Herio Rhagfarn, Hyrwyddo Cynhwysiant, Newid Ein Cymuned

Yn y Gyfres Arweinyddiaeth Uwch (ELS) DARPL drwyddi draw, dwi wedi edrych yn onest arnaf fi fy hun ac ar y rhagfarn ddiarwybod a’r rhagfarn cyswllt sydd gen i o bosibl. Dwi wedi sylweddoli pa mor hawdd y gall rhagdybiaethau cynnil ddylanwadu ar ein hymwneud â’n gilydd, ar benderfyniadau, ac ar yr amgylchedd dysgu, yn aml heb i ni gydnabod hynny. Mae’r profiad dysgu hwn wedi fy annog a’m galluogi i fyfyrio’n ddyfnach ar fy ngweithredoedd, sut y gellir eu dehongli, a’r effaith y gallant ei chael. Dwi’n cydnabod bod herio rhagfarn yn dechrau gyda hunanymwybyddiaeth, trwy sylwi ar y pethau bach, cwestiynu arferion hirsefydlog, a bod yn barod i eistedd gydag anghysur. Mae hyn wedi bod yn un o’r agweddau mwyaf heriol ar y dysgu, ond hefyd yn un o’r agweddau mwyaf ystyrlon. Dwi’n deall yn fwy clir erbyn hyn nad un weithred yw ymarfer ac arweinyddiaeth gwrth-hiliol, ond ymrwymiad parhaus. Mae gan fy ngweithredoedd arwain ddylanwad, ac mae angen i fi sicrhau nad ydyn nhw’n anhiliol yn unig, ond yn hytrach, eu bod yn empathig o wrth-hiliol.

Hyrwyddo Cynhwysiant 

Un o’r rhannau mwyaf grymusol a heriol o ELS DARPL yw dysgu sut i godi llais yn hyderus pan nad yw rhywbeth yn iawn. Dwi bellach yn teimlo’n fwy parod i herio anghydraddoldebau yn ddigynnwrf, yn barchus ac yn bwrpasol. Dwi’n teimlo’n fwy hyderus yn arwain plant pan fyddan nhw’n defnyddio iaith niweidiol neu hen ffasiwn, ac yn fwy parod i gefnogi cydweithwyr gyda sensitifrwydd a gofal. Dwi wedi dod i werthfawrogi pa mor bwysig yw hi i bob dysgwr weld eu hunain yn cael eu cynrychioli’n gadarnhaol ac yn ystyrlon yn yr ysgol. Dydy cynhwysiant ddim yn digwydd trwy ddamwain, mae angen bwriad, ymrwymiad, gofal a myfyrio parhaus. O ganlyniad i’r hyfforddiant gyda DARPL, dwi’n teimlo ymdeimlad cryfach o gyfrifoldeb i sicrhau bod pob plentyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a’i gynrychioli ac yn teimlo’n ddiogel a bod pob teulu yn gwybod bod eu hunaniaeth a’u diwylliant yn cael eu croesawu a’u dathlu.

Newid Ein Cymuned

Wrth symud ymlaen, dwi’n benderfynol o gyfrannu at newid parhaus ac ystyrlon ar draws cymuned yr ysgol gyfan ac yn ehangach. Mae’n rhaid i’r gwaith hwn gael ei wreiddio yn ein harfer bob dydd, yn ein polisïau, ac yn ein perthnasoedd. Dwi am greu ac arwain diwylliant lle mae gwrth-hiliaeth yn weladwy, yn cael ei fyw a’i rannu gan bawb. Mae hyn yn golygu cefnogi cyfraniadau i’n Cynllun Cydraddoldeb Strategol, gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr, gwrando ar deuluoedd, a sicrhau bod ein penderfyniadau’n adlewyrchu realiti ac anghenion ein cymuned. Yn bwysicaf oll, dwi eisiau defnyddio’r hyn dwi wedi’i ddysgu i greu ysgol lle mae pob dysgwr, aelod o staff, rhiant, a llywodraethwr yn teimlo eu bod yn perthyn a lle mae’r amgylchedd rydyn ni’n ei greu yn herio anghydraddoldebau y byd ehangach yn hytrach na’u hadlewyrchu.

Beth fyddwch chi’n ei wneud nesaf yn DARPL?

Rhannu cynnwys

Erthyglau eraill yn y gyfres hon