Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cymryd cyfrifoldeb dros ddiogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwefannau a’n gwasanaethau. Mae’r datganiad hwn yn disgrifio pam ein bod yn casglu gwybodaeth gennych a sut y bydd y wybodaeth hon yn cael ei phrosesu.
Noder: Nid yw gwefannau nad ydynt yn rhai Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cael eu cwmpasu gan y datganiad hwn. Fodd bynnag, pan fydd yn berthnasol, rydym wedi darparu dolenni at wybodaeth bellach.
Prifysgol Metropolitan Caerdydd yw’r Rheolwr Data ac mae’n ymrwymedig i ddiogelu hawliau unigolion yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).
- Casglu Gwybodaeth
Cesglir gwybodaeth ddienw yn awtomatig drwy ddefnyddio Cwcis, a chesglir data personol o ffurflenni ar y we yr ydych chi eich hun wedi’u cwblhau. - Y Defnydd o Gwcis
Mae Cwcis yn ffeiliau, sy’n cael eu hanfon gennym i’ch cyfrifiadur neu ddyfais mynediad arall, y gellir eu mynychu wedi hynny pan fyddwch yn ymweld â’n gwefannau yn y dyfodol, sy’n ein galluogi i gofnodi eich gweithgarwch pori.
Mae’r gyfraith yn datgan y gallwn storio cwcis ar eich dyfais sy’n gwbl angenrheidiol ar gyfer gweithrediad y safle hwn.
Ar gyfer yr holl fathau eraill o gwcis mae angen eich caniatâd chi.
Mae’r safle hwn yn defnyddio gwahanol fathau o gwcis. Gosodir rhai cwcis gan wasanaethau trydydd parti sy’n ymddangos ar ein tudalennau.
Gallwch newid neu dynnu eich cydsyniad yn ôl unrhyw bryd o’r Datganiad Cwcis ar ein gwefan.
Defnyddir y Cwcis hyn gan:
a) Google Analytics
Mae Google Analytics yn offer ystadegol sy’n dadansoddi’r defnydd o wefannau drwy gasglu cofnod o’r rhyngrwyd a gwybodaeth ymddygiadol ar ffurf ddienw. Yna defnyddir y wybodaeth hon i adrodd ar weithgarwch a darparu syniad o’r defnydd o wefannau, sy’n ein galluogi i ddarparu gwasanaeth gwell ar y safle a hysbysu ein hysbysebion oddi ar y safle. (Gweler hefyd 4. Hysbysebu – Google Ads).
Dilynwch y ddolen hon i gael gwybodaeth bellach am Google Analytics a’ch preifatrwydd.
b) Dilysu
Yn ogystal, defnyddir Cwcis i gynorthwyo mynediad at wasanaethau a systemau drwy eich galluogi i symud o amgylch ein gwefannau heb orfod ail-ddilysu. Mae Cwcis o’r fath yn cael eu dileu’n awtomatig o’ch cyfrifiadur pan fyddwch yn cau eich ffenestri pori.
- Gwybodaeth bersonol
Bydd data personol (er enghraifft eich enw, eich cyfeiriad, rhif ffôn a’ch cyfeiriad e-bost) y byddwch yn eu darparu i ni drwy ddefnyddio ffurflenni ar y we yn cael eu storio’n ddiogel; dim ond personél awdurdodedig Prifysgol Metropolitan Caerdydd fydd yn gallu cael mynediad at y wybodaeth a byddwn ond yn ei defnyddio at ei diben bwriadedig. Mae’r Brifysgol yn gallu prosesu’r data hwn yn gyfreithlon am eich bod chi wedi rhoi eich cydsyniad (o dan Erthygl 6 GDPR).
Trydydd Partïon a Data Personol
Mae’r Brifysgol yn gweithio gyda’r trydydd partïon canlynol yn nhermau data personol:
a) Campus Management
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn defnyddio data personol sy’n cael ei gasglu a’i sgorio gan Campus Management Corp UK ar ran y Brifysgol drwy ddefnyddio URL penodol sy’n gysylltiedig â ffurflenni ar gyfer ceisiadau am brosbectws, dyddiau agored a chofrestriadau dydd ymgeiswyr.
I gael gwybodaeth bellach am sut mae Campus Management yn storio eich data, darllenwch y ‘Polisi Preifatrwydd Derbyniadau’ yn: https://www.campusmanagement.com/about-us/privacy/.
b) Qualtrics
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn defnyddio data personol sy’n cael ei gasglu a’i storio gan Qualtrics ar ran y Brifysgol drwy ddefnyddio URL penodol sy’n gysylltiedig â ffurflenni ar gyfer ymholiadau, archebion ar gyfer digwyddiadau a cheisiadau.
I gael gwybodaeth bellach am sut mae Qualtrics yn storio eich data, ewch i: https://www.qualtrics.com/privacy-statement/ a thalu sylw i adran 3: ‘Data Collected by Customers’.
c) Uni Quest
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn defnyddio data personol sy’n cael ei gasglu a’i storio gan Uni Quest ar ran y Swyddfa Ryngwladol yn y Brifysgol drwy ddefnyddio URL penodol sy’n gysylltiedig â ffurflenni ar gyfer ymholiadau a cheisiadau Myfyrwyr Rhyngwladol.
I gael gwybodaeth bellach am sut mae eich data yn cael ei gasglu ‘i rannu rhwng y Brifysgol ac Uni Quest, ewch i: http://www.uni-quest.co.uk/privacy-policy/
ch) Live Chat Inc.
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn defnyddio data personol sy’n cael ei gasglu a’i storio gan Live Chat Inc. ar ran y Brifysgol drwy ddefnyddio meddalwedd benodol ar gyfer Sgyrsiau Byw Ar-lein i gefnogi ceisiadau ac ymholiadau drwy wefan y Brifysgol.
I gael gwybodaeth bellach am sut mae Live Chat Inc. yn storio eich data, ewch i: https://www.livechatinc.com/privacy-policy/.
d) UniBuddy Ltd.
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn defnyddio data personol sy’n cael ei gasglu a’i storio gan UniBuddy ar ran y Brifysgol drwy ddefnyddio ffurflenni cofrestru i hwyluso sgyrsiau a chyfathrebu cyfoedion rhwng darpar fyfyrwyr a llysgenhadon myfyrwyr presennol a staff y brifysgol.
I gael gwybodaeth bellach am sut mae Unibuddy Ltd, yn storio eich data, ewch i: https://unibuddy.com/terms-of-use/
dd) DotDigital
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn defnyddio data personol sy’n cael ei gasglu a’i storio gan DotDigital ar ran y Brifysgol drwy ddefnyddio ffurflenni ar-lein penodol ar gyfer ymholiadau am gyrsiau, ceisiadau am brosbectws, dyddiau agored a chofrestriadau digwyddiadau.
I gael gwybodaeth bellach am sut mae DotDigital yn storio eich data personol, ewch i: https://dotdigital.com/terms/privacy-policy/
e) EventBrite
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn defnyddio data personol sy’n cael ei gasglu a’i storio gan EventBrite ar ran y Brifysgol drwy ddefnyddio ffurflenni ar-lein penodol ar gyfer cofrestriadau digwyddiadau.
I gael gwybodaeth bellach am sut mae EventBrite yn storio eich data, ewch i: https://www.eventbrite.co.uk/support/articles/en_US/Troubleshooting/eventbrite-privacy-policy?lg=en_GB
f) SimplyBook
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn defnyddio data personol sy’n cael ei gasglu a’i storio gan Simply Book ar ran y Brifysgol drwy ddefnyddio ffurflenni ar-lein penodol ar gyfer cofrestriadau digwyddiadau.
I gael gwybodaeth bellach am sut mae Simply Book yn storio eich data, ewch i: https://simplybook.me/en/policy
ff) Gecko Engage
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn defnyddio data personol sy’n cael ei gasglu a’i storio gan Gecko Engage ar ran y Brifysgol drwy ddefnyddio ffurflenni penodol ar-lein ar gyfer ymholiadau, ceisiadau am brosbectws, dyddiau agored a chofrestriadau digwyddiadau. Mae gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd Gytundeb Diogelu Data hefyd gyda Gecko Engage. Ar gyfer unrhyw wybodaeth bellach sydd ei hangen, cysylltwch â dataprotection@cardiffmet.ac.uk.
Oni bai bod y gyfraith yn mynnu neu’n caniatáu hynny, ni fyddwn fel arall yn rhannu, gwerthu na dosbarthu unrhyw ran o’r wybodaeth a roddwch i ni heb eich caniatâd.
- Hysbysebu
Mae gwefan y Brifysgol yn casglu ac yn defnyddio data nad yw’n ddata personol o’ch gweithgarwch pori, at ddibenion marchnata/ail-farchnata ar draws y sianelau isod. Drwy dderbyn telerau’r Datganiad Cwcis a Phreifatrwydd hwn, rydych yn darparu cydsyniad i ni gyflwyno hysbysebion o’r fath i chi.
a) Facebook ac Instagram
Mae gwefan y Brifysgol yn defnyddio’r ‘Facebook Pixel’ (bloc bychan o god) i olrhain y tudalennau gwefan y byddwch yn ymweld â nhw a pha gamau y gallech eu cymryd. Mae hyn yn ein galluogi i gyflwyno hysbysebion perthnasol ac wedi’u targedu i chi ar draws y llwyfannau Facebook ac Instagram (“Cynulleidfaoedd Personol o’ch Gwefan”) ac yn anfon gwybodaeth atoch am unrhyw gamau y gallech eu cymryd (“Data Digwyddiadau”) i Facebook i olrhain trosiadau (“Olrhain Trosiadau”).
Dysgwch fwy am Bolisi Preifatrwydd Facebook.
Gallwch hefyd reoli eich dewisiadau Facebook Ad drwy eich cyfrif Facebook personol.
b) Twitter
Mae gwefan y Brifysgol yn defnyddio ‘Tag Gwefan Cyffredinol’ Twitter (bloc bychan o god) i olrhain pa dudalennau o’r wefan y byddwch yn ymweld â nhw, er mwyn i ni allu defnyddio’r nodweddion ‘Cynulleidfaoedd Personol’ ac ‘Olrhain Trosiadau’ Twitter Ad. Yna byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i gyflwyno hysbysebion perthnasol ac wedi’u targedu i chi ar draws y llwyfan Twitter.
Dysgwch fwy am Bolisi Preifatrwydd Twitter.
c) LinkedIn
Mae’r Brifysgol yn defnyddio’r ‘Tag Mewnwelediad’ LinkedIn (bloc bychan o god) i olrhain pa dudalennau o’r wefan y byddwch yn ymweld â nhw, er mwyn i chi allu defnyddio nodweddion ‘Demograffeg Gwefan’ a ‘Cynulleidfaoedd Cyfatebol’ Rheolwr Ymgyrch LinkedIn. Yna byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i gyflwyno hysbysebion perthnasol ac wedi’u targedu i chi ar draws y llwyfan LinkedIn.
Dysgwch fwy am Bolisi Preifatrwydd LinkedIn.
Gallwch hefyd reoli eich dewisiadau LinkedIn Ad drwy eich cyfrif LinkedIn personol.
ch) Google Ads (Chwilio, Arddangos ac YouTube)
Mae’r Brifysgol yn defnyddio llwyfan Google AdWords i gyflwyno hysbysebion perthnasol ac wedi’u targedu i ymwelwyr i wefan y Brifysgol. Defnyddir data (data pori) sy’n cael ei gasglu drwy Google Analytics i greu proffiliau cynulleidfa personol. Defnyddir y proffiliau hyn i ail-farchnata a chyflwyno hysbysebion perthnasol ar draws rhwydweithiau chwilio ac arddangos Google gan gynnwys YouTube. Trosglwyddir unrhyw weithrediadau defnyddiwr o hysbysebion o’r fath (e.e. cliciau neu gofrestriadau digwyddiadau) yn ôl i Google Analytics i ganiatáu i’r Brifysgol olrhain trawsnewidiadau a mesur effaith unrhyw hysbysebu o’r fath.
Dysgwch fwy am Bolisi Preifatrwydd Google.
Gallwch hefyd reoli sut y cyflwynir hysbysebion i chi ar draws rhwydwaith Google.
I gael gwybodaeth am sut y gallwch roi’r gorau i dderbyn hysbysebion o’r fath ar draws y sianelau uchod, ewch i: http://www.aboutads.info/choices a http://www.youronlinechoices.eu/.
- Eich hawliau
Os yw’r Brifysgol yn prosesu gwybodaeth bersonol amdanoch chi, mae gennych hawl i ddefnyddio’r hawliau unigol canlynol. Mae gennych yr hawl i:
- cael mynediad at eich gwybodaeth bersonol
- gwrthwynebu i’ch gwybodaeth bersonol gael ei phrosesu
- cywiro unrhyw ddata anghywir a ddelir
- cyfyngu ar brosesu gwybodaeth bersonol benodol
- hygludedd data
- gwrthwynebu i brosesu eich data personol
Ewch i wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth am wybodaeth bellach am eich hawliau. https://ico.org.uk/for-organisations/guide-to-the-general-data-protection-regulation-gdpr/individual-rights/
Os ydych wedi rhoi caniatâd blaenorol i brosesu eich data personol, mae gennych hawl hefyd i dynnu’r caniatâd hwn yn ôl ar unrhyw adeg, heb effeithio ar gyfreithlondeb y prosesu yn seiliedig ar ganiatâd cyn ei dynnu’n ôl.
Os ydych yn dymuno gwneud cwyn am y ffordd mae eich data personol wedi’i brosesu, gallwch gyflwyno eich pryderon yn ysgrifenedig i:
Swyddog Cydymffurfiaeth Gwybodaeth a Data
Uned Ysgrifenyddol
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Campws Llandaf
Rhodfa’r Gorllewin Caerdydd
CF5 2YB
DataProtection@cardiffmet.ac.uk
Os na fydd y broses hon yn datrys eich mater, neu os hoffech fynd â’ch cwyn ymhellach, mae gennych hawl i gysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth. Y manylion cyswllt yw:
Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
www.ico.org
Diweddarwyd Diwethaf: Mehefin 2023