Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Gwrth-hiliaeth ac addysg yng Nghymru: Dull Gweithredu Cenedlaethol. Beth sy’n digwydd nawr? Beth fydd yn digwydd nesaf?

1st Mai 2025 @ 09:00 - 17:00

bydd Cyfres Seminarau Llywyddol y Pedair Gwlad BERA yn cael ei chynnal yng Nghymru ar 1 Mai 2025. Gan gymryd gwrth-hiliaeth yn gyd-destun, bydd y diwrnod hwn yn dod â llunwyr polisi, ymchwilwyr academaidd ac arweinwyr ymarfer at ei gilydd i edrych ar bersbectifau damcaniaethol, ystyried datblygiadau mewn polisi a chynllunio ar gyfer cymryd y camau nesaf yng Nghymru a thu hwnt. Cynhelir y sesiwn yn adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd / Ardal Dociau Caerdydd, amgylchedd a fydd yn ennyn teimladau cryf wrth edrych ar bolisi, ymarfer ac ymchwil yng Nghymru gan roi lle canolog i hanes sefydlu mudiad gwrth-hiliol i Gymru gyfan o’r enw Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth (DARPL) ac i’w waith dylanwadol.

Mae’r byd yn edrych tuag at Gymru gan ddisgwyl llawer ganddi wrth iddi ymdrechu i ddod yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030 drwy roi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ar waith. Elfen ganolog yng ngwaith DARPL yw cwrdd â’r disgwyliadau a’r gofynion o ran llythrennedd hiliol, cyflawnder y Cynefin a dinasyddion byd-eang egwyddorol yn y Cwricwlwm i Gymru.

Drwy anerchiadau’r prif siaradwyr, trafodaethau panel a sgyrsiau byr o feysydd addysg, gofal plant a gwaith chwarae, ein nod yn y seminar fydd ystyried traddodiadau o ran ymwybyddiaeth hil yng Nghymru a oedd wedi arwain, yn 2021, at sefyllfa lle mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i wneud hanes pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol (yng Nghymru a’r byd) yn elfen orfodol yn y Cwricwlwm i Gymru.

Mae gwaith DARPL yn cwmpasu addysg, gofal plant a gwaith chwarae ac mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae DARPL yn gweithredu ar sail genedlaethol i arwain a hwyluso rhaeadru dysgu proffesiynol effeithiol ac yn cyflawni hyn ym mhob haen o’r system addysg. Mae DARPL yn gweithio drwy Gymuned Ymarfer egnïol ac amrywiol o’i brif swyddfa ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, cymuned sy’n cyfuno profiad bywyd a phrofiad proffesiynol. Drwy gydweithio â sefydliadau ar lawr gwlad a thrwy ddulliau arloesol anarferol yn y gymuned, mae’r mudiad Cymreig hwn yn datgymalu ac yn ailffurfio’r dirwedd bolisi ranbarthol a chenedlaethol drwy ddylanwad, ymarfer ac ymchwil academaidd. Gan elwa o’r gwersi a ddysgwyd, mae DARPL yn dechrau gweithio yn y sector cyhoeddus ehangach.

Cofrestrwch yma:

Gwrth-hiliaeth ac addysg yng Nghymru: Dull Gweithredu Cenedlaethol. Beth sy’n digwydd nawr? Beth fydd yn digwydd nesaf? | BERA

Details

  • Date: 1st Mai 2025
  • Time:
    09:00 - 17:00