Fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, mae staff wedi ymgymryd â hyfforddiant cynhwysfawr sy’n canolbwyntio ar ymarfer gwrth-hiliol. Mae hyn wedi cynnwys defnyddio terminoleg wrth-hiliol gywir a strategaethau ar gyfer mynd i’r afael â digwyddiadau hiliol. Mae dysgu proffesiynol wedi’i gyflwyno drwy adnoddau DARPL yn ogystal â’r rhaglen DPP ‘Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth’. O ganlyniad, mae staff yn adrodd eu bod yn teimlo’n fwy hyderus wrth ddelio â’r materion hyn, gyda thystiolaeth wedi’u chasglu trwy lais y staff.
Mae ein gwaith i ymgorffori gwrth-hiliaeth yn ymestyn y tu hwnt i hyfforddiant staff. Rydym yn falch o ddathlu ystod eang o ddigwyddiadau diwylliannol a chrefyddol drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys Ramadan, Hanukkah, Diwali, y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd, a phen-blwydd Guru Nanak. Mae’r dathliadau hyn yn chwarae rhan allweddol wrth hyrwyddo dealltwriaeth ddiwylliannol a pharch ar draws cymuned ein hysgol.
Wrth hyrwyddo lleisiau amrywiol, rydym wedi buddsoddi bron i £2,000 mewn llyfrau a ysgrifennwyd gan awduron o amrywiaeth o gefndiroedd ac sy’n cynnwys cymeriadau sy’n adlewyrchu amrywiaeth ein disgyblion a’r byd ehangach. Mae ein Llysgenhadon Darllen wedi helpu i hyrwyddo’r fenter hon, gan gynnwys cynnal sesiwn fyw gyda’r awdur a’r bardd Conor Allen i ysbrydoli ac ennyn diddordeb disgyblion. Ar ben hynny, mae ein cwricwlwm wedi cael ei ddiweddaru i gynnwys unigolion blaenllaw o amrywiaeth o gefndiroedd diwylliannol ac ethnig, gan sicrhau cynrychiolaeth a chynhwysiant mewn dysgu.
Rydym hefyd yn falch o fod wedi dod yn ysgol ‘No Outsiders’. Mae hyn yn golygu bod plant bellach yn cael eu haddysgu ar bob elfen o’r Ddeddf Cydraddoldeb trwy ddull sy’n seiliedig ar lyfrau bob hanner tymor. Mae’r fenter hon yn cefnogi datblygu meddylfryd gwrth-hiliol, ac yn annog plant i ddeall, parchu a dathlu gwahaniaeth a thebygrwydd. Er mwyn cefnogi ac adlewyrchu’r gwerthoedd hyn, rydym hefyd wedi diweddaru ein Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, gan sicrhau bod ein harferion yn cyd-fynd â’n gweledigaeth ar gyfer amgylchedd cynhwysol a pharchus yn yr ysgol.
Ar gyfer y flwyddyn nesaf, hoffem dreulio mwy o amser yn ystyried cynrychiolaeth yn y cwricwlwm, gan gynllunio cyfleoedd i ddathlu lleisiau a chyflawniadau amrywiol. Hoffem hefyd ddatblygu pynciau a/neu ddilyniannau o wersi sy’n ymdrin â straeon a phrofiadau pwysig cymunedau nad ydynt yn wyn, megis cenhedlaeth Windrush a chysylltiadau’r ardal â’r fasnach gaethweision. Hoffem hefyd ddatblygu cronfa o lyfrau craidd a thestunau allweddol i blant eu darllen, yn cynnwys lleisiau Cymreig a lleisiau nad ydynt yn wyn fel bod pob plentyn yn cael ei gynrychioli ac yn gweld ei hun yn cael ei adlewyrchu yn ein cwricwlwm.
I gael gwybod mwy am ymuno â DAN (& dolen): Advocacy Network – DARPL
I gael gwybod mwy am fynychu ELS (& dolen): Enhanced Leadership Series – DARPL