Mwy na Blaenoriaeth Allweddol

Mewn ysgolion rydym yn aml yn trafod y gwaith datblygu ysgol gyfan rydym yn ei wneud ac yn defnyddio termau fel ‘blaenoriaethau allweddol’ neu ‘gamau gweithredu pwysig’. Pan wnaethom ystyried beth oedd ei angen ar ein hysgol er mwyn datblygu a gwella, fe wnaethom edrych ar ein tystiolaeth, meddwl am ein gweledigaeth ar gyfer y disgyblion yn Llwynbedw, a daeth y sgyrsiau’n ôl dro ar ôl tro i ffocws ar wrth-hiliaeth.

Dim ond y cam cyntaf yn nhaith ein hysgol i ddod yn wrth-hiliol oedd sicrhau blaenoriaeth allweddol gyda’r nod o ddatblygu prosesau, arferion a diwylliant yn yr ysgol er mwyn ymgorffori sefydliad dysgu gwrth-hiliol. Roedd pawb yn yr ysgol yn cefnogi’r penderfyniad i ymrwymo i’r datblygiad hwn, ond fy nheimlad pennaf am gyflawni llwyddiant yn y maes hwn oedd ein bod ni fel gweithwyr proffesiynol ar bwyntiau gwahanol ar y llwybr i wrth-hiliaeth, ac y gallai hyn achosi heriau. Sylweddolais yn ddiweddarach fod hyn yn wir yn y rhan fwyaf o ysgolion, ac nid oedd yn rheswm i oedi cyn gweithredu.

Mewn sawl ffordd, roedd y pryderon a oedd gen i yn gynnar yn y flwyddyn yn gysylltiedig â’r syniad bod llwyddiant dim ond yn ddiriaethol os yw’n cael ei fesur a’i brofi. Dechreuais sylweddoli wrth i’r flwyddyn fynd yn ei blaen na fyddai symud ymlaen a gwneud cynnydd yn y flaenoriaeth allweddol hon yn cael ei fesur mewn rhifau a data. Yn hytrach, proses o symud a newid ymddygiadau’n araf deg dros gyfnod o amser fyddai hon. Sylweddolais hefyd nad ‘gorchwyl a gorffen’ fyddai hwn. Nid yw presenoldeb gwrth-hiliaeth yng nghynllun datblygu’r ysgol eleni yn docyn unffordd i gyflawni. Bydd angen iddo aros yn rhan o’n gwaith am nifer o flynyddoedd. 

Dysgu Proffesiynol

Wrth ymuno â Rhwydwaith Eiriolaeth DARPL (DAN), ffurfiodd ymdeimlad o eglurder a chyfeiriad i ni fel ysgol. Roedd y dysgu proffesiynol a gynigiwyd yn rhan hanfodol o ymgysylltu ag eraill a rhoi’r lle i athrawon a llywodraethwyr feddwl am sut roedd datblygu fel sefydliad gwrth-hiliol nid yn unig yn beth iawn i’w wneud, ond hefyd yn cefnogi’r gwaith o wireddu’r pedwar diben yn y Cwricwlwm i Gymru. I enwi ychydig o brofiadau amhrisiadwy, rydym wedi archwilio rhai o fodiwlau e-ddysgu DARPL, wedi defnyddio cyfleoedd i weithio gyda phobl ysbrydoledig a chreadigol fel Connor Allen, ac wedi trafod a dadansoddi canllawiau ‘Eradicate’ DARPL. Mae hyn wedi arwain at fwy o hyder ymhlith athrawon a staff cymorth wrth ddelio â digwyddiadau hiliol, ac eglurder ynghylch systemau adrodd a chyfathrebu hanfodol. Yn bwysig i ni, rydym bellach yn deall ac yn gweithredu proses addysg ‘camau dilynol’ ar gyfer cyflawnwyr hiliaeth, a dull mwy cefnogol gyda thargedau ar ôl y digwyddiad. Fe wnaeth croesawu’r tîm ‘Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth’ yn ôl ym mis Mai i gyflwyno sesiwn ar ymateb i ddigwyddiadau hiliol i’r holl athrawon atgyfnerthu’r prosesau yr oeddem eisoes wedi cytuno arnynt. 

Cydweithredu

Mae’r cyfarfodydd DAN wedi bod yn gyfleoedd defnyddiol a chefnogol i stopio, oedi a myfyrio ar yr hyn rydym yn ceisio ei gyflawni. Mae’r adnoddau a rennir trwy’r rhwydwaith wedi bod yn amhrisiadwy i ni fel ysgol. Mae athrawon wedi defnyddio’r adnodd ‘Gwrth-hiliaeth yn y Cwricwlwm’ (Prifysgol Metropolitan Caerdydd) i gynllunio ffocws ysgol gyfan ar wrth-hiliaeth, ac mae athrawon wedi dweud eu bod yn falch o weld bod mwy o adnoddau ar gael nawr nag mewn blynyddoedd blaenorol. Cydweithrediad hanfodol arall eleni oedd gyda swyddog o’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am amrywiaeth a chynhwysiant. Tyfodd y gynghrair hon o drafodaeth mewn digwyddiad dysgu proffesiynol ar arweinyddiaeth gwrth-hiliaeth ac mae wedi arwain at archwiliad cydweithredol o amgylchedd dysgu ein hysgol, gan gynnwys lleisiau ein disgyblion. O ganlyniad i’r gwaith hwn, rydym bellach yn derbyn llyfrau newydd ar gyfer pob ystafell ddosbarth a theganau ar gyfer y blynyddoedd cynnar sy’n fwy cynrychioliadol o’r gymuned fyd-eang. Mewn trafodaeth gyda’n disgyblion, rydym wedi cynllunio a phrofi cwricwlwm llawer cyfoethocach a chymdeithasol-ymwybodol – o’n disgyblion Blwyddyn 1 yn hyrwyddo gwaith Jessica Dunrod, i Flwyddyn 6 yn cyfweld â Connor Allen, a hyd yn oed Blwyddyn 3 yn ymgymryd â’r dasg ddewr o gynllunio a chynnal ‘protest heddychlon’ i hyrwyddo gwrth-hiliaeth!

Mae ein taith yn mynd rhagddo o hyd. Byddwn yn edrych ymlaen at y flwyddyn academaidd nesaf gyda disgwyliad, dyhead a chynllun gweithredu gwrth-hiliaeth newydd!

I gael gwybod mwy am ymuno â DAN (& dolen): Advocacy Network – DARPL

I gael gwybod mwy am fynychu ELS (& dolen): Enhanced Leadership Series – DARPL

Rhannu cynnwys