Carfan 5 Cyfres Arweinyddiaeth Uwch (ELS) DARPL – rhoi fy nysg ar waith ac mewn arweinyddiaeth

Mi wnes i ymwneud â DARPL yn wreiddiol yn ystod y Sioe Deithiol ym Mhenmaenmawr yn 2025. Daeth ‘DARPLio’ yn ferf newydd i mi. Ar y diwrnod hwnnw, siaradodd Chantelle a Leon yn angerddol am bwysigrwydd addysgu gwrth-hiliol a’n hysbrydoli gyda chyd-destun ac enghreifftiau go iawn ar gyfer sut a pham. Er bod gen i ffrindiau sy’n gweithio mewn adrannau Amrywiaeth a Chynhwysiant yn y sector cyhoeddus ac wedi dysgu am eu gwaith, doeddwn i ddim wedi ymwneud â dysgu gwrth-hiliol yn y maes addysg. O edrych yn ôl, dylai fy ffocws a’m dysgu fod wedi dechrau yn agosach at adref – gyda’r plant yn ein hysgol. Doeddwn i ddim wedi ystyried y fraint rydw i wedi’i brofi a sut mae hyn yn ystumio fy safbwynt. Mae cwblhau’r Gyfres Arweinyddiaeth Uwch wedi bod yn drawsnewidiol o ran fy agwedd a fy null o addysgu yn ein hysgol.

Rwyf wedi elwa llawer iawn o gwrs Arweinyddiaeth Uwch DARPL. Rhoddodd rai enghreifftiau penodol o gamau y gallaf eu cymryd yn yr ysgol a thynnu sylw at bwyntiau ehangach am wrth-hiliaeth yn gyffredinol. Rwyf wedi magu hyder wrth siarad am wrth-hiliaeth gyda chydweithwyr ac wedi dechrau rhoi fy nysgu ar waith a’i gynnwys yn fy arweinyddiaeth.

Roedd sesiwn gyntaf Cyfres Uwch Arweinyddiaeth DARPL ym Mangor, dan arweiniad tîm Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, yn un a ddarparodd lawer o erthyglau a brasluniau ysgogol a defnyddiol i ni, ac fe wnaethom gyffwrdd â’r elfennau hanfodol i ddad-drefedigaethu’r cwricwlwm am y tro cyntaf, ac adeiladwyd yn fanwl ar hynny yn ddiweddarach yn y cwrs. Yn ystod y sesiwn ragarweiniol, fe wnaethom drafod cynnal ymchwil gweithredu, sgyrsiau ymholi a dysgu myfyriol i bennu’r profiadau yn ein cymuned ddysgu.  Yn y sesiwn hon cawsom wybod am erthygl Mai a Whitlock am sut i ymateb gyda thosturi pan gaiff rhywun ei frifo gan hiliaeth, erthygl sydd eisoes wedi bod yn ddefnyddiol yn yr ysgol. 

Pan siaradodd Rachel Clarke o Apex Educate, fe wnes i nodi ar y pwynt hwnnw fy mod i yn y parthau ‘dysgu / twf’ o ran fy nghynnydd fy hun tuag at ddod yn wrth-hiliol. Rwy’n cydnabod fy mod i’n freintiedig ac rwy’n gwybod bod hiliaeth yn broblem gyfredol yng Nghymru a’r byd. Fe wnaeth y neges na all gwrth-hiliaeth fod yn ‘flwch ticio’ yn unig neu’n gynllun tymor byr nac yn rhywbeth unwaith-ac-am-byth ac nad yw cael Mis Hanes Pobl Ddu yn yr ysgol yn ddigonol, fy nharo i, doeddwn i heb gwestiynu hynny o’r blaen. Rwy’n cydnabod bod datblygu diwylliant gwrth-hiliol yn ymwneud â sgwrsio gyda theuluoedd a meithrin perthnasoedd. Roedd y sesiwn ar Gydraddoldeb a Thegwch yr un mor bwysig ac rwyf wedi defnyddio rhai o’r adnodau a grybwyllwyd mewn hyfforddiant staff dilynol. Roeddwn hefyd yn hoffi defnydd Rachel o ddyfyniad Beyonce: “It’s not about perfection; it’s about purpose.” 

Rwy’n credu mai’r sesiwn dan arweiniad Karen Brooke o Oshun Education oedd fy hoff sesiwn a’r un mwyaf defnyddiol wrth roi’r dysgu ar waith. Roeddwn yn hoff iawn o ymagwedd Karen ac fe gafodd y garfan drafodaethau gwych ar y diwrnod. Roedd hyn yn arbennig o addas oherwydd un o’r negeseuon allweddol oedd yr angen i drafod hiliaeth yn agored. Os nad ydym yn ei drafod yn yr ysgol, gall mwy o hiliaeth fodoli. Dyma neges rydw i wedi mynd â hi yn ôl i’r ysgol ac wedi ei rhannu gyda chydweithwyr. Os ydym am greu dinasyddion egwyddorol yng Nghymru a’r Byd, mae angen i ni ddad-drefedigaethu’r cwricwlwm. Yn wreiddiol, roeddwn i’n gweld y posibilrwydd o ddad-drefedigaethu’r cwricwlwm fesul uned yn frawychus ond fe wnaeth enghreifftiau ac anogaeth Karen hwn yn weithgaredd pleserus a buddiol iawn. Mae gennym ffordd bell i fynd yn ein hysgol ni ond rwy’n hyderus fy mod i’n gwybod sut i fynd i’r afael â’r trafodaethau gyda staff. e.e. mae ein Blynyddoedd 4 a 5 yn astudio pobl oes Fictoria yn yr ysgol; rwy’n teimlo bod lle i wneud llawer o newidiadau ystyrlon i’n hagwedd at y pwnc hwn trwy ymgorffori gwahanol fannau cychwyn, gwahanol safbwyntiau a chyfres ehangach a mwy amrywiol o enghreifftiau.

Un o’r pethau allweddol a ddaeth i’r amlwg trwy’r holl sesiynau dan arweiniad yr holl siaradwyr, ond yn enwedig Chantelle ei hun a Louise o The Black Curriculum, oedd bod angen i staff gael eu haddysgu a’u hyfforddi a bod angen i ni adnabod ein cymunedau dysgu. Does dim pwynt newid y cwricwlwm os nad yw staff yn ymwybodol o’r rhesymau dros wneud hynny. Am y rheswm hwn ac i’r perwyl hwn, mae’r holl staff wedi gwylio a thrafod fideos Cyfres Athrawon DARPL ar wefan DARPL. Bydd gwrth-hiliaeth yn rhan o’n cynllun i wella’r ysgol y flwyddyn academaidd nesaf. Mae gennym bellach lywodraethwr cyswllt dros degwch ac amrywiaeth ac mae ein grŵp o ddisgyblion wedi’i sefydlu. Y camau nesaf yw dysgu proffesiynol a DARPL ar gyfer ein staff ysgol gyfan.

Mae cwblhau Cyfres Arweinyddiaeth Uwch DARPL wedi bod yn brofiad gwerth chweil i mi yn bersonol ac rwy’n hyderus y bydd yn cael effaith gadarnhaol ar y plant a’r staff yn ein hysgol o ganlyniad hefyd.

Beth ydych chi’n bwriadu ei wneud nesaf yng Nghymuned Ymarfer DARPL? 

I ddarganfod mwy am ymuno â Rhwydwaith Eiriolaeth DARPL (DAN) (dilynwch y ddolen hon): Rhwydwaith Eiriolaeth – DARPL

I ddarganfod mwy am fynychu’r Gyfres Arweinyddiaeth Uwch (dilynwch y ddolen hon): Cyfres Arweinyddiaeth Uwch – DARPL

Rhannu cynnwys

Erthyglau eraill yn y gyfres hon