Cymorth i Arweinwyr Gwaith Ieuenctid sy’n gweithio i gyflawni Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

About Course

Cyd-destun ar gyfer Dysgu a Rhaeadru: 
 
Mae’r gyfres ragarweiniol hon yn cynnwys dwy ran, a’r nod yw hwyluso datblygiad proffesiynol parhaus er mwyn gwreiddio arweinyddiaeth ac arferion gwrth-hiliol mewn lleoliad gwaith ieuenctid. 
 
Mae’r rhan gyntaf yn canolbwyntio ar arwyddocâd gwaith gwrth-hiliaeth mewn lleoliadau gwaith ieuenctid, gan edrych ar gyfansoddiad hil a hiliaeth, ac esbonio’r derminoleg gysylltiedig. Yr amcan yw cefnogi pobl i fyfyrio’n feirniadol a dyfnhau eu dealltwriaeth o egwyddorion gwrth-hiliaeth.
 
Mae’r ail ran yn canolbwyntio ar helpu arweinwyr i werthuso sut mae gwaith ieuenctid a chymunedol yn cyfrannu at Gymru wrth-hiliol, gan fyfyrio ar rôl gwaith ieuenctid yn y Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth (2022–2024).
 
Gellir defnyddio’r gyfres ragarweiniol hon ar y cyd â Phecyn Cymorth DARPL: Canllawiau ar Ddileu Hiliaeth mewn Sefydliadau Dysgu – DARPL
 
Nodau:
 
1.Deall pam mae gwaith gwrth-hiliaeth yn bwysig mewn lleoliad Gwaith Ieuenctid.
 
2.Cael gwell dealltwriaeth o hiliaeth a’r termau sy’n gysylltiedig â hil.
 
3.Gallu diffinio hiliaeth ac adnabod pob agwedd arni yng nghyd-destun gwaith ieuenctid.
 
4.Myfyrio’n feirniadol ar eich dealltwriaeth eich hun o wrth-hiliaeth a nodi’r camau nesaf i’w cymryd.
 
Show More

Course Content

Cymorth i arweinwyr gwaith ieuenctid sy’n gweithio i gyflawni Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

  • Rhan Un
    00:00
  • Rhau Dau
    00:00