Derbyn eich bod yn Unigryw: Fy Nhaith i Rymuso Plant sydd â Mannau Geni

Rydw i wedi cael y pleser o gydweithio â DARPL o’r cyfnod cynnar. Rydw i’n gobeithio y bydd fy llyfr o ddiddordeb i chi yn eich dysgu proffesiynol eich hun yn ogystal ag yn eich gwaith gyda dysgwyr ifanc. Fel awdur stori sy’n dathlu amrywiaeth a hunan-dderbyn, rwy’n angerddol iawn am rymuso plant i dderbyn eu bod yn unigryw, yn enwedig y rhai sydd â mannau geni. Mae hon yn daith bersonol i mi, yn deillio o fy mhrofiadau fy hun gan fod gen i fan geni ar fy wyneb, a’r gwersi amhrisiadwy a ddysgodd i mi am hunanhyder a gwydnwch.

Mae ystadegau’n dangos bod tua 1 o bob 10 babi yn cael eu geni gyda man geni amlwg, yn amrywio o smotiau bach i fannau geni mwy amlwg. Er bod y gwahaniaethau corfforol hyn yn aml yn ddiniwed, mae’n gallu cael effaith sylweddol ar hunan-barch plentyn. Mae ymchwil yn awgrymu bod plant sydd â gwahaniaethau gweladwy, fel mannau geni, yn fwy agored i deimladau o hunanwerth isel a phryder cymdeithasol o’u cymharu â’u cyfoedion.

Fel mam, athro ac ymgynghorydd addysg, rydw i wedi dod ar draws nifer o weithwyr proffesiynol a oedd yn chwilio am lyfrau a oedd nid yn unig yn cynrychioli’r plant yn eu dosbarth ond hefyd wedi’u lleoli yng Nghymru ac yng nghyd-destun Cymru. Wedi fy ysbrydoli gan yr angen hwn, lluniais stori sy’n mynd â darllenwyr ifanc ar antur gyfareddol, wedi’i lleoli yng Nghymru. Nid yn unig ceir cynrychiolaeth o blant â mannau geni ond hefyd adlewyrchir natur ddiwylliannol amrywiol ein gwlad.

Wrth lunio’r stori hon, dewisais yn fwriadol i beidio â rhoi enw i’r prif gymeriad. Mae’r penderfyniad hwn yn caniatáu i bob plentyn weld ei hun yn cael ei adlewyrchu yn y stori, waeth beth yw ei gefndir na’i edrychiad. Trwy adael y cymeriad yn ddienw, roeddwn yn anelu at greu naratif mwy cynhwysol lle gall pob plentyn uniaethu â thaith y prif gymeriad i ddarganfod ei hun a derbyn pwy ydyw.

Ar ben hynny, rydw i’n credu bod rhoi cyfle i blant fwynhau llenyddiaeth amrywiol yn cael effaith gadarnhaol ar eu hunan-barch a’u hempathi tuag at eraill. Trwy normaleiddio gwahaniaethau a hyrwyddo unigolion i dderbyn pwy ydyn nhw, mae straeon fel fy un i yn grymuso plant â mannau geni ac yn meithrin cymdeithas fwy cynhwysol.

Mae cynrychiolaeth a chyfathrebu agored am wahaniaethau yn elfennau allweddol wrth feithrin amgylchedd cynhwysol, yn enwedig mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar. Mae’n hanfodol i addysgwyr a rhoddwyr gofal gynnwys cynrychiolaeth o bob plentyn, yn enwedig y rhai sydd â mannau geni neu wahaniaethau gweladwy, mewn amrywiol adnoddau, llyfrau, arddangosfeydd waliau, a sgyrsiau bob dydd.

Trwy gynnwys cymeriadau a delweddau amrywiol sy’n adlewyrchu edrychiad amrywiol plant, gall lleoliadau blynyddoedd cynnar greu amgylchedd lle mae pob plentyn yn teimlo ei fod yn cael ei weld, ei glywed a’i werthfawrogi. Mae’r gynrychiolaeth hon nid yn unig yn helpu plant sydd â mannau geni neu wahaniaethau gweladwy i deimlo eu bod yn cael eu derbyn yn well, ond mae hefyd yn addysgu eu cyfoedion am amrywiaeth ac yn hyrwyddo empathi a dealltwriaeth.

Ar ben hynny, mae’n hanfodol i addysgwyr a rhoddwyr gofal gymryd rhan mewn trafodaethau agored am wahaniaethau mewn modd cadarnhaol ac adeiladol. Mae osgoi sgyrsiau am fannau geni neu wahaniaethau gweladwy’n gallu cyfrannu’n anfwriadol at deimladau o embaras neu gywilydd ymysg plant sydd â mannau geni. Yn hytrach, dylid mynd i’r afael â’r pynciau hyn yn sensitif a chynhwysol, gan bwysleisio natur unigryw a harddwch pob person unigol.

Wrth siarad â theuluoedd, mae’n bwysig cydnabod a dilysu eu profiadau wrth ddarparu cymorth ac adnoddau i fynd i’r afael ag unrhyw bryderon sydd ganddynt. Gall addysgwyr hefyd gydweithio â theuluoedd i sicrhau bod plant sydd â mannau geni neu wahaniaethau gweladwy yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u cynnwys ym mhob agwedd ar addysg plentyndod cynnar.

I gloi, mae magu hyder ymysg plant sydd â mannau geni yn hollbwysig i’w llesiant emosiynol a’u datblygiad cymdeithasol. Trwy bŵer llenyddiaeth, cyfathrebu agored, a chynrychiolaeth, gallwn ysbrydoli meddyliau ifanc i dderbyn eu bod yn unigryw a dathlu amrywiaeth. Gadewch i ni ymdrechu i greu byd lle mae pob plentyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a’i dderbyn am bwy ydyn nhw, waeth sut maen nhw’n edrych na pha mor wahanol ydyn nhw.

https://www.amazon.co.uk/My-Birthmark-Jaziea-Hanna-Farag/dp/139997534X

Rhannu cynnwys