i ddangos yn ei gyd-destun llawn, cywir. […] Rydyn ni’n gobeithio taw megis dechrau yw hyn i roi llwyfan i’r lleisiau coll sydd wedi gwneud Cymru’n genedl lewyrchus, rhyngwladol gyfrifol, sy’n dod â chymunedau ynghyd i ffynu.”
Fadhili Maghiya, Cyfarwyddwr Panel Cynghori Is-Sahara:
Dyma ni’n gweithio gydag athrawon, disgyblion, yr artistiaid a phobl ifanc i adnabod y prif amcanion dysgu ar gyfer y rhaglen i ysgolion. Cafodd y gwaith ei lywio gan elfennau o Gwricwlwm Newydd Cymru, dysgu Hanes Pobl Ddu, a’r syniad o Gynefin. Mae’r gweithdy a ddatblygwyd yn trafod hanes Trefedigaethedd Prydain a’r Fasnach Drawsiwerydd mewn pobl gaeth o Affrica, gyda gwaddol Picton a’r cysylltiad Cymreig clir yn elfen graidd.

Wrth i ni ddechrau hyrwyddo’r sesiynau dyma ni’n wynebu nifer o heriau, gan gynnwys cyfleu naws a chymhlethdodau’r hanes mewn modd sy’n ddeniadol a hygyrch i ddisgyblion. Roedd rhai disgyblion yn cyrraedd heb unrhyw wybodaeth flaenorol, ac roedd yn rhaid i ni felly dreulio amser yn cyflwyno’r cyd-destun cyn y gallai’r disgyblion ddechrau arwain eu hunain drwy’r themâu.
Y canlyniad yw gweithdy all gael ei addasu yn dibynnu ar wybodaeth a dealltwriaeth flaenorol y disgyblion, diolch i weithgaredd agoriadol Mynegi Barn. Roedden ni am i’r disgyblion ystyried y gwahanol safbwyntiau allai hanes gael ei adrodd ohonynt, gan ddangos effaith anghydbwysedd grym. Yn ystod y gweithdy mae’r disgyblion yn datblygu’r gallu i edrych yn feirniadol ar yr hyn sy’n cael ei ddweud, ac i feddwl sut allai hynny fod yn wahanol i’r gwirionedd.

“Cafodd y plant amser gwych, a dwi’n gwybod fod rhai byth wedi bod mewn Amgueddfa o’r blaen, felly roedd tipyn i gymryd mewn. […] Roedd sut wnaethoch chi gyflwyno’r sesiwn yn wych, a’r cwestiynau yn dda a wir yn gwneud i’r grŵp feddwl am y gwaith mewn gwahanol ffyrdd. Diolch o galon i chi gyd am helpu i hwyluso’r sesiwn!”
(Catherine Angle, oedd yn tywys disgyblion o gwrs Llwybrau’r Dyfodol Sefydliad CPD Dinas Caerdydd (16+) a myfyrwyr ysgol Uwchradd Pencoedtre).
“Fe wnaeth hwn [y gosodwaith] fi’n ypset ac yn drist dros yr holl bobl ddu wnaeth ddioddef caethwasiaeth.”
(Disgybl o Ysgol Gynradd Mount Stewart)
“Mae hwn wedi bod yn gyflwyniad da iawn i’r pwnc. Mae’r gweithdy wedi helpu’r plant i feddwl yn fwy beirniadol ac edrych ar bethau o berspectif gwahanol.”
(Athro Ysgol Gynradd Evenlode, ar ôl sesiwn ar Picton yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.)

Bydd Arddangosfa Ail-fframio Picton i’w gweld tan 8 Ionawr 2024 [i’w gadarnhau], felly os oes gennych chi ddiddordeb archebu sesiwn gyda ni ar gyfer disgyblion cynradd neu uwchradd, cysylltwch â addysg@amgueddfacymru.ac.uk.
Fel rhan o ‘ngwaith yn Amgueddfa Cymru rydw i am gysylltu â sefydliadau addysg ar draws Cymru i gefnogi athrawon wrth addysgu cenedlaethau’r dyfodol mewn ffordd sy’n dechrau mynd i’r afael ag anghydbwysedd grym trefedigaethol a hiliol. Rydw i hefyd yn gweld y gwaith rydw i a ‘nghydweithwyr yn yr Adran Addysg ar draws ein saith amgueddfa am ei wneud yn arwain Amgueddfa at ddyfodol ble mae cymunedau wedi’u hileiddio yn cael eu cynrychioli a’u parchu yn y rhaglenni addysg mae’r Amgueddfa yn eu darparu ledled Cymru.
Rydw i am gydweithio â chymunedau diwylliannol perthnasol ac athrawon ledled Cymru, felly os oes gennych chi ddiddordeb mewn trafod a datblygu darpariaeth addysg newydd, neu i ddysgu mwy am fy ngwaith yn gyffredinol, cysylltwch â umulkhayr.mohamed@amgueddfacymru.ac.uk.