Beth ydyn ni wedi’i gyflawni? Beth ydyn ni wedi’i ddysgu? Beth nesaf?
Mae bod yn rhan o Rwydwaith DAN wedi galluogi Ysgol Gyfun Pencoed i adeiladu cymuned wrth-hiliol mewn ffordd ddilys ac ystyrlon. Ein nod yw helpu dysgwyr a staff i ddeall yn iawn beth mae’n ei olygu i fod yn wrth-hiliol yn eu bywydau bob dydd.
Ar ddechrau’r flwyddyn, gwnaethom wrth-hiliaeth yn flaenoriaeth glir ar ein Cynllun Gwella Ysgol, ac fe wnaethom ddatblygu ein Cynllun Gweithredu Gwrth-Hiliol ein hunain a oedd yn cyd-fynd â’r fframwaith CGCWH. Roeddem yn gwybod o’r cychwyn cyntaf bod gennym waith pwysig i’w wneud.
Gyda chefnogaeth DARPL, fe wnaethom gynnal diwrnod HMS ysgol gyfan a chlwstwr cyfan yn canolbwyntio ar wrth-hiliaeth. Daeth yr hyfforddiant gorfodol hwn â’r holl staff ac aelodau o’n corff llywodraethu at ei gilydd. Roedd y dysgu proffesiynol yn amhrisiadwy. Rhoddodd ddealltwriaeth ddyfnach i’n staff o’r heriau rydym yn eu hwynebu, pam mae’r gwaith hwn yn bwysig a sut y gallwn ei gyflawni gyda’n gilydd.
Rydym wedi sicrhau bod y flaenoriaeth hon yn bwydo i bob cynllun gwella Maes Dysgu a Phrofiad ac adrannol, gan sicrhau bod pob maes yn datblygu cwricwlwm gwrth-hiliol. Mae staff o bob MDPh wedi mynychu hyfforddiant a gefnogir gan DARPL ar greu gwersi diddorol a chynhwysol yn eu pynciau. Yn y Celfyddydau Mynegiannol, galluogodd y Prosiect ‘Origins’ holl ddysgwyr Blwyddyn 7 i ymweld ag Amgueddfa Caerdydd ac ymgysylltu â’r arddangosfa Ailfframio Picton. Roedd yr ymweliad hwn yn herio eu canfyddiadau o hanes a chelf ac yn eu hannog i fyfyrio ar sut mae straeon yn cael eu hadrodd o wahanol safbwyntiau. Ers hynny, rydym wedi datblygu cysylltiadau cryf â’r amgueddfa i ddyfnhau ein dealltwriaeth o ddad-drefedigaethu’r cwricwlwm.
Roeddem hefyd yn hynod ffodus i gymryd rhan ym Mhrosiect Awduron DARPL, a roddodd gyfle i ddysgwyr archwilio Trouble in Butetown gyda’i awdur, Diana Nneka Atuona. Anogodd hyn fyfyrdod dwfn ar ddylanwadau’r ddrama a’i neges bwerus.
Tynnwyd sylw at yr ymrwymiad hwn i amrywiaethu ein cwricwlwm yn ystod ein hymweliad diweddar gan Estyn hefyd:
“Mae disgyblion yn datblygu eu dealltwriaeth o hanes a phrofiadau cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a phobl LHDTC+ ar draws y cwricwlwm. Er enghraifft, mewn gwersi hanes, mae disgyblion yn astudio effaith Alexander Hamilton, ac mewn gwersi Saesneg, gwaith Benjamin Zephaniah.”
Yn Ysgol Gyfun Pencoed, mae llais y dysgwr yn eistedd wrth wraidd ein dull gwrth-hiliol. Mae ein grŵp PARCH (Hyrwyddwyr Gwrth-hiliol Pencoed) wedi bod yn amhrisiadwy wrth yrru newid ymlaen. Mae eu hymrwymiad diwyro i hyrwyddo gwrth-hiliaeth ar draws ein hysgol a’n cymuned ehangach wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig.
Nid yw’r gwaith pwerus hwn wedi mynd heb sylw. Ym mis Rhagfyr 2024, cyflwynodd ein dysgwyr eu mentrau, gan gynnwys barddoniaeth bwerus, i Grŵp Cydraddoldeb EEYYP. Mae eu gwaith wedi cael ei rannu gyda Swyddog Staff y Comisiynydd Heddlu a Throseddu a Rheolwr Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Cyfiawnder Troseddol. O ganlyniad, roedd yn anrhydedd i ni groesawu Emma Wools, Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, i’n hysgol i glywed am eu taith. Gwnaeth eu hymroddiad a’u haeddfedrwydd wrth hyrwyddo’r gwaith hanfodol hwn argraff fawr arni.
Eleni, bu ein dysgwyr hefyd yn gweithio gydag ysgolion cynradd clwstwr, gan arwain cynulliadau a gweithdai am wrth-hiliaeth a chynghreiriaeth â disgyblion iau. Mae’r gwaith hwn wedi bod yn gyffrous ac yn foddhaus. Maen nhw bellach wedi helpu i sefydlu grŵp gwrth-hiliol ar gyfer y clwstwr cyfan, gyda chynrychiolwyr o bob ysgol gynradd. Flwyddyn nesaf, rydym yn bwriadu ehangu hyn trwy rannu prosiectau clwstwr cyfan a gwahodd artistiaid, cerddorion a modelau rôl o’r mwyafrif byd-eang i gynyddu cynrychiolaeth ar draws ein cwricwlwm. Mae’n gyfnod cyffrous i’n clwstwr!
Ochr yn ochr â hyn, mae ein dysgwyr wedi dechrau gwaith ysgol-i-ysgol gydag Ysgol Uwchradd Gatholig Archesgob McGrath, gan eu cefnogi ar eu taith wrth-hiliol. Cawsant eu gwahodd hefyd gan DARPL i rannu eu gwaith gyda llunwyr polisi allweddol o bob cwr o Gymru, gan gyflwyno i dros 50 o weinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru. Mae eu proffesiynoldeb, eu hyder a’u hymrwymiad i yrru newid yn wirioneddol ysbrydoledig.
Wrth wraidd hyn i gyd mae’r ffordd rydym yn ymateb i hiliaeth. Dan arweiniad yr adnodd ‘Eradicate Racism’ gan DARPL a’n polisi ymddygiad ein hunain yn yr ysgol, rydym wedi datblygu dull clir a graddedig ar gyfer mynd i’r afael â digwyddiadau hiliol. Mae hyn yn grymuso staff i adnabod a mynd i’r afael â hiliaeth gyda hyder a chysondeb. Mae datblygu’r system hon wedi cymryd amser ac ymrwymiad, ac er bod mwy i’w wneud o hyd, mae pob digwyddiad rydym yn ymdrin ag ef a phob dysgwr rydym yn ei gefnogi yn dangos ein bod yn symud i’r cyfeiriad cywir.
Eleni, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y digwyddiadau hiliol yn cael eu hadrodd. I ni, mae hyn yn arwydd ein bod yn meithrin ymddiriedaeth a dealltwriaeth fel bod dysgwyr yn teimlo’n ddiogel i roi gwybod am hiliaeth a’i herio pan fyddant yn ei gweld. Er ein bod yn gwybod bod rhai dysgwyr yn dal i brofi hiliaeth, rydym yn fwy hyderus nag erioed wrth fynd i’r afael â hi, herio rhagfarn a chael sgyrsiau agored ac addysgol gyda rhieni a gofalwyr.
I orffen y flwyddyn ryfeddol hon, rydym yn falch iawn o gynnal ein Diwrnod Amrywiaeth cyntaf – dathliad o’r gymuned gyfoethog ac amrywiol rydym mor falch o fod yn rhan ohoni.
Felly, beth mae ein dysgwyr yn ei ddweud am y gwaith rydym wedi’i wneud?
“Mae’r gwaith wedi rhoi lleoedd diogel i ni deimlo’n gryfach i siarad am hiliaeth ac unrhyw broblemau a allai godi yn yr ysgol neu yn ein cymuned.”
“Rydyn ni’n teimlo’n fwy dewr o wybod bod yna bobl i ni siarad â nhw ac rydyn ni’n teimlo’n bod ni’n cael ein cefnogi gan y ffaith bod yr ysgol yn mynd i’r afael â hiliaeth a chamsyniadau yn y cwricwlwm.”
“Mae gweithio gydag ysgolion cynradd y clwstwr yn helpu pawb i ddeall pwysigrwydd adeiladu cymuned deg a chynhwysol. Rydyn ni’n sefyll yn gadarn gyda’n gilydd.”
“Mae ein hysgol wedi gwneud deall gwrth-hiliaeth yn flaenoriaeth, ac mae hynny’n helpu i sicrhau bod pob dysgwr yn teimlo ei fod yn cael ei gynnwys a’i drin yn deg.”
Ym mis Medi, byddwn yn lansio ein Grŵp PARCH Rhieni a Gofalwyr Pencoed i ymgysylltu teuluoedd â’r gwaith hwn yn well. Bydd y grŵp hwn yn helpu i gynllunio digwyddiadau, yn rhannu profiadau bywyd ac yn cefnogi ein gwaith parhaus o ddatblygu diwylliant ysgol gwrth-hiliol.
Wrth edrych ymlaen, mae ein camau nesaf yn cynnwys:
- Creu Siarter Dysgwyr Gwrth-Hiliol ar gyfer y clwstwr cyfan
- Datblygu ymyriadau a pholisïau newydd, ar draws y clwstwr ac o fewn ein hysgol
- Datblygu dealltwriaeth o gynnydd cwricwlwm cynhwysol a chyfartal
- Parhau i ddatblygu dealltwriaeth o’r hyn y mae’n ei olygu i fynd i’r afael â hiliaeth yn ystyrlon bob dydd
Yn Ysgol Gyfun Pencoed, rydym yn falch o fod yn gymuned gynhwysol lle gall pob dysgwr ddysgu, tyfu a ffynnu. Wedi’n harwain gan ein cenhadaeth i hyrwyddo rhagoriaeth, cydraddoldeb a lles i bawb, rydym wedi ymrwymo i adeiladu diwylliant gwrth-hiliol sy’n wir yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac yn grymuso pawb i lwyddo.
Felly, pa gyngor sydd gennym i ysgolion sy’n dechrau eu taith gwrth-hiliol eu hunain?
Gofynnwch am help. Mae datblygu dull gwrth-hiliol yn heriol, nid yw’n hawdd ac mae’n rhaid i ysgolion estyn allan at eraill am arweiniad a chefnogaeth. Heb gymorth DARPL, ni allem fod wedi cyflawni’r hyn rydym wedi’i gyflawni.
Byddwch yn barod i wneud pethau’n anghywir. Mae DARPL yn disgrifio’r gwaith hwn fel gwaith y galon, ac mae hynny’n wir. Byddwch chi’n gwneud camgymeriadau ar hyd y ffordd, ond sut rydych chi’n dysgu ac yn tyfu o ganlyniad iddynt sy’n bwysig. Cymerwch ran mewn dysgu proffesiynol, darllenwch yn eang, myfyriwch yn ddwfn, a pheidiwch â bod ofn gofyn am gymorth.
Gwrandewch. Gwrandewch ar eich dysgwyr a’ch cymuned ehangach. Gofynnwch: Beth mae’n ei olygu i fod yn wrth-hiliol yma? Beth yw profiadau bywyd y rhai o’n cwmpas? Dim ond trwy wrando y gallwch chi adeiladu rhywbeth dilys. Wedi’i lunio gan eich dysgwyr, ar gyfer eich dysgwyr.
Ac yn olaf, byddwch yn ddewr.
Dywedodd Estyn:
“Mae cymuned yr ysgol yn meithrin ymdeimlad dwys a diriaethol o berthyn, gan sicrhau bod disgyblion a staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u trin yn deg.”
Ym Mhencoed, credwn mai gwaith y galon yw hwn. Rydym yn hynod falch o’n dysgwyr, sy’n arwain y daith hon gydag angerdd, dewrder a phwrpas, ac rydym yr un mor falch o’n staff, sydd wedi cofleidio’r gwaith hwn ac sy’n cydnabod ei bwysigrwydd wrth lunio dyfodol gwell i bawb. Gyda’n gilydd, rydym yn adeiladu ysgol wirioneddol wrth-hiliol.
Mrs Shelley Davies
Pennaeth Cynorthwyol Cyswllt
Arweinydd Gwrth-Hiliol