Ein Cyfrifoldeb Gwrth-hiliol: Taith tuag at Fod yn Sefydliad Gwrth-hiliol

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ein hysgol wedi bod ar daith bwerus sy’n ysgogi’r meddwl – taith tuag at fod yn ysgol wrth-hiliol. Rydym yn cydnabod nad yw bod yn “anhiliol” yn ddigon. Ein hymrwymiad yw dod yn sefydliad gwrth-hiliol: sefydliad lle rydym yn herio rhagfarn, yn dathlu amrywiaeth ac yn eirioli dros hawliau plant, gan sicrhau tegwch a pherthyn i bawb drwy Cynefin.

Yr hyn rydym wedi’i wneud hyd yma.

Mae ein taith wedi cynnwys:

  • DARPL a Myfyrio: Rydym wedi ymgymryd â datblygiad proffesiynol dwys a pharhaus sy’n canolbwyntio ar ragfarn ddiarwybod, braint ac anghydraddoldeb systemig. Mae’r sesiynau hyn wedi sbarduno sgyrsiau gonest a myfyrdod personol ymhlith staff.
  • Adolygu’r Cwricwlwm: Rydym wedi dechrau archwilio ein cwricwlwm i sicrhau ei fod yn adlewyrchu lleisiau, hanesion a safbwyntiau amrywiol – yn hytrach na chyflwyno ‘stori sengl.’
  • Polisi ac Ymarfer: Rydym wedi dechrau adolygu ein polisïau, gan edrych trwy lens gwrth-hiliol.
  • Dysgu proffesiynol sy’n grymuso staff i ddeall a chymhwyso egwyddorion gwrth-hiliol yn eu hymarfer.
  • Cydweithredu â’r clwstwr i’n galluogi i ddysgu oddi wrth gymuned ehangach o ysgolion sydd ar deithiau tebyg a chyfrannu ati.
  • Diweddaru ein hofferyn tracio dysgwyr sy’n agored i niwed: Rydym wedi cynnwys iaith, ethnigrwydd a chrefydd y disgybl yn ein hofferyn tracio dysgwyr sy’n agored i niwed i amlygu a monitro trwy gydol y flwyddyn.
  • Cysylltiadau â’r gymuned ehangach: Rydym wedi gwahodd sawl person o’r gymuned ehangach i rannu eu profiadau bywyd, er enghraifft, y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd.

Gwyddom nad yw ein taith wrth-hiliol drosodd ond ei bod yn parhau; mae’n golygu gwreiddio gwrth-hiliaeth ym mhopeth a wnawn – ein cwricwlwm, ein polisïau, ein diwylliant, a’n rhyngweithiadau bob dydd â disgyblion, staff a’r gymuned ehangach. Rydym wedi ymrwymo i gynnal y momentwm hwn. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â dysgu proffesiynol fel ysgol ac fel clwstwr, gan wrando ar ein disgyblion a’n cymuned ehangach, ac ymateb yn rhagweithiol i ddigwyddiadau cenedlaethol a byd-eang.

Fel pobl sy’n ysgwyddo dyletswydd, ein cyfrifoldeb yw parchu, amddiffyn a chyflawni hawliau pob plentyn. Gyda’n gilydd, gallwn adeiladu ysgol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu gwerthfawrogi a’u grymuso – nid yn unig trwy ddweud, ond trwy wneud.

I gael gwybod mwy am ymuno â DAN (& dolen): Advocacy Network – DARPL

I gael gwybod mwy am fynychu ELS (& dolen): Enhanced Leadership Series – DARPL

Rhannu cynnwys