“Education either functions as an instrument which is used to facilitate integration of the younger generation into the logic of the present system and bring about conformity or it becomes the practice of freedom, the means by which men and women deal critically and creatively with reality and discover how to participate in the transformation of their world”.
Paulo Freire, Pedagogy of the Oppressed
“Whether or not any of us become racists is a choice we make. And we are called to choose again and again where we stand on the issue of racism at different moments in our life.”
bell hooks, Teaching Community
Cyflwyno’r Cefndir
Beth yw pwrpas addysg? Drwy gydol fy nhaith addysgol fy hun, rydw i wedi clywed sawl gwaith “os nad wyt ti’n gweithio’n galed yn yr ysgol, y coleg neu’r brifysgol, fydd gennyt ti ddim swydd dda”. Ond ai dyma brif swyddogaeth addysg? Dod o hyd i swydd ar ddiwedd eich astudiaethau? Pan ystyriaf ddiben addysg, heddiw nawr yn fwy nag erioed, rwy’n cofio geiriau Paulo Freire, bell hooks,(1) ac Ivan Illich, mai ffordd o ymarfer rhyddid yw addysg. Mae’n ymwneud â gweld ein hunain ychydig yn fwy clir, gweithredu yn y byd a gyda’r byd, a gweld nad yw’r weithred o gael ein haddysgu bob amser yn cyd-fynd â’r ystafell ddosbarth.
Gadewch inni fyfyrio ar le “addysg fel ffordd o ymarfer rhyddid”,(2) yng ngwaith gwrth-hiliaeth ac ar lefel Addysg Bellach. Drwy gydol y darn hwn, cyfeiriaf at Addysg Bellach yn fwy eang i dynnu sylw at y ffaith nad yw addysgu fel ffordd o ymarfer rhyddid yn rhedeg ar hyd llinellau academaidd yn unig, ond yn hytrach mae’n ymdrech barhaus ym mhob maes addysgol, yn addysg alwedigaethol a phrentisiaethau fel ei gilydd. Rwy’n gwneud hynny gyda gwaith Paulo Freire mewn golwg; mae ef yn annog ei ddarllenwr i ystyried potensial trawsnewidiol darllen y byd er mwyn ei newid, cyn i ni ddod i ddarllen y gair, ac mae’n dangos nad oes rhaid i ni ymroi i astudiaethau ysgolheigaidd i fod yn gyfryngau gweithgar i siapio newid.
I wneud hyn, mae un cwestiwn allweddol yn fy ysgogi wrth i mi ysgrifennu hyn – ‘sut allen ni gymryd rhan mewn addysg gwrth-hiliol gyfannol ar lefel addysg bellach?’. Er y gallai’r cwestiwn hwn fod yn llyfr ynddo’i hun, rwyf wedi dewis cadw’r blog hwn yn fyr, gan gydnabod bod pob un ohonom (gan gynnwys fi) yn troi at ddarllen gyda gwahanol gyfyngiadau amser, rhai ohonynt wedi’u diffinio gan y cloc, ac eraill gan ein (han)abledd. O ganlyniad, bydd y ddwy adran nesaf yn cyffwrdd yn ysgafn â’r cwestiynau hyn, gyda’r dolenni angenrheidiol er mwyn ichi feddwl a myfyrio ymhellach yn eich amser eich hun. I ddechrau, hoffwn amlinellu’n fyr un cysyniad allweddol a fydd yn cael ei ddefnyddio fel angor ar gyfer ymdrin â’r pwnc dan sylw, sef ‘epistemoleg safbwynt’, cyn myfyrio’n ehangach ar y testun gwrth-hiliaeth mewn addysg bellach.
1) Defnyddir llythrennau bach yn fwriadol.
2) Sylwer: mae’r llyfr hwn yn 1 mewn cyfres o dri – ‘Teaching to Transgress: Education as the Practice of Freedom, Teaching Community: A pedagogy of Hope, and Teaching Critical Thinking: Practical Wisdom’.
Epistemoleg Safbwynt
Mae Epistemoleg Safbwynt yn fframwaith i ddeall sut mae sefyllfa groestoriadol unigolyn – h.y. yr amrywiol agweddau sy’n llunio ei hunaniaeth a’r safle y mae’r marcwyr hunaniaeth hyn yn eu cario yn y byd – yn llywio eu cysyniad cyffredinol o’r byd, ei anghydbwysedd grym a’i wahaniaethau. Yn ôl epistemoleg safbwynt, ceir rhai agweddau ar gymdeithas y mae rhai yn eu gweld, tra nad yw eraill yn eu gweld, a hynny’n seiliedig yn gyfan gwbl ar hunaniaeth groestoriadol pob unigolyn. O ganlyniad, mae’r ddealltwriaeth y gall profiadau unigolyn ymylol, neu unigolyn sydd ar y cyrion mewn cymdeithas, ddweud mwy wrthym am anghyfiawnder cymdeithasol, a chysylltiadau pŵer unrhyw gymdeithas benodol y maent yn byw ynddi, na rhywun sy’n byw lai ar y cyrion, yn elfen ganolog o’i fframwaith. Mae’r addysgwr, yr awdur a’r damcaniaethwr, bell hooks, yn myfyrio’n gariadus ar bŵer y safbwynt amlwg hwn yn ei herthygl ‘marginality as a site of resistance’, ac wrth wneud hynny mae’n gwthio ei darllenwyr i ystyried potensial trawsnewidiol y persbectif ymylol yn y gymdeithas gyfoes. Drwy roi lle canolog i wybodaeth drwy brofiad yn yr ystafell ddosbarth a deall y bylchau yn ein systemau gwybodaeth, gellir defnyddio epistemoleg safbwynt i lywio ein taith ddysgu fel addysgwyr, a hefyd daith ddysgu ein myfyrwyr, ac effeithio ar gymdeithas er gwell.
Addysg wrth-hiliol mewn Addysg Bellach
Mae Addysg Bellach yn cynnig croesffordd unigryw i’r rhai sy’n dychwelyd i’r ystafell ddosbarth. Ar y naill law, mae’n adeg pan mae myfyrwyr sydd newydd adael yr ysgol wedi symud at gam nesaf eu taith addysgol, ar ôl dewis set o bynciau y maent yn teimlo eu bod yn adlewyrchu eu diddordebau arbenigol. Ar y llaw arall, mae’n groesffordd i’r rheini sy’n dymuno mynd yn ôl i’r ystafell ddosbarth flynyddoedd lawer ar ôl gadael addysg ffurfiol. Dychwelais i at Addysg Bellach gyda’r gobaith o gael graddau a fyddai’n mynd â mi i’r brifysgol, ar ôl gadael y coleg saith mlynedd ynghynt, ac ymunodd pobl o amrywiol gefndiroedd â mi.
Dyma’n union pam y mae Addysg Bellach yn lle delfrydol i archwilio’r broses o greu dyfodol gwrth-hiliol. Ar wahân i’r galwadau angenrheidiol i ddad-drefedigaethu ein cynlluniau gwersi, newid ein rhestrau darllen, ac ystyried lluosedd gwybodaeth, mae’r cyfuniad o epistemoleg safbwynt ac addysgeg wrth-hiliol yn yr ystafell ddosbarth yn darparu cyfrwng i archwilio’n fwy clir sut mae’r strwythurau hyn yn ein rhoi ni ein hunain a’n cymheiriaid dan anfantais, a sut y gallem fynd ati i wneud newidiadau o’r fath. Mae Freire a hooks ill dau yn ein hatgoffa mai rôl athro yw ysgwyddo hefyd rôl y rhai sy’n dysgu. Mae deall epistemoleg safbwynt yn ein helpu i wastad fod yn ymwybodol yn yr ystafell ddosbarth fod gan ein myfyrwyr gymaint i’w ddysgu inni am wrth-hiliaeth ag sydd gennyn ni i’w ddysgu iddynt hwythau, beth bynnag y bo’r testun.
Felly sut allwn ni gyflwyno addysg wrth-hiliol ar lefel addysg bellach? Drwy ddefnyddio epistemoleg safbwynt a gwrth-hiliaeth yn yr amgylchedd dysgu, rydym yn gofyn i’n myfyrwyr edrych ar atgynhyrchiad cymdeithas drwy lens feirniadol; un sy’n cydnabod profiadau eraill ac sy’n pwysleisio y gallwn i gyd chwarae rhan ganolog i lunio dyfodol ein cymdeithasau er gwell. O ganlyniad, anogir myfyrwyr ac athrawon fel ei gilydd i edrych a gwrando ar yr holl ffyrdd y mae trefn bresennol ein cymdeithas yn rhoi’r rhai sydd ar y cyrion dan anfantais ac ystyried sut mae’r cyfryw ffyrdd o wthio pobl i’r cyrion wedi’u hymgorffori yn strwythurau’r gymdeithas. Mae’n cynnig cyfle unigryw i archwilio a deall sut mae hil, dosbarth, rhywedd, rhywioldeb ac (an)abledd yn llywio ein bywydau bob dydd ac yn rhannu tir cyffredin o fewn y profiadau hyn.
I fyfyrwyr, efallai mai dyma’r tro cyntaf iddynt ystyried safbwyntiau beirniadol o’r fath (gan gynnig y cyfle i ddadansoddi credoau a phrofiadau blaenorol) neu barhad o’u taith ddysgu. I ni fel addysgwyr, drwy arddel epistemoleg safbwynt, efallai y cawn ein gorfodi i ddygymod â’r amrywiol ffyrdd yr atgynhyrchwn anghydraddoldebau o’r fath yn ein hystafell ddosbarth, boed hynny drwy beidio â chymryd nodau ein myfyrwyr hil-ddiffiniedig o ddifrif – gan gyfrannu felly at y bwlch dyfarniadau yn y byd addysg – neu beidio â chaniatáu i’n myfyrwyr ymgysylltu’n feirniadol â’r anghyfiawnderau cymdeithasol sy’n effeithio arnynt yn eu bywydau eu hunain ac â’r sgyrsiau amrywiol yn eu cylch. Yn y ddau achos, pan nad ydym yn gwneud lle i ddeialog o’r fath, rydym mewn perygl o arwain ein myfyrwyr i gredu nad yw addysg ‘ffurfiol’, ni waeth beth fo’r ddisgyblaeth, yn ofod sy’n croesawu’r posibilrwydd o newid cymdeithasol.
Mae gwaith gwrth-hiliaeth a defnyddio epistemoleg safbwynt wedyn yn gweithredu fel un o’r egwyddorion arweiniol ar gyfer y pynciau a’r sgyrsiau rydym yn eu croesawu i’n hamgylcheddau dysgu. Mae cymryd rhan mewn gwaith gwrth-hiliol yn golygu cydnabod a mynd i’r afael â’r gwahanol ffyrdd y caiff hiliaeth ei hatgynhyrchu. Mae hyn yn golygu nad yw ond cael dealltwriaeth o hiliaeth yn aml yn ddigon, ond bod yn rhaid i ni, fel addysgwyr, law yn llaw â’n myfyrwyr, fynd ati i chwilio am y strwythurau a’r naratifau amrywiol sy’n cynnal ac yn atgynhyrchu hiliaeth mewn cymdeithas. Mae gwneud gwaith o’r fath ochr yn ochr â defnyddio addysgeg safbwynt yn gyfle i beidio â chael eich cyfyngu mwyach gan y pynciau, y crefftau neu’r disgyblaethau yr ydym yn eu haddysgu. Yn hytrach, gallwn droi at y byd o’n cwmpas, a’n gwybodaeth drwy brofiad ochr yn ochr â gwybodaeth ein myfyrwyr, i ddadansoddi’r ffyrdd niferus y mae ymyleiddio yn amlygu ei hun, a chyfeirio ein hunain i fynd ati i herio’r strwythurau hyn o fewn microcosm ein hystafell ddosbarth. Yn y pen draw, rydym yn troi atom ein hunain, ac at ein myfyrwyr fel man cychwyn er mwyn deall y byd o’n cwmpas yn well.
Myfyrdod clo
I ddychwelyd at honiad Freire bod angen i ni ddarllen y byd cyn i ni ddarllen y gair, mae defnyddio addysg wrth-hiliol a hefyd epistemoleg safbwynt yn mynd y tu hwnt i’r ffiniau rhwng addysg drydyddol, hyfforddiant galwedigaethol ac astudiaethau prentisiaeth. Mae’r byd yn newid. Fel addysgwyr ym maes Addysg Bellach, mae’n bwysig ystyried pa fathau o wybodaeth y mae ein myfyrwyr yn mynd gyda nhw wrth adael ein dosbarthiadau ac allan i’r byd. Yn aml, mae’r gwersi bywyd hyn yn symud ar draws ffiniau disgyblaethau ac yn cyfeirio ein myfyrwyr tuag at deimlo’n gyfforddus ac yn barod i lywio drwy fyd sy’n fythol newid. Drwy ganfod tir cyffredin ymhlith ein gilydd, drwy ddeall ein gwahaniaethau oll, a’r holl strwythurau pŵer sy’n rhoi llawer ohonom dan anfantais ar ryw lefel neu’i gilydd, gallwn greu gofodau dysgu sy’n arfogi ein myfyrwyr i siapio’r byd y maent yn ei chwennych mewn gweithredoedd bob dydd, ac nid dim ond drwy’r math o waith y byddwn ni/nhw yn ei wneud.