- This event has passed.
Gweminar DARPL (Dysgu Proffesiynol Amrywiol a Gwrth-hiliol): Adeiladu Ymdeimlad o Berthyn i Ddysgwyr SRT
Dan gadeiryddiaeth Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth
Sut gall ysgolion yng Nghymru greu amgylcheddau lle mae plant a phobl ifanc o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr (SRT) yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu gwerthfawrogi a’u cefnogi? Ymunwch â ni mewn gweminar DARPL pwerus ac ymarferol sy’n dod â phanel arbenigol ynghyd i archwilio’r profiadau byw, y rhwystrau a’r cyfleoedd sy’n siapio cynhwysiant i ddysgwyr SRT a’u teuluoedd.
Bydd y sesiwn dreiddgar hon yn:
- Tynnu sylw at leisiau, cryfderau a threftadaeth ddiwylliannol cymunedau SRT
- Archwilio’r heriau systemig a’r realiti bob dydd sy’n wynebu dysgwyr SRT mewn addysg
- Rhannu strategaethau ymarferol a storïau am lwyddiant mewn ysgolion ledled Cymru
- Cynnig arweiniad ar adeiladu perthnasoedd sy’n dangos parch at deuluoedd ac yn cryfhau’r ymdeimlad o berthyn.
Wedi’i chadeirio gan Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, bydd y sgwrs hon yn grymuso addysgwyr, arweinwyr ac ymarferwyr i roi camau ystyrlon a gwybodus ar waith i sicrhau bod croeso i bob dysgwr – a phob llais yn cael ei glywed.
Dyddiad: 15/4/26
Amser: 15:45-16:30
Fformat: Gweminar ar-lein – bydd camerâu a meicroffonau yn cael eu hanalluogi ond cewch gyfle i gyflwyno cwestiynau. Os oes gennych unrhyw gwestiynau yr hoffech eu hanfon ymlaen llaw, rhannwch nhw gyda thîm DARPL
Digwyddiad am ddim – ar agor i holl weithwyr addysg proffesiynol Cymru
Dewch i ni weithio gyda’n gilydd i greu ysgolion lle gall plant a phobl ifanc SRT ffynnu gydag urddas, balchder ac ymdeimlad o berthyn.
Cofrestrwch yma: https://events.teams.microsoft.com/event/63a594d9-7585-4fb8-a53a-c0f02bf7e484@b60bd4ea-879a-418a-ba37-46f3d6057fbd .
Nodyn: Gwiriwch eich ffolder sothach/sbam am yr e-bost cadarnhau, gan y gall systemau diogelwch e-bost yr ysgol neu’r sefydliad ailgyfeirio ein negeseuon yno o bryd i’w gilydd. Os byddwch chi’n profi unrhyw broblemau, cysylltwch â ni yn darpl@cardiffmet.ac.uk