Fy Siwrnai tuag at ddod yn Addysgwr Gwrth-hiliol yng Nghymru

Gwelwyd lefelau cynyddol o droseddau casineb yn erbyn pobl o ddwyrain Asia yn sgil y pandemig.8 Gwnaeth y pandemig effeithio ar fy ymdeimlad o berthyn wrth i’r cyfryngau fardduo a stigmateiddio fy ethnigrwydd.

Cefais fy nghyflyru i gydymffurfio â disgwyliadau cymdeithas ac roeddwn i’n disgwyl cael fy ngwobrwyo ag ymdeimlad o berthyn. Sylweddolais na fyddai hynny’n digwydd. Yn fy addysg a’m gyrfa, rwyf wedi bod mewn amgylcheddau nad ydynt yn rhai hiliol. Mannau ‘lliwddall’ o ran hil oedd y rhain lle na chafodd fy ethnigrwydd ei gydnabod a lle na chafodd ethnigrwydd na diwylliant disgyblion eu trafod na’u dathlu.2 Fodd bynnag, nid yw peidio â bod yn hiliol yn stopio hiliaeth ac fe wnes i sylweddoli nad yw’n gwella cydberthnasau rhwng grwpiau ethnig gwahanol; mae’n anwybyddu hiliaeth.  Mae bod yn wrth-hiliol yn gofyn i chi adnabod anghydraddoldebau a gweithredu arnynt.5 Er mwyn bod yn rhagweithiol, ymunais â sefydliad llawr gwlad o’r enw Addysgwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol Cymru. Datblygais fy llythrennedd hil ac roeddwn am fod yn gatalydd ar gyfer newid. Ar hyn o bryd, rwy’n gwneud Doethuriaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru i ymchwilio i ymarfer gwrth-hiliol ym maes addysg. Nawr, mae fy siwrnai tuag at ddod yn wrth-hiliol wedi’i chydblethu ag uchelgais dim hiliaeth Cymru.11

Yr uchelgais dim hiliaeth yw y bydd Cymru yn wrth-hiliol erbyn 2030.11 At hynny, derbyniodd Llywodraeth Cymru 51 o argymhellion a wnaethpwyd gan yr Athro Charlotte Williams i randdeiliaid y Cwricwlwm Newydd er mwyn helpu i wella tegwch a Chynefin mewn Cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.12 Roedd Cynefin yn air newydd i fi a gafodd ei egluro mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan Gyngor y Gweithlu Addysg.4 Eglura Dr Huw Griffiths fod Cynefin yn gysyniad sy’n helpu disgyblion i ystyried eu hymdeimlad o berthyn. Mae’n annog plant i fod yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus yng Nghymru a’r Byd ac mae’n un o’r pedwar diben sy’n sail i’r Cwricwlwm i Gymru. Fel rhan o’r ateb, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i wneud addysgu hanes Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn orfodol.13

Gyda chymorth o’r fath gyda pholisïau a chanllawiau, does bosib y bydd y llwybr tuag at ddod yn wrth-hiliol yn un syml? Mae gwrth-hiliaeth ar frig fy agenda i, ond efallai na fydd yn un o flaenoriaethau pennaf ysgolion. Mae ysgolion yn fannau cymhleth ac mae angen i ni ddeall sut i wneud ymarfer gwrth-hiliol yn gynaliadwy. Mae angen i ni ystyried yr ‘arweinwyr, ysgogwyr, dysgwyr’ (t.58) fel y nodir yn adroddiad yr Athro Charlotte Williams.12 Atebolrwydd yw’r ysgogydd. Mae ysgolion yn atebol i ESTYN a phan fydd ysgolion yn cydnabod bod ymarfer gwrth-hiliol yn rhan o agenda ESTYN, gall hyn arwain at newid cynaliadwy. Tan hynny, mae’r agenda hon yn cystadlu am amser ac adnoddau prin ysgolion.

Wrth i mi ddechrau fy ngwaith ymchwil a darllen am brofiadau plant ethnig lleiafrifol1, 10 ac addysgwyr ethnig lleiafrifol3,6,7,9,  rwy’n sylweddoli bod llwybr hir a chymhleth o’n blaenau. Yn ogystal ag addysgu hanes Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, mae’n ymwneud ag edrych ar bwy sydd o’ch cwmpas ac ystyried eich agweddau chi eich hun. Rwy’n optimist ac yn credu y gallwn ni gyd fod yn sianeli ar gyfer newid. Mae ein rhesymau dros ddechrau ein siwrneiau gwrth-hiliol yn rhai personol. Fy nghyngor i chi yw peidiwch â chael eich parlysu ag ofn – byddwch yn ddewr, gofynnwch am gyngor ac ewch amdani.

Diolch am ganiatáu i mi fod yn rhan o’ch siwrnai drwy ddarllen y blog hwn.

References
  1. Abramson, J. and Cifuentes, R. (2021) how us you care: exploring the cumulative impact of racism upon racialised young people in the Welsh Education System. Cynghrair Hil Cymru. Ar gael yn:
    https://racealliance.wales/wp-content/uploads/2021/04/Show-Us-You-Care-Full-Report-1.pdf 
    (Cyrchwyd: 22 Chwef 2022).
  2. Apfelbaum, E.P., Norton, M.I. and Sommers, S.R. (2012)
    ‘Racial Color Blindness: Emergence, Practice, and Implications’, Current directions in psychological science: a journal of the American Psychological Society, 21(3), pp. 205-209. doi: 10.1177/0963721411434980.
  3. Davis, S., Haughton, C., Chapman, S., Okeke, R., Smith, M., Yafele, A. and Yu, K. (2021) Recriwtio a Chadw Athrawon Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru – Astudiaeth Ymchwil Ansoddol. llyw.cymru Ar gael yn:
    https://hwb.gov.wales/api/storage/8f9b8bcf-3552-4047-9a14-f1fe23f0f026/adroddiad-ar-brofiadau-byw-athrawon-ac-arweinwyr-ysgolion-canol-ac-uwch-o-gefndiroedd-lleiafrifoedd-ethnig.pdf 
    (Cyrchwyd: 22 Chwef 2022).
  4. Cyngor y Gweithlu Addysg (2022) Teaching Cynefin and the diverse history of Wales: How to include Black, Asian and Minority Ethnic themes in the new curriculum. Ar gael yn:
    https://www.ewc.wales/site/index.php/en/professionally-speaking-2022-with-professor-yong-zhao-students-as-owners-of-learning-and-partners-of-educational-change/44-english/about/staff-room/features/1886-teaching-cynefin-and-the-diverse-history-of-wales-how-to-include-black-asian-and-minority-ethnic-themes-in-the-new-curriculum.html
    (Cyrchwyd:  23 Mawrth 2022).
  5. Cyngor y Gweithlu Addysg (2021) anllaw ymarfer da: Mynd i’r afael â hiliaeth. Ar gael yn:
    https://ewc.wales/site/index.php/cy/priodoldeb-i-ymarfer/canllawiau-ymarfer-da/canllaw-arfer-da-mynd-i-r-afael-a-hiliaeth.html
    (Cyrchwyd: 22 Chwef 2022).
  6. Cyngor y Gweithlu Addysg (2021) Cynrychiolaeth pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol yn y gweithlu ysgolion yng Nghymru Adroddiad Cam 3 ac argymhellion terfynol i Lywodraeth Cymru. Cyngor y Gweithlu Addysg. Ar gael yn: 
    https://www.ewc.wales/site/index.php/cy/ymchwil-ac-ystadegau/ymchwil-a-chyngor-polisi-cga/ymchwil-cga/cynyddu-amrywiaeth-o-fewn-y-gweithlu-ysgolion-yng-nghymru.html
  7. Gibson, D.E. (2004)
    ‘Role models in career development: New directions for theory and research’, Journal of Vocational Behavior, 65(1), pp. 134-156. doi: 10.1016/S0001-8791(03)00051-4.
  8. Protection Approaches (2020) COVID-related hate. Ar gael yn:
    https://protectionapproaches.org/covid-related-hate
    (Cyrchwyd: 21 Mawrth 2022).
  9. Ymddiriedolaeth Runnymede, NASUWT ac Act For Racial Justice (2017) Visible Minorities, Invisible Teachers. Ymddiriedolaeth Runnymede. Ar gael yn:
    https://www.runnymedetrust.org/publications/visible-minorities-invisible-teachers
  10. Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth (2020) Racism in Wales: Exploring prejudice in the Welsh Education System. Ar gael yn:
    https://static1.squarespace.com/static/574451fe37013bd0515647ac/t/5ed659aa1288d943ddd2a784/1591106007132/Racism+in+Wales+-+Exploring+racism+the+Education+system+May+2020++%28F%29.pdf
  11. Llywodraeth Cymru (2021a) Cymru Wrth-hiliol: Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol i Gymru. Llywodraeth Cymru. Ar gael yn:
    https://llyw.cymru/sites/default/files/consultations/2021-03/cynllun-gweithredu-cydraddoldeb-hiliol-cymru-wrth-hiliol.pdf
  12. Llywodraeth Cymru (2021b) Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y Cwricwlwm Newydd: Adroddiad Terfynol. Caerdydd: Caerdydd. Ar gael yn:
    https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2021-03/gweithgor-cymunedau-cyfraniadau-chynefin-pobl-dduon-asiaidd-lleiafrifoedd-ethnig-cwricwlwm-newydd-adroddiad-terfynol.pdf
    (Cyrchwyd: 13 Mawrth 2022).
  13. Llywodraeth Cymru (2021c) Dysgu hanes pobl Dduon, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol wedi’i gynnwys yng Nghwricwlwm newydd Cymru. Ar gael yn: 
    https://llyw.cymru/dysgu-hanes-pobl-dduon-asiaidd-ac-ethnig-lleiafrifol-wedii-gynnwys-yng-nghwricwlwm-newydd-cymru
    (Cyrchwyd: 22 Chwef 2022).
Rhannu cynnwys