Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Dangosiadau UC Hydref 2025 – Wales Untold & HumaniTree gyda Sesiwn Holi ac Ateb Fyw – Wales Untold

16th Hydref 2025 @ 13:00 - 15:00

Ym mis Hydref, mae Urban Circle (UC) yn eich gwahodd i ymuno â ni ar gyfer cyfres arbennig o ddangosiadau sy’n cynnwys dwy ffilm bwerus a grëwyd gan Urban Circle a BlackNine Films. Mae Wales Untold yn datgelu straeon cudd sy’n herio ein dealltwriaeth o hanes a hunaniaeth Cymru. Mae HUMANiTREE yn archwilio gwreiddiau cyffredin dynoliaeth ac yn sbarduno sgyrsiau hanfodol ynghylch hil, pŵer cymuned a Cynefin. Yn dilyn y dangosiadau o Wales Untold a HumaniTree cynhelir sesiwn holi ac ateb fer gyda dau o’r crewyr/gweithwyr addysgol proffesiynol ifanc o bob cynhyrchiad.

Mae’r digwyddiadau hyn wedi’u bwriadu ar gyfer gweithwyr rheng flaen gan gynnwys gweithwyr ieuenctid, athrawon, darlithwyr, llunwyr polisi, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, darparwyr dysgu amgen, ymgyrchwyr ac arweinwyr cymunedol, ac fe’ch gwahoddir i fod yn rhan o’r trafodaethau agoriadol hyn, cysylltu â chymheiriaid ar draws sectorau, a chael mewnwelediadau a dealltwriaeth newydd i fynd gyda chi i’ch gwaith a’ch cymunedau.

Cynhelir yr holl ddangosiadau yn yr  Urban Circle Share Centre ar Stow Hill, Casnewydd NP20 4DW.

Hyn a hyn o lefydd sydd ar gael, felly er mwyn osgoi unrhyw siom, cadwch eich lle trwy glicio ar y ddolen isod:

https://ucnewport.co.uk/en/events

Details

  • Date: 16th Hydref 2025
  • Time:
    13:00 - 15:00