Athrawon a Myfyrwyr Athrawon

About Course

Mae’r gyfres hon o glipiau fideo byr wedi’i datblygu gan Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth i ddarparu profiad dysgu proffesiynol rhagarweiniol i Athrawon ac Athrawon dan Hyfforddiant sy’n gweithio mewn lleoliadau addysgol.
Anogir cyfranogwyr i wylio’r clipiau fideo a chymryd rhan yn y gweithgareddau cysylltiedig, naill ai ar eu pennau eu hunain neu mewn parau/grwpiau. Bydd cymryd amser i gwblhau’r gweithgareddau yn dyfnhau dealltwriaeth ac yn cefnogi cymhwysiad ymarferol, yn hytrach na gwrando ar y recordiadau yn unig. Mae pob sesiwn wedi’i chynllunio i gymryd rhwng 15 ac 20 munud. 
Nodau’r Gyfres:
• Cyflwyno Athrawon ac Athrawon dan Hyfforddiant i’r cysyniad o wrth-hiliaeth a’i phwysigrwydd mewn addysg.
• Magu hyder wrth ddefnyddio terminoleg ac iaith gwrth-hiliol, gan sicrhau eglurder a chywirdeb wrth drafod hil a hiliaeth.
• Cefnogi ymarfer myfyriol trwy weithgareddau sy’n annog meddwl beirniadol am safbwyntiau personol a dulliau ystafell ddosbarth.
• Darparu strategaethau ymarferol ar gyfer ymgorffori egwyddorion gwrth-hiliol mewn addysgu a dysgu pob dydd.
Show More

Course Content

Sesiwn 1

  • Sesiwn 1
    58:47

Sesiwn 2

Sesiwn 3