Mi wnaeth Cyfres Arweinyddiaeth Uwch (ELS) DARPL wneud imi feddwl o ddifrif, gwneud imi eistedd, a hynny’n anghyfforddus weithiau, i edrych ar y gwirionedd, a myfyrio ar fy rôl yn bersonol ac yn broffesiynol mewn ffurfio a dylanwadu ar fyd gwell. Wrth gwrs, nid yw myfyrio’n ddigon – er bod hon yn weithred oddefol fel arfer a bod prysurdeb ein meddyliau, a’n gwaith yn golygu ein bod yn symud yn sydyn ddigon at ‘y peth nesaf’, heb y gallu i fod yn bresennol yn y foment ac ymrwymo i wneud newid gwirioneddol.
Wrth fynychu cyfres ELS DARPL, fe’m trawyd gan yr egni a rennir a gofal a chymuned ymarfer wirioneddol, nad yw’n bodoli’n unig am ein bod i gyd yn addysgwyr. Oedd, mi oedd yn braf gweld ymrwymiad i atal hiliaeth yn rhychwantu blynyddoedd cynnar bob cam at addysg bellach, ond roedd yn fwy na hynny, roedd sylfaen o werthoedd ar y cyd ac ymrwymiad i roi amser yn y ddwy sesiwn ac mewn dysgu dwfn a gweithredu a llywio darllen y tu hwnt i sesiynau ELS strwythuredig i ddysgu, gwella ymarfer ac i sicrhau newid. Roedd y profiad o gyd-ddysgu yn y sesiynau ELS yn drawsnewidiol.
Rwy’n teimlo fy mod yn ffodus dros ben i weithio mewn sefydliad lle mae gwerthoedd yn fwy na geiriau ar wal neu wefan. Mae gwerthoedd yn creu ymdeimlad o gymuned ac, yn y pen draw, rhywle lle’r ydych yn perthyn, lle mae pobl yn atebol am eu gweithredoedd a’u geiriau. Yn ystod trydydd diwrnod ELS DARPL, a hwyluswyd gan Kwame Boateng, bu’n sôn am bobl fel ‘meistri patrymau’, a all newid y tapestri, newid rhywbeth yn awr i effeithio ar y dyfodol – wow. Roedd hyn yn canu cloch imi, gan wneud imi feddwl am y fraint a phwysau’r cyfrifoldeb sydd arnom ni sy’n gweithio mewn addysg, i feithrin a ffurfiol meddyliau ac i wneud gwahaniaeth. Nid oes a wnelo hyn â’n rôl na’n teitl mewn sefydliad, ond y rhyngweithio dyddiol, y cyfleoedd a’r cyfrifoldeb sydd ar bob un ohonom. Mae rhyngweithiadau ac iaith yn cael effaith ddofn, a hynny’n aml heb inni sylweddoli. Byddaf yn myfyrio’n aml ar adegau yn fy siwrnai fy hun a all, wrth edrych yn ôl, deimlo’n anghyfforddus, ond maent wedi fy natblygu a heb os wedi helpu i fy llywio drwy heriau a chyfleoedd y dyfodol, a hynny er gwell, gobeithio.
Rwyf yn cydnabod fy mod mewn rôl lle mae ffurfio datblygiad sefydliadol a blaenoriaethau dysgu proffesiynol yn rhan hanfodol o fy swyddogaeth. Rydym wedi neilltuo nifer o ddyddiau dysgu coleg cyfan i feithrin ein dull a’n disgwyliadau o ran bod yn sefydliad gwrth-hiliol. Rydym wedi bod yn ddigon ffodus i gael cyfraniadau gwych ac enghreifftiau o brofiad bywyd gonest gan siaradwyr fel Jeffrey Boakye (awdur toreithiog), yr Athro Jason Arday, Gulwali Passarlay, yr Athro Uzo Iwobi OBE (sy’n hefyd yn un o gymrodorion y Coleg), Rachel Clarke (o CMet, DARPL ac APEX) a Connor Allen (bardd a chyn Fardd Plant Cymru). Mae’n nodedig bod y gwaith hwn wedi’i ymestyn i gynnwys ymgysylltu â’n myfyrwyr hefyd.
Er yr holl gyfleoedd dysgu proffesiynol rhagorol, rwyf wedi bod yn myfyrio fwyfwy ar effaith ‘hyfforddiant’ o’i gymharu ag atebolrwydd personol i wneud y peth iawn – caredigrwydd pobl sy’n bwysig wedi’r cyfan. Un rhan yn unig o’r tapestri yw hyfforddiant, elfennau efallai o’r llawlyfr cyfarwyddiadau, ond yn syml, mi fydd yn rhaid inni wedyn ddechrau gweithredu. Yn y meddylfryd hwn, rhaid i ddysgu personol a phroffesiynol fod yn barhaus, cael ei gynnal, ei gefnogi a bod yn her.
O blith gweithredoedd ein Coleg, mae un enghraifft yn ganlyniad dilyn Cyfres Arweinyddiaeth Uwch DARPL. Er enghraifft, troi at Ganllaw Diddymu DARPL https://darpl.org/wp-content/uploads/2024/07/DARPL-Eradicating-Racism-Guide_ENGLISH.pdf
Rydym wedi datblygu siart sy’n dangos yn glir ein ffordd o ddelio â digwyddiadau / datgeliadau hiliol, rheoli gweithdrefnau cyfathrebu ar gyfer staff a myfyrwyr. Mae hyn yn creu eglurder pwysig, ynghyd â disgwyliadau, sy’n cyd-fynd â’n gwerthoedd sefydliadol. Mae Boakye (2022) a Davis a Haughton (2023) yn dangos yn glir y poendod a’r loes mae hiliaeth a diffyg gweithredu priodol yn ei achosi a thrwy hynny pa mor bwysig yw delio ag ef fel mater diogelu craidd.
Rydym hefyd wedi datblygu cynllun gwrth-hiliol mwy manwl yng Ngholeg Penybont, sy’n cyd-fynd â Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru, sydd wedi arwain at benodi ymarferydd cwricwlwm gwrth-hiliol i gefnogi pob un o’n meysydd cwricwlwm i ddatblygu eu haddysgeg a’u hadnoddau addysgu. Mae un o’r enghreifftiau ardderchog o’r gwaith hwn ym maes ein cwricwlwm Gwallt a Harddwch lle’r ydym wedi gweithio â sefydliad dyfarnu i ddylunio ac achredu modiwl ar wallt gweadog, gan alluogi ein myfyrwyr i ehangu eu sgiliau a’u gwybodaeth wrth iddynt baratoi ar gyfer eu gyrfaoedd. Yn ein hadolygiad diweddaraf o’n cynllun gweithredu, daethom â myfyrwyr, staff a llywodraethwyr ynghyd i fyfyrio ar ein cynnydd hyd yma ac i bennu ein prif flaenoriaethau wrth inni edrych tua’r dyfodol – mi allwch weld y trosolwg o’r diwrnod a gofnodwyd isod.

Beth bynnag yw eich rôl yn eich sefydliad dysgu, cofiwch dri pheth:
- Bod dysgu sy’n rhoi pwyslais ar wrth-hiliaeth yn fwy na ‘hyfforddiant yn unig’ neu’r hyn mae eich sefydliad yn ei gynllunio ar bapur – mae’r cyfan yn dechrau gyda chi. Meddyliwch am y sawl rydych yn cysylltu â hwy, y llyfrau rydych yn eu darllen neu’r podlediadau rydych yn gwrando arnynt. Myfyriwch, dysgwch, ond yn bwysicaf oll, gwnewch newid bwriadus.
- Nid yw caredigrwydd pobl yn costio, ac mae’n rhywbeth sy’n ymledu’n hawdd – pobl sy’n gwneud i newid ddigwydd.
- Ymgysylltwch â darpariaeth, adnoddau a chyfleoedd cymuned ymarfer DARPL.
Pob arweinydd a’ch timau, ystyriwch fynd ar Gyfres Arweinyddiaeth Uwch DARPL (ELS) i adeiladu ar eich gwaith a’ch cymuned ymarfer. Os hoffech wybod mwy am ELS DARPL neu i archebu lle, cliciwch ar y ddolen: https://darpl.org/community-of-practice/enhanced-leadership-series/
Cyfeiriadau@
Boakye, J. (2022). I Heard What You Said. Pan Macmillan.
Davis, S a Haughton, C (2023) Gwent Safeguarding Board Report. Gwent: GSB