gan Georgina Bennett
Fy enw i ydy Georgi Bennett, rwy’n dwli ar hanes ac yn Bennaeth Hanes yn Ysgol Gyfun
Pontarddulais. Dyma sut y dechreuais fy siwrne i arallgyfeirio a dadwladychu fy
nghwricwlwm a’r gwersi pwysig a ddysgais ar hyd y daith.
Mae’n wirionedd a gydnabyddir yn gyffredinol bod athrawon hanes wrth eu bodd yn dadlau. Rydym yn ystyried pethau o bob ongl gan archwilio’r gorffennol am pam, ble, pryd a beth. Yn gyffredinol, rydym yn angerddol am ein pwnc, fel y rhan fwyaf o athrawon, ac yn awyddus i rannu gwybodaeth ac i ysbrydoli ein dysgwyr gyda hanesion o’r gorffennol a sut mae’r rhain wedi ein siapio a’n diffinio. Rydym yn awyddus i’w darbwyllo bod hanes yn rhan bwysig o sut i newid pethau er gwell, nid yn unig wrth Trivial Pursuit gyda’ch teulu ar ddydd Nadolig neu os fyddwch chi byth ar ‘Who wants to be a Millionaire’.
Ond mae hyn wedi bod yn anodd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mewn rhai achosion mae’r farn wladychol o hanes wedi gwyro ein canfyddiadau ac, o ganlyniad, rhai’r disgyblion rydym yn eu haddysgu. Yn sicr, mae adroddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru – ‘Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Cwricwlwm Newydd’ – yn nodi’r glir ‘bod angen cynnwys mwy amrywiol a bod angen i themâu a chyfraniadau ethnig lleiafrifol gael eu cynrychioli’n well’ (LlC, 2021). Roedd yr adroddiad hwn yn torri tir newydd, ond hefyd yn anghyfforddus i’w ystyried. Gwnaeth i mi ail-werthuso’r hyn roeddwn yn ei addysgu’n a sut roeddwn yn gwneud hynny’n llwyr. Dyma le dechreuais ar y daith i arallgyfeirio a chyfoethogi fy nghwricwlwm; roeddwn yn awyddus i ddysgu, ac i sicrhau fy mod yn gwneud hynny mewn modd pwrpasol a dilys.
Felly ble ddechreuais i? Yn gyntaf, gwyddwn fod angen rhywfaint o help arna i. Roedd fy awdurdod lleol eisoes wedi cysylltu â mi mewn perthynas â chymryd rhan mewn cynllun peilot am hanes pobl dduon; roedd yn lle delfrydol i ddechrau felly. Wedi i mi gyfarfod â’m swyddog pwnc, edrychais ar wefannau ysgolion i chwilio am ysbrydoliaeth a chynlluniau gwaith a fyddai’n helpu; gofynnais yr un cwestiynau drosodd a throsodd. Yn ffodus i mi, cytunodd dwy ysgol, un yng Nghaerdydd ac ym Mryste, i gyfarfod â mi i drafod eu siwrnai a’u cynlluniau gwaith eu hunain. Rwy’n hynod o ddiolchgar am hyn; roedd eu mewnbwn yn amhrisiadwy. Cefais sgyrsiau gwerthfawr ac ystyrlon gyda DARPL mewn ymgais i ehangu fy safbwyntiau fy hun a dyfnhau fy nealltwriaeth. Mynychais hyfforddiant a ddarparwyd gan DARPL ar ôl cael fy annog gan fy Awdurdod Lleol. Y peth a atseiniodd fwyaf â mi oedd clywed gweithwyr proffesiynol yn trafod eu profiadau byw, a wnaeth i mi sylweddoli’r angen i ddatbwytho rhagfarnau anymwybodol, dechrau dadwneud ac ad-drefnu’r holl wybodaeth roeddwn wedi ei ddysgu, a nodi ym mhle roedd y bylchau yn fy nealltwriaeth i.
Gwnes hefyd gynllunio amser i holi ein dysgwyr; gofynnais iddynt am eu canfyddiad o hanes pobl dduon yng Nghymru, ac wrth wneud hynny, darganfyddais rai gwirioneddau oedd yn anodd eu clywed. Beth ddaeth yn amlwg, oedd mai’r tro cyntaf i’r rhan fwyaf o’r dysgwyr hyn, oedd i gyd ym mlynyddoedd 7-9, gael eu hamlygu i unrhyw fath o hanes pobl dduon oedd trwy hanes caethwasiaeth neu’r mudiadau hawliau sifil – ymhell o Gymru a’u hardal eu hunain. Wrth gwrs, mae’r dda u faes yn hynod o bwysig, ond drwy ganolbwyntio yn unig ar y ddau faes hyn, mae’r diffyg cyd-destun Cymreig wrth eu haddysgu yn creu stereoteip o fath arbennig o ddysgu a allai fod yn niweidiol i feddylfryd disgyblion. Ond nid ymwneud â’r dysgwyr yn unig roedd y gwaith a’r dysgu hwn; sylweddolais fod angen i mi feithrin fy hyder a fy ngwybodaeth fy hun hefyd, felly es ati i uwchsgilio fy hun. Gweithiais gyda DARPL a’m Hawdurdod Lleol, ymgysylltais â’r hanesyddiaeth, gan ddarllen gwaith gan haneswyr fel David Olusoga a Miranda Kaufmann. Ymchwiliais a gwrandewais ar bodlediadau, ac er fy mod yn dal i ddysgu a datblygu fy ngwybodaeth drwy’r amser, rwy’n dechrau magu hyder yn yr hyn sydd angen i mi ei wneud.
Y maes cyntaf a ddatblygais oedd modiwl yn seiliedig ar Deyrnasoedd Affrica. Roedd Teyrnasoedd Affrica a’u hanesion hynafol a chyfoethog yn ymddangos yn bwnc delfrydol i ennyn diddordeb a datblygu dealltwriaeth dysgwyr o un feysydd mwyaf diddorol a phwysig hanes pobl dduon. Gwnes hefyd ddatblygu modiwl ‘Pwy yw’r Cymry?’ i edrych ar beth mae’n ei olygu i fod yn Gymro, ac nid yn unig hanes dinasyddion duon ac ethnig Cymru ond rhai’r cymunedau LHDTC+ yn ogystal â dosbarth gweithiol Cymru a menywod Cymreig. Gwnaethom hefyd ystyried sut mae’r hanesion hyn yn cysylltu â’i gilydd o dan ymbarél Cymreictod. Wrth ddiwygio’r meysydd sydd eisoes yn cael eu dysgu, llenwais y bylchau, er enghraifft, wrth ddysgu hanes y ‘Titanic’, rwyf nawr yn ystyried effaith yr Ymerodraeth Brydeinig a gwladychu ar enaid Prydain yn ystod y cyfnod hwn a sut yr effeithiodd y rhain ar y penderfyniadau a wnaed wrth adeiladu’r llong. Mae meinhau ymagweddau yn waith anodd a chymhleth, ond daw â chyfleoedd addysgu a dysgu ysgogol, beirniadol a dilys. Rwy’n dal i ddysgu, addasu a diwygio’r gwersi hyn a cheisio cyngor lle bynnag y bo modd. Rwy’n obeithiol bod yr effaith hyd yma wedi bod yn gadarnhaol.
Un o’r gwersi pwysicaf i mi ei ddysgu drwy gydol hyn oll oedd bod ffeithiau a chyd-destun ar goll o fy hen gwricwlwm. Roedd fel jig-so â darnau coll, a olygai nad oeddwn yn rhoi’r wybodaeth lawn sydd ei hangen ar fy nysgwyr er mwyn iddynt ddod yn ddinasyddion byd-eang moesegol, gwybodus.Wedi’r cyfan, mae hanes pobl dduon, hanes LHDTC+, hanes y dosbarth gweithiol, hanes menywod.. holl agweddau o hanes yn rhan o’n Cymru ni heddiw. Mae cysylltiad annatod rhyngddynt; maent yn un stori ond ni allem ddysgu ohoni os oes tudalennau ar goll. Mae angen gosod hanes yng nghyyd-destun y presennol, gan dynnu ar y gorffennol er mwyn sefydlu ein dyfodol wrth i ni gyd gamu gyda’n gilydd tuag at Gymru Wrth- hiliol 2030.
Dolenni Defnyddiol:
https://darpl.org/teachers-student-teacher-series/
https://cargomovement.org/press.html
https://darpl.org/curriculum-design-the-black-curriculum-session-1/