Creu Diwylliant Gwrth-hiliol mewn Ysgolion Canllaw Ymarferol i Arweinwyr Ysgol yng Nghymru  

Mae nod y ddogfen hon yn syml: helpu uwch-arweinwyr mewn ysgolion yng Nghymru i greu diwylliant gwrth-hiliol yng nghymunedau eu hysgol.


Cafodd ei hysgrifennu gan arweinwyr ac athrawon o ddwy ysgol, y cafodd y ddwy eu cydnabod yn ffurfiol am eu gwaith yn y maes hwn. At hynny, mae hefyd yn defnyddio enghreifftiau go iawn o ysgolion eraill ledled Cymru. Mae pob darn o gyngor yn y ddogfen hon yn gyngor go iawn ac yn digwydd mewn ysgol yng Nghymru; ni cheir unrhyw bwyntiau bwled damcaniaethol. Drwy fanteisio ar y wybodaeth a’r profiad hwn sy’n dod i’r amlwg a’u cyfuno o fewn un dogfen, y gobaith yw y gallwn chwalu unrhyw ddirgelwch o ran yr hyn y mae angen ei wneud, ac y bydd y ddogfen yn eich helpu wrth i chi symud tuag at greu diwylliant gwrth-hiliol yn eich ysgolion chi.  

Mae’r ddogfen wedi’i threfnu’n gategorïau gan ddefnyddio pum maes: Llywodraethu ac Arweinyddiaeth, Amgylchedd yr Ysgol/Cwricwlwm Cudd, Rhieni, Gofalwyr a Phartneriaethau Cymunedol, Dysgu a Datblygu Proffesiynol, ac Addysgeg a’r Cwricwlwm. Mae’r pwynt bwled cyntaf ym mhob categori yn cynnig cyfle asesu/myfyrio ardderchog i unrhyw ysgol lywio’r ffordd ymlaen wrth iddi ddatblygu ymarfer gwrth-hiliol a chyfrannu at Gymru wrth-hiliol erbyn 2030. 


DARPL – Creu Diwylliant Gwrth-hiliol mewn Ysgolion – Canllaw Ymarferol i Arweinwyr Ysgol yng Nghymr PDF

Rhannu cynnwys