Dysgwyr sy’n gweld y tu hwnt i un stori: sylweddoli sut a pham?

Trwy Gyfres Arweinyddiaeth Uwch (ELS) DARPL, dwi wedi datblygu dealltwriaeth llawer mwy clir o’r hyn y mae gwrth-hiliaeth yn ei olygu mewn gwirionedd yn fy arweinyddiaeth, yn ymarferol ac mewn bywyd yn gyffredinol, a sut mae’n wahanol i ddim ond “peidio â bod yn hiliol.” Mae bod yn wrth-hiliol, dwi wedi dysgu, yn golygu hunan-fyfyrio parhaus, gweithredu bwriadol, a pharodrwydd i herio anghydraddoldebau ble bynnag y maen nhw’n ymddangos. Mae ELS DARPL wedi fy ysgogi i feddwl yn fwy beirniadol am fy hunaniaeth fy hun a’r ffyrdd y mae fy mraint fel person gwyn ac amgylcheddau Gwyn yn siapio fy mhrofiadau, fy rhagdybiaethau a’m hymwneud ag eraill.

Fel arbenigwr ym maes hanes, roeddwn i wedi teimlo yn y gorffennol mod i wedi gwneud cynnydd gwerth chweil yn dad-drefedigaethu’r cwricwlwm i’n disgyblion. Fodd bynnag, mae ELS DARPL wedi gwneud i mi sylweddoli bod y gwaith hwn yn waith parhaus ac mae’n gofyn i mi ailystyried y deunyddiau a’r naratifau dwi’n eu cyflwyno yn yr ystafell ddosbarth. Yn benodol, mae angen i mi sicrhau nad yw’r adnoddau dwi’n eu defnyddio yn gyfyngedig i safbwyntiau gwyn Ewropeaidd, ond yn hytrach yn adlewyrchu ystod ehangach, fwy cynhwysol o leisiau, hanesion a phrofiadau. Mae angen i’r gwaith dreiddio’n ddwfn drwy ddull cyfannol o ddysgu ac addysgu, gan symud ein gwaith i ffwrdd o ewyllys da ar lefel arwynebol i ddilysrwydd ac arloesedd.

Er enghraifft, wrth ddysgu am y Swffragetiaid, mae’n bwysig nid yn unig tynnu sylw at ffigurau adnabyddus fel Emmeline Pankhurst, ond hefyd archwilio cyfraniadau menywod o liw fel Sophia Duleep Singh. Y tu hwnt i Brydain, mae archwilio mudiadau yn ymwneud â’r bleidlais ledled y byd yn helpu disgyblion i ddatblygu dealltwriaeth gyfoethocach a mwy byd-eang o’r frwydr dros gydraddoldeb.

Mae hyn yn teimlo’n arbennig o bwysig mewn ysgol gydag ychydig iawn o ddisgyblion sydd â thras Mwyafrif Byd-eang, lle gall y cwricwlwm fod yn un o’r unig leoedd y maen nhw’n gweld eu hunain yn cael eu cynrychioli – a lle mae angen cyfleoedd ar bob disgybl i ymgysylltu â safbwyntiau a chyfraniadau amrywiol i herio stereoteipiau a datblygu gwell dealltwriaeth o ddinasyddiaeth fyd-eang foesegol nawr ac yn y dyfodol. Efallai y bydd gwaddol y gwaith hwn yn ein hysgol a’r holl ysgolion sy’n dilyn DARPL ledled Cymru hefyd yn helpu i ysbrydoli ac arallgyfeirio gweithlu addysgu’r dyfodol yn yr atgofion o bwy sy’n perthyn i addysg yng Nghymru.

Mae ysgrifennu’r pwt bach hwn o fyfyrdod hefyd wedi fy ailatgoffa pa mor bwysig yw ymestyn y dull beirniadol hwn wrth yrru gwrth-hiliaeth a dad-drefedigaethu y tu hwnt i’m maes pwnc fy hun ac ystyried sut y gellir gwreiddio egwyddorion gwrth-hiliol ar draws ein cwricwlwm, ac ym mholisïau a diwylliant yr ysgol gyfan. Wrth symud ymlaen, dwi’n ymrwymedig i ddyfnhau’r gwaith hwn yn unigol ac ar draws ein sefydliad dysgu, gan ailedrych ar ein dewisiadau o ran y cwricwlwm, a chyfrannu at fyfyrio a newid ehangach, yn yr ysgol gyfan ac yn y gymuned.

Beth fyddwch chi’n ei wneud nesaf yn DARPL?

Rhannu cynnwys

Erthyglau eraill yn y gyfres hon