Beth sy’n ein gwneud ni’n Gymry?

Fel rhan o Rwydwaith Eiriolaeth DARPL (DAN) cawsom ein gwahodd i gydweithio ar brosiect o’n dewis gyda nifer o ysgolion gwahanol. Fe wnaethom benderfynu cydweithio â dwy ysgol leol, sef Ysgol Gynradd Evenlode (Penarth, Bro Morgannwg) ac Ysgol yr Eglwys yng Nghymru yr Holl Saint (Y Barri, Bro Morgannwg). Gyda’n gilydd, penderfynon ni ganolbwyntio ar brosiect yr oeddem wedi’i gychwyn y flwyddyn flaenorol ar gyfer ein Heisteddfod, o’r enw ‘Beth sy’n ein gwneud ni’n Gymry’. Bydd y blog byr hwn yn rhoi trosolwg i chi o’r hyn a wnaethom.

Cyd-destunau’r Ysgolion:

Grangetown: Mae’r ardal ymhlith y 10% uchaf o’r ardaloedd â’r amddifadedd mwyaf yng Nghymru. Cyfradd uchel o ran symudedd disgyblion: 36.1%. Mwyafrif Byd-eang: 81.15% – 38 grŵp ethnig gwahanol, a 31 o ieithoedd gwahanol. Dim Cymraeg yn cael ei siarad gartref. Saesneg fel Iaith Ychwanegol: mae 81% a 77% o blant yn y categorïau ‘Newydd i’r Saesneg’ a ‘Caffael Cynnar’ yn y drefn honno.

Evenlode: Mae Ysgol Gynradd Evenlode yn ysgol gynradd fawr gyda phlant o oedran Meithrin i Flwyddyn Chwech. Er cyd-destun, mae’r ysgol wedi’i lleoli mewn ardal sydd yn safle 1715 allan o 1909 ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019. Mae 2% o blant yn derbyn PYADd. Ar hyn o bryd mae 512 o blant ar y gofrestr, ac mae 55 aelod o staff. Mae 46 o’r plant ar y gofrestr yn dod o dras y mwyafrif byd-eang, sef 9% o’r ysgol gyfan. Mae 8% o aelodau staff yn dod o dras y mwyafrif byd-eang.

Yr Holl Saint: Mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru yr Holl Saint yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir cyfrwng Saesneg i blant rhwng 3 ac 11 oed. Ar hyn o bryd mae gan yr Holl Saint 210 o blant ar y gofrestr. Mae 11 o blant yn derbyn PYADd. Mae 26 o’r plant ar y gofrestr yn dod o dras y mwyafrif byd-eang.

Trosolwg o’r Prosiect

  • Datblygu Eisteddfod amlddiwylliannol sy’n trysori treftadaeth Cymru ond sy’n dathlu sut olwg sydd ar fod yn Gymry heddiw.
  • Defnyddio’r dathliad hwn i gynnwys straeon rhieni am eu bywydau a’u diwylliannau. 
  • Mae Criwiau Cymreig a grwpiau amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant ysgolion yn cael cyfle i ddod at ei gilydd a rhannu syniadau a meddyliau ar sut i wneud ysgolion yn wrth-hiliol a/neu gyfrannu at gynllunio’r Eisteddfod. 

Dysgu proffesiynol a gwblhawyd:

Grangetown: 

  • Cwblhaodd yr Uwch Dîm Arwain hyfforddiant UDA DARPL ar-lein. 
  • Gwyliodd y staff: Kimberle Crenshaw: Beth yw Croestoriadedd a Sipsiwn, Roma, Teithiwr  
  • DARPL: Gwrth-hiliaeth yn y cwricwlwm
  • Gwrth-hiliaeth – wedi’i arwain gan yr arweinydd amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant
  • DARPL: Y Cwricwlwm Du
  • Mynychodd arweinwyr Meysydd Dysgu a Phrofiad hyfforddiant CSC ar gyfer pob MDPh – Datblygu Amrywiaeth mewn …
  • Mae llywodraethwyr yn dechrau cwblhau hyfforddiant DARPL.

Evenlode

  • Hyfforddiant SRTRC AR, gyda ffocws ar eirfa.
  • Pennaeth a Dirprwy Bennaeth – Carfan 1 o hyfforddiant Gwrth-hiliaeth Bro Morgannwg dan arweiniad Rachel Clarke, Apex Educate.
  • Hyfforddiant AR ysgol gyfan gyda Karen Brooke.
  • Hyfforddiant AR ysgol gyfan gyda Martine Booker-Southard.
  • Mynychodd y Pennaeth a’r Dirprwy Bennaeth Gynhadledd Arweinwyr Addysg DARPL.

Yr Holl Saint:  

  • Cwblhawyd hyfforddiant SRTRC AR gyda’r holl staff. 
  • Cwblhaodd y Dirprwy Bennaeth a’r Arweinydd Iechyd a Lles Carfan 3 o hyfforddiant Gwrth-hiliaeth Bro Morgannwg.
  • Cwblhaodd plant Blwyddyn 5 a 6 y cynllun peilot ‘Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth: Arweinwyr y Presennol’ – mae hyn wedi ffurfio ein Grŵp Llais y Disgybl ‘Coch i Hiliaeth’
  • Mynychodd y staff cyfan hyfforddiant HMS gydag Ian Timbrell – ‘More than Flags and Rainbows’. 
  • Hyfforddiant AR ysgol gyfan gyda Martine Booker-Southard.
  • Cwblhaodd y Dirprwy Bennaeth y cwrs DARPL: Cyfres Arweinyddiaeth Uwch. 
  • Mynychodd pob arweinydd Maes Dysgu a Phrofiad hyfforddiant CSC ar gyfer pob MDPh – Datblygu Amrywiaeth mewn …

Beth wnaethom ni:

Cynlluniwyd Eisteddfod a oedd yn caniatáu i’r plant archwilio traddodiadau hanesyddol Cymru. Roedden ni hefyd eisiau i blant ddeall bod Cymru heddiw yn cynnwys llawer o bobl o bedwar ban byd, nad Cymru a Chymreictod yw eu treftadaeth, a dathlu’r cyfoeth sydd gan ein gwlad i’w gynnig. Felly, roedden ni hefyd eisiau cynnwys archwilio Cymru heddiw, a’r hyn y mae bod yn Gymry yn ei olygu i’n plant. Ar ôl yr Eisteddfod, fe wnaethon ni drefnu i’r plant rannu eu meddyliau a’u syniadau.

Cyfarfod rhithwir ar gyfer Criwiau Cymreig a grwpiau amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant yr ysgolion:

Rhannodd pob ysgol eu cynlluniau a’r hyn yr oedd y plant wedi’i wneud ar gyfer eu Heisteddfod, gan gysylltu â’r thema ‘Beth sy’n ein gwneud ni’n Gymry?’ Rhannodd grŵp Amrywiaeth a Chydraddoldeb Grangetown pa mor bwysig oedd hi iddyn nhw ddathlu gwahanol ddiwylliannau, gan fod cynifer o’i disgyblion yn dod o gefndiroedd amrywiol.

Ar ôl y cyfarfod hwn, cytunodd y plant a’r staff i gwrdd wyneb yn wyneb.

Ymweliad ar y cyd ag Ysgol Gynradd Evenlode:

Cytunodd Evenlode yn garedig i groesawu grwpiau’r ysgolion. Cyflwynodd y grwpiau yr hyn yr oeddent wedi bod yn ei wneud yn eu sesiynau a rhannu enghreifftiau o’u gwaith. Trafodwyd yr Eisteddfod, ac ystyriodd y plant sut y gellid ei gwella flwyddyn nesaf.

Effaith y prosiect ar y dysgwyr:

Teimlodd staff Grangetown ei bod yn werthfawr i’r plant ddeall nad oes gan bob ardal yr un amrywiaeth â Grangetown. Ychydig funudau ar ôl cyrraedd Evenlode, dywedodd un o’r disgyblion, ‘Hei Miss, dydw i ddim wedi gweld un wyneb du na brown!’

Roedd yn ddiddorol ystyried gwahanol fannau cychwyn yr ysgolion. Roedd Evenlode a’r Holl Saint yn edrych ar amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant yn nhermau pobl ‘eraill’; tra bod Grangetown yn myfyrio ar amrywiaeth eu hysgol, a’r angen i sicrhau bod pob diwylliant, crefydd ac ethnigrwydd yn cael eu dathlu.  

Beth hoffech chi ei wneud nesaf:

  • Ymweld â phob ysgol. 
  • Grwpiau amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant yn cyfarfod a rhannu eu gwaith. Datblygu dull gwrth-hiliol ysgolion ac ymwybyddiaeth o anabledd.  
  • Cryfhau’r cynlluniau ar gyfer yr Eisteddfod nesaf, gyda’r ysgolion yn cynllunio beth i’w gynnwys. Cydweithio trwy gystadleuaeth a rennir.
  • Cryfhau cyfranogiad straeon teuluoedd yn Eisteddfod pob ysgol. 
  • Cynnwys llywodraethwyr ym mhob ysgol. Archwilio’r posibilrwydd o gael Leon Andrews i gynnig hyfforddiant i lywodraethwyr.
Rhannu cynnwys