Fel Arweinydd rwy’n Teimlo’n Fwy Hyderus

Fy myfyrdodau ar sut mae Cyfres Arweinyddiaeth Uwch (ELS) Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth (DARPL) wedi effeithio ar fy ngwybodaeth bresennol a fy mhrofiad proffesiynol. Mae Cyfres Arweinyddiaeth Uwch DARPL wedi effeithio’n fawr ar fy safbwynt ar wrth-hiliaeth. Mae wedi gwneud i mi feddwl a myfyrio nid yn unig ar hiliaeth o fewn yr ysgol rhwng disgyblion ond ar gymuned yr ysgol a chymdeithas ehangach. 

Cwricwlwm

Rwy’n teimlo mai’r effaith fwyaf fu’r newid yn fy ffordd o feddwl am ddad-drefedigaethu’r cwricwlwm, ac ynghylch i ba raddau y mae pob un o ddisgyblion fy ysgol yn teimlo eu bod yn cael eu cynrychioli’n dda neu beidio. Yn dilyn sesiwn y Gyfres Arweinyddiaeth Uwch ar y cwricwlwm a chael trafodaethau heriol ynghylch adnoddau, testunau, modelau rôl a chynnwys yn ystod y sesiwn hyfforddi, roedd gen i lawer i feddwl amdano a llawer i’w drafod gyda’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn yr ysgol. Roedd yn amlwg bod hiliaeth fel testun yn cael sylw mewn pynciau fel y Dyniaethau a Saesneg ond efallai ar lefel arwynebol ac ar wahân i hynny roedd yn ymddangos bod bylchau mawr yn ein cwricwlwm. Mae angen i ni ddatblygu cwricwlwm pendant sy’n galluogi disgyblion i gael cyflwyniad a phedagogeg gytbwys, sy’n symud oddi wrth ymagwedd Ewroganolog ac yn ystyried ymagwedd Affroganolog, ynghyd â safbwyntiau ehangach, er mwyn sicrhau bod pob disgybl yn teimlo ei fod yn cael ei gynrychioli, ei werthfawrogi a’i ysbrydoli. Yn dilyn fy amser ar y Gyfres Arweinyddiaeth Uwch, fe wnes i gyfarfod â’r Dirprwy Bennaeth i drafod a gweithredu archwiliad cwricwlwm o amgylch amrywiaeth ar draws y cwricwlwm ac adnoddau. Mae’r archwiliad hwn yn cael ei gynnal yn Nhymor yr Haf 2026. 

Fel arweinydd, rwy’n teimlo’n fwy hyderus wrth drafod hiliaeth yn y tymor ehangach gydag arweinwyr a’r staff. Rwy’n gobeithio, gyda’r hyder hwn a hyfforddiant staff ychwanegol drwy DARPL y byddaf yn grymuso’r holl staff yn fy ysgol i deimlo’n fwy hyderus i gyflwyno meddwl heriol a grymuso disgyblion i herio adnoddau a thestunau er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu dysgu mewn ffordd gytbwys o gyflwyno gwahanol bynciau. 

Llysgenhadon Gwrth-Hiliaeth

Ochr yn ochr â’r holl waith trwy gydol y cwrs hwn, rwyf hefyd wedi bod yn gweithio gyda phartner o Gymuned Ymarfer DARPL: Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, Cymru. Mae’r cydweithrediadau hyn wedi dod â chyfle i mi ymchwilio’n ddyfnach i faterion ysgol a mynd i’r afael â nhw gydag uwch arweinwyr eraill, staff a disgyblion. Rydym wedi cynnal arolwg ysgol gyfan er mwyn deall canfyddiadau, credoau a heriau presennol ein myfyrwyr. Ar ôl hyn, fe wnes i weithio gyda’n Llysgenhadon Gwrth-Hiliaeth i greu sleidiau addysgol i diwtoriaid dosbarth eu cyflwyno ynghylch sarhad hiliol a pha derminoleg sy’n dderbyniol a beth fyddai’n drosedd casineb. Mae sesiwn DARPL ddefnyddiol ar y Campws Rhithwir ynghylch terminoleg. Yn dilyn canlyniadau ein harolwg, fe wnaethom wedyn gwblhau arolwg gyda myfyrwyr â threftadaeth fwyafrif byd-eang i gael gwell dealltwriaeth o sut mae ein myfyrwyr yn teimlo yn yr ysgol a’r gymuned ehangach, ydyn nhw’n teimlo eu bod yn cael eu cynrychioli a pha mor hapus fydden nhw yn herio ac yn adrodd am hiliaeth. Mae’r data hwn wedi bod yn hynod o ddefnyddiol i’n helpu i adnabod ein dysgwyr, deall cyd-destun ein cymuned ddysgu a chynllunio ein camau nesaf 

  • cwblhau archwiliad o’r cwricwlwm,
  • cynyddu nifer y llysgenhadon gwrth-hiliaeth 
  • parhau i sicrhau bod ein holl gorff myfyrwyr a staff yn cael eu hadnabod a’u cynrychioli’n dda. 

Effaith ar fy nghyflwyniad a’m harweinyddaieth yn yr ystafell ddosbarth

Ers cwblhau cwrs Cyfres Arweinyddiaeth Uwch DARPL rydw i wedi dod yn feddyliwr llawer mwy agored o ran cynllunio, cyflwyno gwersi ac addysgu. Rwy’n teimlo bod fy ymchwil mewn meysydd pwnc yn treiddio’n llawer dyfnach, yn fwy beirniadol, yn fwy creadigol er mwyn sicrhau bod y myfyrwyr yn cael cydbwysedd o feysydd pwnc. Rwy’n fwy ymwybodol o’r testunau rydw i’n eu defnyddio / nad ydw i’n eu defnyddio o ran pwy sydd wedi eu hysgrifennu ac o le maen nhw wedi tarddu, y negeseuon ynddynt a sut rwy’n cyflwyno pynciau penodol er mwyn sicrhau ein bod yn beirniadu rhagfarn yn agored ac yn ystyried ystod eang o safbwyntiau. Mae Cyfres Arweinyddiaeth Uwch DARPL wedi effeithio ar fy nghyflwyniad yn yr ystafell ddosbarth; wedi fy ngwneud yn addysgwr gwell o’i herwydd; wedi ehangu fy meddwl a’m dull o ymdrin â phwnc ehangach amrywiaeth a hiliaeth o fewn addysg ac wedi cael effaith ddofn ar fy arweinyddiaeth ymwybodol mewn addysg. 

I ddarganfod mwy am ymuno â Rhwydwaith Eiriolaeth DARPL (DAN) (dilynwch y ddolen hon): Rhwydwaith Eiriolaeth – DARPL

I ddarganfod mwy am fynychu’r Gyfres Arweinyddiaeth Uwch (dilynwch y ddolen hon): Cyfres Arweinyddiaeth Uwch – DARPL

Rhannu cynnwys

Erthyglau eraill yn y gyfres hon